Cofrestru rhwydwaith llinellog

Os oes gweithgaredd yn cael ei wneud ar ran o ffordd, afon, camlas neu reilffordd (rhwydwaith llinellog), mae'n bosibl na fyddwch yn gallu dweud yn union lle bydd y gweithgaredd, ond efallai y gallwch gofrestru o hyd.

Proses cofrestru rhwydwaith llinellog

Ni allwch gofrestru rhwydwaith llinellog gan ddefnyddio'r system ar-lein. Ffoniwch ni ar 0300 065 3000.

Linear network exemption codes

Gellir cofrestru eithriadau U1, U12, D1 a D2 fel rhwydwaith llinellog, ar yr amod y bodlonir y cyfyngiadau isod.

U1 – Defnyddio gwastraff adeiladu fel rhwydwaith llinellog

Gellir cofrestru U1 ar gyfer lle (e.e. safle adeiladu) neu nodwedd linellog fel ffordd.

Byddwn ond yn derbyn cofrestriad llinellog U1 lle y bwriedir defnyddio'r gwastraff adeiladu ar gyfer cynnal a chadw adeiledd cyfredol, ac nid i greu adeiladwaith newydd neu estyniad i adeiladwaith cyfredol.

Ar gyfer esemptiad U1, byddwn yn ystyried y canlynol fel lle ar wahân ar rwydwaith llinellog a gofrestrwyd yn flaenorol:

  • Unrhyw leoliad arwahanol y mae adeiladwaith newydd yn cael ei godi neu lle mae'r symiau a ddefnyddir i gynnal a chadw a thrwsio adeiladwaith yn fwy na'r symiau a ddiffinnir ar gyfer rhwydweithiau llinellog
  • Adeiladwaith newydd sy'n cynnwys estyniad neu amnewid adeiledd cyfredol

Dylid cofrestru'r lle ychwanegol fel U1. Dim ond un U1 ychwanegol y gellir ei gofrestru mewn perthynas ag unrhyw adeiledd newydd a ddaw yn sgil defnyddio'r gwastraff adeiladu.

U12 – Defnyddio tomwellt

Byddwn yn caniatáu i rwydwaith llinellog gael ei gofrestru pan gaiff y tomwellt ei greu a'i ddefnyddio ar y rhwydwaith llinellog hwnnw – ni ellir ei fewnforio o safleoedd eraill.

Gallwch ddefnyddio hyd at ddeng tunnell o domwellt y mis am bob milltir llinellog pan fydd y tomwellt hwnnw wedi tarddu o'r rhwydwaith llinellog y mae'n cael ei ddefnyddio arno.

D1 – Dodi gwastraff o dreillio dyfroedd mewndirol

Mae'r esemptiad hwn yn seiliedig ar gyfyngiad llinellog. Byddwn yn gosod y cyfyngiad hwn yn unol â'r hyn a nodir yn y ddeddfwriaeth. Mae'r ddeddfwriaeth yn caniatáu i rywun ddodi neu drin hyd at 50 metr ciwbig o'r gwastraff a nodwyd ar gyfer pob metr o'r tir y mae'r gwastraff yn cael ei ddodi arno dros gyfnod o 12 mis.

Diweddarwyd ddiwethaf