Dosbarthu perfformiad sianeli gorlif storm GN066

Cyfarwyddyd yn egluro sut y dylid dosbarthu sianeli gorlif storm (trwyddedig a heb eu trwyddedu). Defnyddir y dosbarthiad i gynllunio a blaenoriaethu gwelliannau i ddod â holl sianeli gorlif storm i statws boddhaol. Mae’n cynnwys diffiniadau perthnasol, meini prawf dosbarthu sianeli gorlif storm, a sut i asesu perfformiad sianel gorlif storm.

Lawrlwythwch 'Sut i ddosbarthu perfformiad gorlifoedd stormydd - GN066'

Gwneud cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer sianel gorlif storm heb ei thrwyddedu GN021

Cyfarwyddyd (yn bennaf ar gyfer cwmnïau dŵr) yn egluro’r camau y dylech eu cymryd i wneud cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer sianel gorlif storm heb ei thrwyddedu. Gall y gofynion ddibynnu ar y dosbarthiad sianel gorlif storm y cytunwyd arno. Dylid defnyddio’r cyfarwyddyd hwn ar y cyd â chyfarwyddyd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) (GN066 – Sut i ddosbarthu perfformiad sianeli gorlif storm).

Lawrlwytho 'Gorlifoedd stormydd heb ganiatâd - GN021'

Diweddarwyd ddiwethaf