Dyddiad cau: 03/08/2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877| Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: CNC2030 / Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol 

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 18/08/2025

Rhif swydd: 203988

Y rôl

Rydym yn chwilio am Ddadansoddwr Busnes medrus i chwarae rhan hanfodol yn CNC2030, ein rhaglen drawsnewid uchelgeisiol. Byddwch yn cynnig arbenigedd wrth newid a gwella busnes i gefnogi’r ffrwd waith pobl, gan helpu i lunio sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithredu dros y pum mlynedd nesaf. 
 
Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi cyflawni prosiectau a rhaglenni’n llwyddiannus drwy roi cyngor arbenigol ar reoli newid, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a gwelliant parhaus. Byddwch yn dadansoddi data cymhleth, yn cynnal a gwella systemau allweddol, ac yn cynhyrchu mewnwelediadau ystyrlon i arwain penderfyniadau strategol. Gan sicrhau cydymffurfedd â fframweithiau rheoli prosiectau a rhaglenni CNC, byddwch yn helpu i nodi risgiau sgiliau ac adnoddau, wrth ymgorffori newid yn ein gweithrediadau craidd. Bydd eich gwaith yn cyfrannu’n uniongyrchol at gyflawni cynllun corfforaethol ac amcanion llesiant CNC. 
Byddwch yn cynnig arbenigedd wrth newid a gwella busnes i gefnogi’r ffrwd waith pobl, gan helpu i lunio sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithredu dros y pum mlynedd nesaf. 

Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi cyflawni prosiectau a rhaglenni’n llwyddiannus drwy roi cyngor arbenigol ar reoli newid, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a gwelliant parhaus. Byddwch yn dadansoddi data cymhleth, yn cynnal a gwella systemau allweddol, ac yn cynhyrchu mewnwelediadau ystyrlon i arwain penderfyniadau strategol. Gan sicrhau cydymffurfedd â fframweithiau rheoli prosiectau a rhaglenni CNC, byddwch yn helpu i nodi risgiau sgiliau ac adnoddau, wrth ymgorffori newid yn ein gweithrediadau craidd. Bydd eich gwaith yn cyfrannu’n uniongyrchol at gyflawni cynllun corfforaethol ac amcanion llesiant CNC.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Silas Jones a silas.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

 Mae’r rôl hon o fewn tîm CNC2030, gan gefnogi’r Rhaglen Adfywio – rhan hanfodol o’n hagenda drawsnewid. Mae CNC2030 yn sbarduno newid sefydliadol ar draws ein seilwaith, ein systemau a’n pobl er mwyn sicrhau ein bod yn addas ar gyfer y dyfodol.

Fel prif gorff amgylcheddol Cymru, mae gwaith CNC yn cefnogi rheolaeth gynaliadwy ein hadnoddau naturiol. Mae ein rhaglen drawsnewid wedi’i chynllunio i gryfhau ein gallu i ymdopi â heriau cenedlaethol a byd-eang, wrth sicrhau manteision gwirioneddol i’n hamgylchedd, ein cymunedau a’n heconomi. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Rheoli a blaenoriaethu mentrau gwella busnes, gan sicrhau dyrannu amser a chyflawni effeithlon.
  • Darparu arbenigedd mewn gwelliant parhaus a rheoli newid, dadansoddi gwybodaeth gymhleth, creu dangosfyrddau, a sicrhau cywirdeb data ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus.
  • Arwain ymgysylltiad â staff, rheolwyr a rhanddeiliaid allanol CNC i lunio, dylanwadu a chyfleu ymdrechion trawsnewid.
  • Cyfrannu at brosiectau trawsnewid sy’n hanfodol i’r busnes ar raddfa fawr, gan sicrhau cyd-fynd â phroses rheoli prosiectau CNC a dylanwadu ar newidiadau polisi a gweithdrefnol.
  • Dehongli a dadansoddi data gan ddefnyddio technegau ystadegol i gynhyrchu mewnwelediadau allweddol sy’n llywio strategaethau trawsnewid.
  • Cefnogi cydlynu a gweithredu rhaglenni a phrosiectau CNC2030, gan flaenoriaethu anghenion busnes a gwybodaeth er mwyn darparu gwasanaethau wedi’u hoptimeiddio.
  • Deall a dehongli cynlluniau cyflawni gweithredol a strategaeth CNC o fewn cyd-destun sefydliadol ehangach.
  • Cynhyrchu adroddiadau, dogfennau a dangosfyrddau cymhleth, gan gasglu data o sawl lleoliad a defnyddio barn broffesiynol wrth ddadansoddi.
  • Cyfathrebu’n effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan gyfrannu at brosiectau cymhleth iawn, hwyluso cyfarfodydd, a rhoi cyngor arbenigol.
  • Meithrin perthnasoedd a rhwydweithiau cryf i wella cydweithio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
  • Hyfforddi a mentora staff ar ymgysylltu a chydgynhyrchu, gan ddatblygu gallu mewnol a rhannu gwybodaeth.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau (Ar gyfer rolau gyda chysylltiad union neu gysylltiad cryf yn unig) 

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Sgiliau dadansoddol cryf gyda sylw i fanylion a chywirdeb wrth gasglu, trefnu a dehongli data.
  2. Hyfedr mewn offer dadansoddi ystadegol a delweddu data (Excel, SPSS, SAS, Power BI, Miro).
  3. Gwybodaeth gadarn a phrofiad ymarferol mewn rheoli prosiectau, rhaglenni, risg a buddion.
  4. Cymhwyster Gwregys Gwyrdd (neu brofiad cyfatebol) mewn gwelliant parhaus gyda phrofiad o weithredu newid busnes.
  5. Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, gan gynnwys ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno i gynulleidfaoedd amrywiol.
  6. Sgiliau cydweithio, negodi a rhyngbersonol cryf gyda phrofiad o ymgysylltu â rhanddeiliaid ac adeiladu rhwydweithiau.
  7. Sgiliau mewn hwyluso, gan gynnwys cynllunio a chyflwyno gweithdai a digwyddiadau i randdeiliaid.
  8. Profiad mewn rheoli matrics, gan arwain timau amrywiol gydag arbenigedd technegol.
  9. Trefnus iawn gyda’r gallu i weithio’n annibynnol, dangos arloesedd a datblygu atebion creadigol. 
    .

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:  Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf