Datganiad Rheoleiddio 035.2: Trin plastigau gwastraff â gwres ar raddfa fach er mwyn eu hadfer
Mae'r Datganiad Rheoleiddio (DRh) hwn yn ddilys tan 31 Mai 2028 a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio eto bryd hynny i sicrhau bod y DRh yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu'r DRh hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os byddwn o’r farn bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgarwch y mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.
Datganiad rheoleiddio
Mae'r Datganiad Rheoleiddiol (DRh) hwn yn berthnasol i drin plastigau gwastraff â gwres o dan eithriadau gwastraff T4 ac U9.
Fel arfer, bydd angen trwydded amgylcheddol arnoch i gynhesu plastigion gwastraff gan nad yw hyn yn cael ei ganiatáu o dan eithriad gwastraff T4 neu U9. Fodd bynnag, os byddwch yn cydymffurfio â'r amodau yn y DRh hwn, ni fydd angen trwydded amgylcheddol arnoch ar gyfer gweithgarwch gwastraff os byddwch chi'n cynnal y gweithgarwch hwn o dan eithriad T4 neu U9.
Nid yw'r DRh hwn yn berthnasol i unrhyw weithgarwch arall, hyd yn oed os yw’n dod o dan yr un ddeddfwriaeth. Efallai y bydd angen trwyddedau neu ganiatâd arall arnoch o hyd ar gyfer gweithgarwch arall y byddwch yn ei gyflawni.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cofrestru eithriad gwastraff T4 os ydych chi'n dibynnu ar eithriad T4, neu gofrestru eithriad gwastraff U9 os ydych chi'n dibynnu ar eithriad U9
- cydymffurfio â'r holl amodau a chyfyngiadau yn yr eithriad T4 neu U9 ac eithrio'r cyfyngiad sy'n ymwneud â gwres
- trin plastigau gwastraff â gwres fel rhan o broses allwthio
- peidio â thrin dros 100 tunnell o blastigion gwastraff â gwres bob wythnos
- trin plastigion heb eu bromineiddio yn unig, neu blastigion sydd wedi cael eu trin i gael gwared ar blastigion wedi'u bromineiddio, cyn cael eu derbyn ar y safle
- cadw cofnodion am 2 flynedd sy'n dangos eich bod chi wedi cydymffurfio â'r datganiad rheoleiddio hwn – rhaid i chi sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i CNC ar gais
Os byddwch yn dilyn yr amodau yn y DRh hwn, byddwch yn cael eich trin fel pe bai gennych drwydded amgylcheddol pan fyddwch yn gwneud cais am achrediad fel ailbrosesydd gwastraff pecynnu o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Pecynwaith) 2007 (fel y'i diwygiwyd).
Os byddwch yn dilyn yr amodau yn y DRh hwn, byddwch yn cael eich trin fel pe bai gennych drwydded amgylcheddol pan fyddwch yn gwneud cais am gofrestriad a/neu achrediad fel ailbrosesydd gwastraff pecynnu, ac ar gyfer bodloni’r amodau sy’n gysylltiedig â chofrestru a/neu achredu, o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024.
Gorfodi
Nid yw'r DRh hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithgarwch gwastraff wrth drin plastigion gwastraff â gwres.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os na fyddwch yn cydymffurfio â'r angen am drwydded amgylcheddol, os byddwch yn bodloni'r gofynion yn y DRh hwn.
Yn ogystal, rhaid i'ch gweithgarwch beidio ag achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, a rhaid iddo beidio ag:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig
Nid yw'r DRh hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gydymffurfio â'ch amodau trwydded.