Uwch Arbenigwr, Datblygu Pobl

Dyddiad cau: 4 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877| Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Datblygu Pobl a Llesiant / Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Cyflog cychwynnol: 45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awy yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 202364

Y rôl

Dylunio, cyflwyno a gwerthuso gweithdai ar amrywiaeth o bynciau - gan gynnwys arweinyddiaeth a datblygu sgiliau.

Datblygu ymyriadau sy'n cefnogi ffyrdd modern o weithio, gan gynnwys cyflwyno wyneb yn wyneb ac ar-lein, sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion a nodwyd.

Datblygu a chynnal amrywiaeth o gysylltiadau ag unigolion, timau a rhanddeiliaid sefydliadol, ar draws y sefydliad i hyrwyddo dull systematig o ansawdd uchel o arweinyddiaeth, rheolaeth a datblygu sefydliadol ar draws CNC.

Nodi a hyrwyddo arfer gorau mewn rheolaeth, arweinyddiaeth a datblygu sefydliadol

Ymchwilio ac ystyried y damcaniaethau a’r modelau diweddaraf ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr sy'n cefnogi syniadau ac arfer arweinyddiaeth cyfredol ac yn ymestyn datblygiad yn y dyfodol.

Datblygu cynnig wedi'i adnewyddu o ymyriadau arweinyddiaeth wedi'u targedu at bob un o'r cynulleidfaoedd penodol a nodwyd yn ein cynnig wedi'i guradu.

Comisiynu adnoddau ychwanegol, yn unol â phrosesau caffael CNC.

Nid ddaw unrhyw gyfrifoldebau rheolwr llinell gyda'r rôl hon ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i aelod y tîm arweinyddiaeth. Mae hon yn rôl ledled Cymru gyda'r rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei gyflawni o leoliad swyddfa neu gartref.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Charlotte Morgan ar charlotte.morgan@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain a chyflawni prosiectau, sy’n cael eu llywio gan gynllun y gweithlu, y cynllun ymgysylltu staff a’r cynllun datblygu rheolaeth ac arweinyddiaeth, gan ymateb i anghenion newidiol ein sefydliad a'r amgylchedd allanol, a chan ddylunio, darparu a gwerthuso atebion cynaliadwy i sicrhau gwydnwch ein pobl a'n sefydliad.
  • Hyfforddi a datblygu ein rheolwyr yn rhagweithiol i ddatblygu a chynnal eu hyder i arwain a rheoli eu timau a datblygu talent gan ddarparu gyrfaoedd boddhaol a gweithlu gwydn.
  • Cynghori a hyfforddi rheolwyr i nodi anghenion hyfforddiant eu timau er mwyn cynorthwyo datblygu sgiliau technegol a sgiliau eraill yn unol â'n gwerthoedd.
  • Dylunio a darparu ymyriadau adeiladu tîm ac ymyriadau eraill i ddatblygu ymddygiad, a hynny’n rhagweithiol ac adweithiol.
  • Dylunio, cyflwyno a gwerthuso gweithdai ar amrywiaeth o bynciau datblygu — gan gynnwys arbenigwyr pwnc mewnol lle bo hynny'n briodol.
  • Datblygu polisïau a chynhyrchu adroddiadau i ddangos eu heffaith, a llywio newid diwylliant.
  • Darparu cefnogaeth hyfforddi broffesiynol i unigolion er mwyn hwyluso penderfyniadau priodol am eu dyfodol, gan gynnwys cymorth all-leoli yn ystod unrhyw raglenni newid.
  • Nodi anghenion llesiant a chymryd camau priodol i liniaru unrhyw effaith negyddol.
  • Arwain meysydd gwaith eraill yn y tîm Datblygu Sefydliadol, a'r gyfarwyddiaeth, fel y bo'n briodol
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

Cymhwyster CIPD neu gyfwerth gyda phrofiad sylweddol o weithio fel ymarferydd Dysgu a Datblygu neu reolwr gyda hanes o ddatblygu talent.

  1. Cymhwyster CIPD neu gyfwerth gyda phrofiad sylweddol o weithio fel ymarferydd Dysgu a Datblygu neu reolwr gyda hanes o ddatblygu talent.
  2. Profiad o ddatblygu pobl a chefnogi newid diwylliant mewn timau a sefydliadau
  3. Brwdfrydedd dros ymchwilio i ffyrdd newydd o feddwl a gweithio sy'n diddori ac yn ysbrydoli gweithlu amrywiol i'n galluogi i ddenu a chadw talent yn ein sefydliad
  4. Sgiliau rheoli prosiect profedig a'r gallu i ysbrydoli hyder a chyfathrebu ar bob lefel yn ein sefydliad.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:  Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf