Datganiad rheoleiddio 128: Tyniadau dŵr ar raddfa fach ar gyfer dihysbyddu wrth adeiladu

Mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ddilys tan 31 Mawrth 2028, pan fydd yn cael ei adolygu. Dylech wirio eto bryd hynny i sicrhau bod y datganiad rheoleiddio yn dal yn ddilys.

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dynnu’r datganiad hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym yn ystyried bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw’r gweithgareddau y mae’r datganiad hwn yn ymwneud â nhw wedi newid.

Datganiad rheoleiddio

Mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn berthnasol i dynnu dŵr daear unwaith ar raddfa fach neu gyfres o dyniadau dŵr daear a gynhelir dros gyfnod o lai na naw mis i ddihysbyddu safle adeiladu. Mae'r tyniad dŵr (neu gyfres o dyniadau dŵr) ar raddfa fach hwn yn caniatáu adeiladu neu gynnal a chadw gwaith adeiladu neu beirianyddol trwy bwmpio dŵr daear yn uniongyrchol o'r safle.

Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn berthnasol os defnyddir dŵr a dynnir at unrhyw ddibenion eraill ar y safle megis atal llwch neu olchi olwynion. Yn yr achos hwn, rhaid i chi gael trwydded tynnu dŵr sy'n cwmpasu'r dihysbyddu a dibenion eraill ar y safle cyn dechrau tynnu dŵr.

Amodau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw:

Cadw cofnodion a rhoi gwybod i ni am dynnu dŵr ar raddfa fach

Rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cadw cofnodion wrth ddechrau'r gwaith am ddwy flynedd i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â'r datganiad rheoleiddio hwn a gwneud y cofnodion hyn ar gael i ni ar gais

Rheoli a gweithredu'r tyniad ar raddfa fach

Rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cynnal asesiad effaith hydroddaearegol i safon sy'n cyfateb i’r hyn a nodir yn Paratoi asesiad effaith hydroddaearegol (Saesneg yn unig) cyn dechrau tynnu dŵr
  • rheoli a gweithredu'r tyniad dŵr yn unol â system reoli ysgrifenedig sy'n nodi ac yn lleihau risgiau llygredd ac effeithiau andwyol ar yr amgylchedd neu ddefnyddwyr dŵr eraill
  • dychwelyd 100% o'r dŵr a dynnwyd heb ei ddefnyddio yn y cyfamser i'r un ddyfrhaen yn y man rhesymol ymarferol agosaf i'r un y caiff ei dynnu ohono, neu'r rhan agosaf o'r cwrs dŵr agosaf at y man tynnu (neu'r ddau)
  • gosod mesurydd (neu fesuryddion) i fesur faint o ddŵr sy'n cael ei ddychwelyd i'r amgylchedd
  • cymryd a chofnodi darlleniadau'r mesurydd (neu'r mesuryddion) ar yr un pryd bob dydd pan fydd tynnu dŵr yn digwydd

Ni chewch wneud y canlynol:

  • achosi, neu fod yn debygol o achosi, ymsuddiant yn y tir cyfagos
  • tynnu dŵr daear o safle o fewn 500 metr i safle Ewropeaidd fel y'i dynodir yn Rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017
  • tynnu dŵr daear o safle o fewn 500 metr i Safle Ramsar fel y'i dynodir yn adran 37A o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
  • tynnu dŵr daear o fewn 500 metr o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy'n ddibynnol ar ddŵr fel y’i dynodir yn adran 52(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
  • tynnu dŵr daear o fewn 250 metr i wlyptir neu afon sy'n cael ei bwydo gan ddŵr daear, neu darddell, ffynnon neu dwll turio a ddefnyddir i gyflenwi dŵr ar gyfer unrhyw dynnu cyfreithlon presennol sy'n hawl warchodedig (boed wedi'i thrwyddedu neu gan weithgaredd sydd wedi'i eithrio rhag trwyddedu)
  • tynnu dŵr daear o fewn 50 metr i gwrs dŵr heb ei ddynodi
  • tynnu dŵr daear am gyfnod o fwy na naw mis o'r diwrnod cyntaf o dynnu dŵr
  • tynnu dŵr daear o ddalgylch sydd wedi'i ddatgan gan Cyfoeth Naturiol Cymru i fod mewn statws o ‘dywydd sych hirfaith’ neu ‘sychder’

Effeithiau ar ddefnyddwyr dŵr eraill ac awdurdodau statudol

Ni chewch wneud y canlynol:

  • atal unigolyn sydd â hawl i dynnu dŵr (boed wedi'i drwyddedu neu drwy weithgaredd sydd wedi'i eithrio rhag trwyddedu) rhag gwneud hynny i'r graddau y caniateir
  • effeithio'n andwyol ar unrhyw ddefnyddiau cyfreithlon presennol o ddŵr daear neu ddŵr wyneb neu ar unrhyw ddefnyddwyr dŵr eraill, hawliau glannau afon neu fuddiannau
  • atal awdurdodau statudol rhag cyflawni eu gofynion cyfreithiol, gan gynnwys awdurdodau mordwyaeth, awdurdodau harbwr, awdurdodau cadwraeth ac ymgymerwyr dŵr statudol
  • ymyrryd â gweithrediadau unrhyw fwrdd draenio ar gyfer unrhyw Ardal Ddraenio Fewnol

Atal niwed amgylcheddol

Rhaid i chi sicrhau nad yw'r gwaith yn achosi dirywiad mewn statws corff dŵr nac yn peryglu cyflawni unrhyw amcan perthnasol yn y canlynol:

Rhaid i chi beidio ag achosi, neu fod yn debygol o achosi, niwed i bysgod dŵr croyw, salmonidau mudol na llyswennod o ganlyniad i’r canlynol:

  • rhwystro neu atal eu taith i fyny'r afon neu i lawr yr afon
  • aflonyddu ar silod, pysgod silio neu ardal silio 

Rhaid i chi beidio ag achosi, neu fod yn debygol o achosi, difrod i’r canlynol:

Terfynau meintiau wrth ddychwelyd dŵr i gwrs dŵr

Ni ddylech fod yn rhoi yn fwy na'r meintiau canlynol wrth ddychwelyd dŵr i gwrs dŵr:

  • yn ystod y 30 diwrnod cyntaf, gan ddechrau ar ddiwrnod cyntaf tynnu dŵr, 400 metr ciwbig y dydd
  • yn ystod y cyfnod dilynol, 100 metr ciwbig y dydd 

Gorfodi

Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gael trwydded tynnu dŵr lle mae un yn ofynnol. Fodd bynnag, ni fyddwn fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded tynnu dŵr os ydych yn bodloni’r gofynion yn y datganiad rheoleiddio hwn.

Yn ogystal, rhaid i’ch gweithgaredd beidio ag achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo wneud fel a ganlyn:

  • peri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gael caniatâd arall gan Cyfoeth Naturiol Cymru nac unrhyw awdurdod statudol arall. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft:

  • cael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithgaredd perygl llifogydd, gollyngiad dŵr neu ddŵr daear i ollwng y dŵr a dynnwyd
  • cael trwydded cronni dŵr ar gyfer unrhyw adeileddau cronni cysylltiedig
  • cael cydsyniad SoDdGA dilys

Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn effeithio ar eich hawl i wneud y canlynol:

  • tynnu dŵr daear o dan Reoliad 5 o Reoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 2017
  • manteisio ar yr esemptiadau rhag cael trwydded tynnu dŵr o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 2017

Ni allwch ddefnyddio'r esemptiadau a'r datganiad rheoleiddio hwn ar yr un pryd.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad rheoleiddio hwn, anfonwch e-bost at ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gyda ‘Datganiad Rheoleiddio 128’ yn y llinell pwnc.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf