Penderfyniad rheoleiddio 012.1: Defnyddio cerbydau diwedd oes a mathau eraill o wastraff mewn ymarferion hyfforddi, gweithgareddau addysgu ac arddangosfeydd ymwybyddiaeth y cyhoedd
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Mai 2026, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn defnyddio cerbydau diwedd oes a gwastraff arall ar gyfer:
- ymarferion hyfforddi
- gweithgareddau addysgu
- arddangosfeydd ymwybyddiaeth y cyhoedd
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i'r:
- ymatebwyr Categori 1 fel y’u diffinnir yn Atodlen 1 i Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004
- lluoedd arfog
- darparwyr hyfforddiant sy’n gweithio ar ran yr uchod (ymatebwyr Categori 1 a’r lluoedd arfog)
Mae'n gymwys i ddefnyddio cerbydau diwedd oed a gwastraff arall ar gyfer:
- ymarferion hyfforddi
- gweithgareddau addysgu
- arddangosfeydd ymwybyddiaeth y cyhoedd
Mae'r defnyddiau'n cynnwys:
- torri neu losgi cerbydau diwedd oes (neu'r ddau)
- canfod a diarfogi ffrwydron cudd mewn cerbydau diwedd oes
- tanio drylliau i mewn i gerbydau diwedd oes
- senarios tân byw mewn adeiladau y bwriedir eu dymchwel
- creu lleoliadau ymchwilio i droseddau
- creu golygfeydd ymchwilio i dân
- ffrwydro o dan reolaeth gerbydau diwedd oes
Os na fedrwch gydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- sicrhau eich bod yn cael y cerbyd diwedd oes neu’r offer trydanol ac electronig gwastraff yr ydych yn ei ddefnyddio oddi wrth gyfleuster trin awdurdodedig, awdurdod lleol neu gwmni rheoli gwastraff sy’n rheoli cyfleusterau gwastraff ar ran awdurdod lleol.
- sicrhau eich bod yn dychwelyd y gwastraff i gyfleuster trin awdurdodedig neu gyfleuster gwastraff rheoledig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ei ddefnyddio.
- sicrhau bod unrhyw un sy'n cludo'r gwastraff yn gludwr gwastraff cofrestredig.
- sicrhau bod nodyn trosglwyddo gwastraff yn cyd-fynd ag unrhyw drosglwyddiad o wastraff nad yw'n beryglus a bod nodyn cludo gwastraff Peryglus yn cyd-fynd ag unrhyw drosglwyddiad o wastraff peryglus. Sylwch: nid oes angen ffurflen gwastraff peryglus arnom o'r man lle derbynnir y gwastraff ar gyfer yr ymarfer hyfforddi, y gweithgaredd addysgu neu’r arddangosfa ymwybyddiaeth y cyhoedd.
- storio neu ddefnyddio cerbydau diwedd oes nad ydynt wedi’u dadlygru ar balmant anathraidd gyda system ddraenio wedi’i selio – nid yw hyn yn cynnwys cerbydau nad oes dim ynddynt ond siocleddfwyr, bagiau aer neu fatris sy’n hanfodol ar gyfer y gweithgaredd, ond sydd fel arall wedi’u dadlygru.
- defnyddio cyn lleied o wastraff â phosibl a'r defnyddio’r mathau o wastraff sy'n llygru leiaf ar gyfer eich gweithgareddau.
- cadw cofnodion am dair blynedd i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â’r penderfyniad rheoleiddiol hwn a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i CNC ar gais.
Ni chewch storio na defnyddio unrhyw gerbyd diwedd oes nad yw wedi'i ddadlygru mewn senarios sy'n cynnwys llosgi'r cerbyd neu ryddhau hylifau. Nid yw hyn yn cynnwys cerbydau nad oes dim ynddynt heblaw siocleddfwyr, bagiau aer, neu fatris sy'n hanfodol ar gyfer y gweithgaredd ond sydd fel arall wedi'u dadlygru.
Os dymunwch ddefnyddio cerbydau diwedd oes y mae ynddynt siocleddfwyr, bagiau aer, neu fatris mewn sefyllfaoedd sy'n cynnwys llosgi'r cerbyd diwedd oes neu ryddhau hylifau, rhaid i chi lunio asesiad risg ysgrifenedig ar gyfer y gweithgaredd gan ystyried y risgiau llygredd a’r mesurau lliniaru a fydd yn eu lle. Rhaid i’r asesiad risg ysgrifenedig hwn fod ar gael i CNC ar gais.
Ni chewch ddefnyddio unrhyw wastraff sy'n cynnwys sylweddau sy'n disbyddu osôn neu nwyon fflworinedig, er enghraifft nwyon aerdymheru mewn cerbydau diwedd oes a nwyon oeri mewn rhewgelloedd ac oergelloedd.
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn defnyddio cerbydau diwedd oes a mathau eraill o wastraff mewn ymarferion hyfforddi, gweithgareddau addysgu ac arddangosfeydd ymwybyddiaeth y cyhoedd, a’r gofyniad i gydymffurfio â'r rheoliadau gwastraff peryglus pan fo'n ymwneud â ffurflenni derbynnydd.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol neu’r angen i gyflwyno ffurflenni derbynnydd gwastraff peryglus os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig