Gwaith adfer yn dangos canlyniadau calonogol
Mae gwaith adfer gan Gyfoeth Naturiol Cymru gyda’r bwriad o ddiogelu cynefinoedd mwyaf prin Gymru, cyforgors yr iseldir, yn dangos canlyniadau cadarnhaol.
Jack Simpson, Swyddog Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE, sy’n dweud mwy wrthym am y gwaith adfer sydd wedi digwydd hyd yn hyn…
Yn y DU mae 94% o gyforgorsydd tir isel wedi eu colli, nod Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru yw gwella statws saith o’r esiamplau gorau yng Nghymru.
Mae’r safleoedd yn bwysig yn genedlaethol ac yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Safleoedd amgylcheddol sensitif yw'r rhain sydd wedi’u diogelu’n gan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd oherwydd eu budd amgylcheddol.
Dechreuodd y gwaith ym mis Medi 2020 i adfer dwy gyforgors yng Ngheredigion, gan greu dros 18,000 metr (11milltir) o fyndiau mawn.
Nod y gwaith yw adfer lefelau dŵr mwy naturiol yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cors Caron a Chors Fochno, dwy o’r enghreifftiau orau o gyforgorsydd tir isel sydd wedi’i difrodi lleiaf ym Mhrydain.
Mae’r byndiau, neu’r cloddiau mawn isel fel y'u gelwir hefyd, tua 25cm o uchder ac yn dilyn cyfuchliniau naturiol cromenni’r gyforgors.
Nod y byndiau yw arafu’r broses o golli dŵr yn haen uchaf cromen y gyforgors, gan ddal lefel naturiol y dŵr ar y gors am amser hirach.
Ychydig fisoedd ar ôl dechrau'r gwaith, ceir arwyddion calonogol yn barod bod lefel dŵr mwy naturiol yn dechrau ffurfio.
Rydym wrth ein bodd gyda'r effaith y mae'r byndiau wedi'u cael ar y safle mewn cyfnod mor fyr.
Gwyddom fod y safleoedd hyn wedi dioddef oherwydd gwaith draenio a thorri mawn yn y gorffennol, sydd wedi effeithio ar y lefel trwythiad fel ei bod yn is na'r hyn y dylai fod mewn cyforgors iach – yn enwedig yn yr haf.
Bydd adfer lefelau dŵr naturiol ar gyforgorsydd yn sicrhau eu bod yn aros yn wlypach am amser hirach, gan helpu i greu ardaloedd lle gall migwyn pwysig sefydlu a ffynnu.
Migwyn yw peiriannydd cynefin y gyforgors, a'i allu i dal dwr a gwrthsefyll pydredd, sydd yn creu pridd mawn brown tywyll.
Mae amrywiaeth o fathau o figwyn yn arwydd o gors iach, ac mae'r mawn y mae'n ei greu yn amsugno ac yn storio tunelli o garbon o'r atmosffer yn naturiol, gan helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Ym mis Medi crëwyd dros 12,875 metr (8 milltir) o fyndiau mawn ar Gors Fochno. Yn ogystal â hyn, crëwyd dros 5,790 metr (4 milltir) o fyndiau mawn ar GNG Cors Caron ym mis Hydref.
Yr amcan hirdymor gyda'r dull hwn yw sefydlogi lefelau'r dŵr o fewn 5cm i arwyneb y gors am 95% o'r amser. Ni ddylai lefelau’r dŵr ostwng yn is na 30cm o arwyneb y gors am y 5% o’r amser sy’n weddill.
Hyd yn hyn, drwy greu'r byndiau yma ar y ddau safle, amcangyfrifir y bydd bron i 85 hectar (210 erw) o gynefinoedd cors yn elwa ac yn dychwelyd i gyflwr da, gan helpu i greu mawn newydd a chloi mwy o garbon i mewn.
Bydd canlyniadau gwyddonol ffurfiol gan gynnwys data hydrolegol am y gwaith ar gael nes ymlaen yn y flwyddyn nesaf.
Pan fydd cyfyngiadau Covid-19 yn caniatáu bydd y prosiect yn gwahodd cymdogion a phartïon eraill â diddordeb i ymweld â'r safleoedd gwych hyn i weld a thrafod y gwaith sydd wedi bod yn digwydd.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith adfer, ewch i'n tudalen Facebook @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBogs neu'r dudalen Twitter @Welshraisedbog