Datganiad rheoleiddio 122: Gweithredu terfynau plastigau ychwanegol ar ddeunyddiau PAS100/PAS110
Mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ddilys tan fis Rhagfyr 2026 ac erbyn yr adeg honno bydd yn cael ei adolygu. Dylech wirio eto bryd hynny i sicrhau bod y datganiad rheoleiddio yn dal yn ddilys.
Gall CNC dynnu'r datganiad rheoleiddio hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os byddwn yn ystyried bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ymwneud â nhw wedi newid.
Datganiad Rheoleiddio
Mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn berthnasol i gynhyrchu, storio a defnyddio compost PAS100 ardystiedig neu weddillion treulio PAS110, nad ydynt yn bodloni'r terfyn plastigau a nodir o fewn canllawiau diwedd gwastraff wedi'u haddasu CNC ar gyfer Compost ac ar gyfer Gweddillion Treulio Anaerobig (wedi'i addasu i'w ddefnyddio yng Nghymru o Fframweithiau Adnoddau Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer compost a gweddillion treulio).
Amodau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Mae'n rhaid i chi:
- Gydymffurfio â holl ofynion eraill y canllawiau diwedd gwastraff cymwys ar gyfer compost a gweddillion treulio anaerobig.
- Sicrhau nad yw'r terfyn plastigau yn fwy na'r terfynau a nodir yn y BSI PAS100/110.
- Cydymffurfio â holl ofynion cynllun ardystio BSI PAS100/PAS110 fel y bo'n briodol.
- Adolygu eich gweithfa a'ch prosesau i weithio tuag at gydymffurfio â'r terfynau plastig newydd cymwys a nodir yn y canllawiau diwedd gwastraff ar gyfer compost a gweddillion treulio anaerobig.
- Cadw cofnodion am 2 flynedd i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â'r datganiad rheoleiddio hwn, a sicrhau bod y cofnodion hynny ar gael i CNC ar gais.
Gorfodi
Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan fyddwch yn defnyddio compost PAS100 ardystiedig neu weddillion treulio PAS110 a wnaed o wastraff nad yw'n bodloni'r terfyn plastigau a nodir yn y canllawiau diwedd gwastraff cymwys.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os byddwch yn bodloni'r gofynion yn y datganiad rheoleiddio hwn.
Yn ogystal, rhaid i'ch gweithgaredd beidio ag achosi (neu fod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, a rhaid iddo beidio ag:
- achosi risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion neu anifeiliaid
- achosi niwsans drwy arwain at sŵn neu arogleuon
- effeithio’n andwyol ar gefn gwlad neu fannau o ddiddordeb arbennig