Aelod Tîm Gweithlu Integredig
Dyddiad cau: 30/07/2025 | Cyflog: Gradd 2: £25,898 - £26,909 | Lleoliad: Cross Hands
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithlu Integredig / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £25,898 yn codi i £26,909 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 11/08/2025
Rhif swydd: 200372
Y rôl
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â’n tîm Gweithlu Integredig, sy’n gweithio yn y depo ym Mhlas Gwendraeth yn Cross Hands.
Yn y rôl werthfawr, ymarferol hon, byddwch yn ymuno â thîm ymroddedig sy’n ymfalchïo yn ei ddiben. Byddwch yn cyflawni amrywiaeth o dasgau hanfodol, ymarferol ar draws safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru – o seilwaith perygl o lifogydd i safleoedd coedwigaeth a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol – gan ein helpu i gadw cymunedau’n ddiogel a galluogi natur i ffynnu.
Mae hon yn rôl sy’n gorfforol egnïol, yn yr awyr agored yn bennaf. Byddwch yn gweithio ym mhob tywydd ac yn aml mewn lleoliadau heriol, anghysbell ochr yn ochr â thîm bach o ddau i bedwar cydweithiwr. Fel aelod allweddol o’r tîm, bydd gofyn i chi weithredu amrywiaeth o offer llaw, fel bachau a phladuriau, ac offer pŵer fel peiriannau torri clawdd a llifiau polyn, a pheiriannau arbenigol eraill fel peiriant torri gwair robot a pheiriant naddu coed. Byddwch hefyd yn cyflawni rôl bwysig arolygwr trwy oruchwylio’r gwaith o symud peiriannau’n ddiogel ar safle.
O ystyried natur a lleoliad ein gwaith, rydym yn chwilio am rywun sy’n hunan-gymhellol, yn ofalus o ran diogelwch, yn hyderus wrth weithio yn y dŵr neu’n agos ato, yn gyfforddus yn defnyddio offer a chyfarpar, yn gyfathrebwr effeithiol, yn gweithio’n dda o fewn amgylchedd tîm, ac yn hyderus wrth ddefnyddio TG sylfaenol. Darperir hyfforddiant llawn i’ch helpu i lwyddo.
Yn ogystal, byddwch yn rhan o dîm ymateb brys 24 awr, gan gymryd rhan mewn rota wrth gefn a darparu cymorth hanfodol yn ystod digwyddiadau llifogydd neu wrth ymateb i ddigwyddiadau eraill.
Rydym yn chwilio am rywun sydd ag agwedd gadarnhaol, positif tuag at waith, a pharodrwydd i ddysgu. Bydd angen i chi fod yn gyfforddus yn defnyddio peiriannau ac offer TG sylfaenol, ac yn ddelfrydol yn byw o fewn 30 munud i’r depo, fel y gallwch ymateb yn gyflym pan fo angen.
Yn CNC, byddwch chi’n ymuno â thîm sy’n angerddol am yr amgylchedd ac yn falch o’i waith. Byddwch yn cael hyfforddiant llawn, cymorth i ennill trwyddedau a chymwysterau, a chyfleoedd ar gyfer twf personol mewn rôl werth chweil a phwysig.
Os ydych chi’n mwynhau gwaith corfforol yn yr awyr agored, eisiau cyfrannu at wytnwch yn erbyn yr hinsawdd, ac yn barod i fod yn rhan o dîm sy’n gwneud gwahaniaeth gweladwy, rydym eisiau clywed gennych chi.
Mae’r rôl yn dilyn patrwm gwaith naw diwrnod (gyda phob yn ail ddydd Gwener i ffwrdd). Darperir cerbyd â bathodyn ar gyfer teithio i’r safle ac yn ôl. Mae trwydded yrru lawn yn hanfodol. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jamie Neil Davies at Jamie.Davies@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb gyda lleoliad i'w gadarnhau.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Byddwch yn darparu gwasanaeth gwaith llaw er mwyn cynnal asedau Cyfoeth Naturiol Cymru, a fydd yn cynnwys asedau perygl llifogydd a thir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Bydd y gallu gennych i ddefnyddio cyfarpar megis offer llaw a all gynnwys llifiau cadwyn.
- Byddwch yn gallu gweithredu fel arolygwr a thaflwr / arwyddwr.
- Byddwch yn gallu deall cynlluniau technegol a chyfleustodau a gweithredu mewn cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu.
- Byddwch yn defnyddio peiriannau a chyfarpar bach, h.y. Aebi / Reform, peiriannau torri gwair wrth gerdded, peiriannau malu pren ac ati.
- Byddwch yn rhan o dîm ymateb i ddigwyddiadau.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
1. Trwyddedau gweithredwyr perthnasol ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar, neu’n gweithio tuag atynt.
2. Tystysgrif Gweithio’n Ddiogel IOSH.
3. Cymhwysedd mewn TGCh (lefel sylfaenol).
4. Cwrs Cymorth Cyntaf Brys +F.
5. Mae profiad blaenorol o feysydd coedwigaeth, adeiladu, amaethyddiaeth, yr amgylchedd neu fel gweithredwr cyfarpar yn ddymunol.
6. Mae’r rôl yn anodd yn gorfforol felly bydd angen lefel resymol o ffitrwydd.
7. Hyderus yn gweithio mewn dŵr ac wrth ymyl dŵr.
8. Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol yn ofynnol ar gyfer y rôl. Mae TGAU gradd C (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg yn hanfodol.
9. Trwydded yrru lawn y DU, yn ddelfrydol yn cynnwys categori B + E (tynnu trelar).
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.