Prentisiaethau, gwirfoddoli, profiad gwaith a lleoliadau eraill

Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd lleoliad i'ch galluogi i hybu rheolaeth gynaliadwy, buddion a gwerth adnoddau naturiol ac ecosystemau.

Bydd rheolwr lleoliad yn cael ei neilltuo ar eich cyfer a fydd yn goruchwylio eich rhaglen waith. Bydd hefyd yn cynnal asesiadau risg i sicrhau eich iechyd a’ch diogelwch.

Byddwch yn cwblhau cyfnod sefydlu a rhaglen hyfforddiant, ac yn derbyn cymorth parhaus.

Pan fydd eich lleoliad â thâl wedi dod i ben, gallwch ofyn am eirda gennym. Gallwch atodi unrhyw eirda ffeithiol yr ydym yn ei roi i chi gyda'ch cynllun datblygu perfformiad gorffenedig.

Ar gyfer lleoliadau di-dâl, ni fyddwn yn darparu geirda ond gallwch ddefnyddio’ch rhaglen waith orffenedig i ddangos eich cyflawniadau.

Isod, gallwch ddod o hyd i’r lleoliadau yr ydym yn eu cynnig ar hyn o bryd.

Prentisiaethau

Gallwch ennill cymhwyster cydnabyddedig a sgiliau hanfodol gydag un o'n prentisiaethau.

Mae lleoliadau’n para hyd at 100 wythnos, gan gynnwys amser astudio (diwrnodau neu flociau), ac maent yn agored i unigolion sy'n 16 oed a throsodd.

Os ydych eisoes yn meddu ar gymhwyster ar yr un lefel neu uwch, ni fyddwch yn gymwys i ymgeisio.

Telir prentisiaethau y Gyflog Byw Go Iawn.

Ein blog ar brentisiaethau

Rhowch hwb i’ch gyrfa gyda help CNC

Manteision prentisiaethau

Gwirfoddoli

Mae lleoliadau gwirfoddol yn cynnig cyfle i unigolion weithio gyda ni i gyflawni ein nodau.

Mae hyd lleoliadau gwirfoddol yn dibynnu ar y cyfle. Rydym yn adolygu cytundebau hirdymor bob blwyddyn.

Gwirfoddolwr Acwaponeg Cynrig - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10 Mai 2024

Gwiriwch yn rheolaidd ar gyfer cyfleoedd neu tanysgrifiwch i'n cylchlythyr

Profiad gwaith i fyfyrwyr

Os ydych yn fyfyriwr 15 oed neu drosodd, gallwch ymgeisio am leoliad er mwyn ennill profiad gwaith.

Gall lleoliad profiad gwaith i fyfyrwyr amrywio o ychydig ddyddiau a chwe wythnos.

Lleoliad Profiad Gwaith Myfyrwyr - Rheoli tir Coetir Amddiffyn rhag llifogydd - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 1 Mai 2024

Lleoliad Profiad Gwaith Myfyrwyr Sir Benfro - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 3 Mai 2024

 

Lleoliadau addysg uwch

Gallwch ennill sgiliau ymarferol a phrofiad yn ystod, neu'n union ar ôl cwblhau eich cwrs addysg uwch neu bellach.

Mae lleoliadau yn agored i unigolion sy'n 18 oed a throsodd, am hyd at 18 mis ar ôl graddio o gwrs israddedig neu ôl-raddedig.

Mae lleoliadau’n para am hyd at 100 wythnos.

Ein blogiau ar leoliadau addysg uwch

Rydym yn chwilio am ein myfyrwyr coedwigaeth nesaf –a allech chi fod un ohonynt?
Rhowch hwb i’ch gyrfa mewn coedwigaeth gyda'n cyfle lleoliad

Lleoliadau ymchwil

Os ydych yn fyfyriwr israddedig yn eich blwyddyn olaf, myfyriwr ôl-raddedig, neu os ydych wedi graddio o sefydliad addysg uwch neu bellach yn y DU o fewn y 18 mis diwethaf, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am leoliad ymchwil.

Bydd lleoliad ymchwil yn eich galluogi i gwblhau darn diffiniedig o ymchwil sy'n diwallu ein hanghenion tystiolaeth.

Gellid ei gwblhau fel rhan o'ch astudiaethau, neu er mwyn datblygu ymchwil, sgiliau ymarferol a phrofiad.

Gall lleoliadau ymchwil bara rhwng o bum niwrnod a 12 mis.

Lleoliadau gwaith

Os ydych yn 16 neu drosodd ac yn ddi-waith neu'n hyfforddi, gal lai lleoliad gwaith eich helpu i ennill profiad er mwyn cynyddu eich cyflogadwyedd.

Mae lleoliadau gwaith yn para rhwng pum niwrnod a chwe wythnos.

Lleoliadau â thâl gyda chyllid allanol

Addas ar gyfer unigolion sy'n gymwys o dan ganllawiau penodol y cynllun. Mae lleoliadau gwaith yn para rhwng pum niwrnod a chwe wythnos.

Lleoliadau grŵp

Er nad yw ein lleoliadau’n agored i grwpiau ieuenctid neu ysgol, gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y gall darparwyr addysg gymryd rhan yn ein gwaith.

Nid ydym yn cynnig diwrnodau gwirfoddolwyr corfforaethol ar hyn o bryd.

Cysylltu â ni

Ebost: Lleoliadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf