Datganiad rheoleiddio 134: Gollyngiadau dros dro o ddŵr glân o gloddiadau wedi'u dihysbyddu

Mae’r datganiad rheoleiddio hwn yn ddilys tan 31 Mawrth 2029, pan fydd yn cael ei adolygu. Dylech wirio eto bryd hynny i sicrhau bod y datganiad rheoleiddio yn dal yn ddilys.

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru dynnu'r datganiad rheoleiddio hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym yn ystyried bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw’r gweithgareddau y mae’r datganiad rheoleiddio hwn yn berthnasol iddynt wedi newid.

Datganiad rheoleiddio

Mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn berthnasol i ollyngiadau tymor byr, ysbeidiol neu dros dro o ddŵr glân heb ei halogi o gloddfa i dir neu i ddŵr wyneb.

Mae dŵr wyneb yn cynnwys y canlynol:

  • afonydd
  • nentydd 
  • morydau
  • llynnoedd
  • camlesi
  • dyfroedd arfordirol 

Dŵr glân, heb ei halogi yw dŵr sy'n gwbl glir neu'n bennaf glir, yn deillio o ddŵr glaw neu ddŵr daear wedi treiddio sydd wedi casglu yng ngwaelod cloddiadau dros dro ar safle heb ei halogi.

Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn berthnasol lle mae'r gweithgaredd yn parhau fel rhan o weithgaredd arall sydd angen trwydded.

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Rhaid i chi wneud y canlynol:

  • gollwng dŵr glân, heb ei halogi, yn unig
  • gollwng i ddŵr wyneb neu ar dir yn unig
  • wrth ollwng ar dir, gwneud yn siŵr bod y lleoliad (y ddaear) lle mae'r gollyngiad yn cael ei wneud yn rhydd o unrhyw ffynonellau halogi amlwg
  • gollwng am ddim mwy na naw mis yn olynol
  • lleihau lefel yr halogion megis silt sy'n mynd i mewn i'r cloddiad
  • lleihau dŵr sy'n mynd i mewn i'r cloddiad – er enghraifft, o law, dŵr ffo, dŵr daear neu lefel trwythiad uchel
  • cadw cofnodion am ddwy flynedd o’r dyddiad y defnyddiwyd y datganiad rheoleiddio ddiwethaf i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â’r datganiad rheoleiddio hwn, a gwneud y cofnodion hyn ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ni chewch wneud y canlynol:

  • llygru dŵr wyneb neu ddŵr daear
  • wrth ollwng i ddŵr wyneb, gollwng ar gyfradd llif sy'n fwy na 10% o lif tywydd sych (llif isel Q95) y dŵr wyneb sy'n ei dderbyn
  • gollwng draeniau safle o ardaloedd arwyneb megis ffyrdd cludo, mannau storio neu ardaloedd gwaith
  • gollwng dŵr sy'n cynnwys unrhyw gyfrwng dosio cemegol, clystyryddion neu geulyddion
  • gollwng o safle sydd wedi'i halogi gan olew, metelau, hydrocarbonau, toddyddion neu blaladdwyr, neu sylweddau llygrol eraill
  • gollwng o safle â chrynodiadau uchel naturiol o sylweddau sy'n fwy na’r safonau ansawdd amgylcheddol
  • gollwng dŵr golchi concrit hyd yn oed os yw wedi'i drin
  • defnyddio peiriannau mewn cloddiadau tra bod dihysbyddu yn digwydd
  • gollwng dŵr sy'n peryglu lledaenu rhywogaethau ymledol estron, parasitiaid neu glefydau
  • achosi llifogydd neu ddŵr ffo wrth ollwng ar dir
  • achosi erydu neu sgwrio glannau neu wely'r cwrs dŵr sy'n derbyn y dŵr

Ni ddylech ollwng am fwy na naw mis yn olynol. Gall y gweithgaredd ddod i ben yn ystod yr amser hwn, ond mae'r cloc yn parhau ac ni chaiff ei ailosod. Os yw'r gweithgaredd yn debygol o bara yn hirach na naw mis yn olynol yna mae angen i chi wneud cais am drwydded gweithgaredd gollwng dŵr os ydych chi'n gollwng i ddŵr wyneb neu drwydded gweithgaredd dŵr daear ar gyfer gollyngiadau ar dir.

Ni ddylech ollwng o fewn safle cynefin gwarchodedig, neu lai na 500 metr uwchben neu i fyny afon o safle o’r fath, gan gynnwys y canlynol:

  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
  • Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)
  • Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA)
  • Safle Ramsar
  • safle sydd yn y broses o ddod yn ACA, AGA neu Safle Ramsar (‘AGA bosibl’, ‘ACA bosibl’, ‘ACA ymgeisydd’, ‘safle o bwys i’r gymuned’ neu ‘Safle Ramsar arfaethedig’)
  • Parth Cadwraeth Morol
  • safle cadwraeth, megis coetir hynafol, neu Warchodfa Natur Leol a Chenedlaethol
  • safle bywyd gwyllt lleol

Rhaid i chi wneud cais am drwydded gweithgaredd gollwng dŵr neu drwydded gweithgaredd dŵr daear o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • mae eich gollyngiad dŵr yn dod o broses ‘pwmpio a thrin’ (pwmpio dŵr daear halogedig neu ddŵr o dir halogedig fel y gellir ei drin)
  • mae eich gollyngiad dŵr o weithgareddau chwarela
  • ni allwch gydymffurfio â'r amodau yn y datganiad rheoleiddio hwn

Os ydych chi'n tynnu dŵr

Rhaid i chi hefyd wneud cais am drwydded tynnu dŵr neu gronni dŵr os ydych chi'n tynnu mwy nag 20 metr ciwbig o ddŵr y dydd.

Nid oes angen i chi wneud cais am drwydded tynnu dŵr na chronni dŵr os ydych chi'n tynnu dŵr o’r canlynol:

Gorfodi

Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gael trwydded gweithgaredd gollwng dŵr neu drwydded gweithgaredd dŵr daear lle mae angen un. Fodd bynnag, ni fyddwn fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded os ydych yn bodloni’r gofynion yn y datganiad rheoleiddio hwn.

Yn ogystal, rhaid i’ch gweithgaredd beidio ag achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo wneud fel a ganlyn:

  • peri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gael caniatâd arall gan Cyfoeth Naturiol Cymru nac unrhyw awdurdod statudol arall. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft:

  • cael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithgaredd perygl llifogydd 
  • cael trwydded cronni dŵr ar gyfer unrhyw adeileddau cronni cysylltiedig
  • cael cydsyniad SoDdGA dilys

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad rheoleiddio hwn, anfonwch e-bost at ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.llyw.uk gyda ‘Datganiad Rheoleiddio 134’ yn y llinell pwnc.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf