Blog o'r gors – Corsydd Mawn: Pair yr Hinsawdd
Mae'r Athro Huw C. Davies yn arbenigwr gwyddor yr amgylchedd sydd bellach wedi ymddeol ac yn rhan-berchennog Cernydd Carmel – safle prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE yn Ne Cymru.
Mae ymchwil yr Athro Davies dros y 50 mlynedd diwethaf wedi canolbwyntio ar ddeinameg ffenomenau llif sy’n gysylltiedig â’r tywydd, rhagfynegiad tywydd rhifiadol, prosesau cludo atmosfferig, a’r cysylltiad rhwng systemau tywydd ac amrywioldeb hinsawdd.
Yn y blog gwadd hwn mae'n siarad am y gwaith sy'n digwydd yng Nghernydd Carmel a'i bwysigrwydd wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Anaml y bu materion amgylcheddol a newid hinsawdd allan o'r penawdau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ystod misoedd cynnar 2021, gwelwyd tanau gwyllt dinistriol yn Awstralia, llifogydd marwol yn yr Almaen a thon gwres digynsail yng Ngorllewin Canada.
Dilynwyd hyn gan yr asesiad diweddaraf gan y Panel Rhyng-lywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) a oedd yn dogfennu'r newid a arsylwyd, ac a ddarparodd ragamcanion gwyddonol â sail gadarn ond arswydus o newid yn y dyfodol, a datgan yn ddigamsyniol bod yr achos yn gysylltiedig â llosgi tanwyddau ffosil.
Roedd hyn i gyd yn gefndir ingol i'r cyfarfod COP26 diweddar yn Glasgow pan anogwyd gwledydd i addo a chydweithio i ddatblygu camau adfer priodol i ddiogelu'r amgylchedd naturiol a lliniaru effeithiau newid hinsawdd.
Un canlyniad calonogol i'r cyfarfod oedd yr addewid gan 12 gwlad i gefnogi'n ariannol ac i gydweithredu'n effeithiol i atal a gwrthdroi colli coedwigoedd a dirywiad tir erbyn 2030, a thrwy hynny wrthweithio cynhesu byd-eang trwy wella gallu arwyneb y tir i ddal y CO2 o allyriadau tanwydd ffosil.
Mae'n ddealladwy efallai bod llai o sylw wedi'i roi i gyhoeddiad diweddar safle ymgeisydd y DU ar gyfer statws treftadaeth y byd. A beth yw'r safle a allai yn y dyfodol gael ei osod ochr yn ochr â'r Grand Canyon a'r Great Barrier Reef ysbrydoledig? Y system gorgorsydd fwyaf cyfan a helaeth yn y byd, Flow Country yn yr Alban.
Mae'r ehangder helaeth hwn o gorgorsydd yn ymestyn ar draws Caithness a Sutherland yng ngogledd eithaf yr Alban ac mae'n set gymhleth o systemau pyllau cydgysylltiedig a nodweddion micro. Nid yn unig ei fod yn gartref i fflora a ffawna trawiadol ond mae hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn ein hamddiffyniad yn erbyn effeithiau newid hinsawdd.
Felly gellir cyfiawnhau dewis cors fawn yn sicr, ac mae'n cyfuno materion digwyddiadau tywydd eithafol, newid hinsawdd, diogelu'r amgylchedd naturiol, coedwigo a dal carbon.
Mae'r cysylltiad yn cael ei arddangos yn hyfryd gan Brosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru. Ei nod yw brwydro yn erbyn effeithiau degawdau o ddiraddio corsydd mawn a sychu allan o saith enghraifft wych o gynefinoedd cyforgors yng Nghymru a'u hadfer i gyflwr gwell.
Mae'r diraddiad – colli mwsoglau a hesg a graddfa syfrdanol y sychu ei hun – wedi bod yn amlwg iawn wrth i mi arsylwi (ac weithiau croesi) un o'r saith safle hyn ers dros hanner canrif – Cernydd Carmel.
Mae Cernydd Carmel yn gyforgors fechan ger Crosshands yn ne Cymru. Mae'n cynnwys 7 hectar ac mae'n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Mynydd Carmel ehangach ac Ardal Cadwraeth Arbennig sy'n 360 hectar i gyd.
Mae prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith adfer ar y safle yn ddiweddar trwy dynnu prysgwydd a thorri glaswellt Molinia sy'n dominyddu'r safle.
Mae cynlluniau hefyd i adeiladu byndiau cyfuchlin isel, a fydd yn dal mwy o ddŵr ar gromen y gyforgors, gan gadw'r safle'n wlypach am gyfnod hirach. Mae'r rhain yn amodau delfrydol ar gyfer planhigion migwyn pwysig a byddan nhw’n eu helpu i sefydlu a ffynnu ar y safle.
Bydd yr adferiad a gyflawnir gan brosiect LIFE, os caiff ei ailadrodd yn fyd-eang, yn arwain at ganlyniadau ymhell y tu hwnt i adfer mwsogl a hesg a darparu amgylchedd pleserus a nodedig i bobl. Mae mawndiroedd i bob pwrpas yn bair hinsawdd dilys.
Dim ond rhyw 3% o arwyneb tir y blaned sydd wedi’i orchuddio â mawndiroedd ond eto maen nhw, yn enwedig corsydd lle mae mwsogl yn bennaf, yn storio tua 30% o garbon pridd byd-eang. Mae hyn yn cyfateb i ddwywaith cymaint o garbon ag sy'n cael ei storio yng nghoedwigoedd y blaned.
Mae angen dirfawr nid yn unig i atal rhyddhau'r carbon sydd wedi'i storio mewn corsydd mawn mewn hinsawdd sy'n newid, ond hefyd i gynnal a gwella eu priodweddau atafaelu lle bo hynny'n bosibl.
Bydd hyn yn golygu monitro ac ymateb i newidiadau yn eu llystyfiant, asesu a chyfyngu (a manteisio i'r eithaf) ar effaith digwyddiadau tywydd eithafol disgwyliedig.
Mae ymchwil a dadansoddiad o greiddiau mawn a gafwyd o fawndiroedd yn darparu gwybodaeth yn y fan a'r lle ar amodau hinsawdd y gorffennol. Gellir olrhain tystiolaeth o ddigwyddiadau newid hinsawdd yn y gorffennol fel cyfnodau o law hir cyson ac amodau sychder estynedig yn ôl i lawr trwy'r creiddiau mawn ac mae'n rhoi cipolwg ar batrymau digwyddiadau hinsawdd yn y dyfodol.
Bydd yr amcanion hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddefnyddio gwybodaeth wyddonol bresennol a hyrwyddo ymchwil sydd wedi'i hanelu at ddeall ecosystemau corsydd mawn yn well, ochr yn ochr â chynyddu gorchudd coed, cynnal ein galluoedd ffermio; a chynnal ymgysylltiad cyhoeddus sensitif.