Blog o'r gors - Mae coed yn dda ond mae cors yn well
Nod Prosiect LIFE Marches Mosses yw adfer y drydedd gyforgors fwyaf yn iseldir Prydain of fewn Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol Fenn’s, Whixall a Bettisfield a Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Wem Moss ger yr Eglwys Newydd, Sir Amwythig a Wrecsam yng Nghymru.
Arweinir y prosiect gan Natural England sy'n gweithio mewn partneriaeth a Chyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Amwythig. Cefnogir y prosiect pum mlynedd gan grant LIFE yr UE.
Yma mae Mike Crawshaw, Swyddog Ymgysylltu’r prosiect yn esbonio sut mae amddiffyn cynefin 10,000 o flynyddoedd oed yn golygu tynnu coed, a sut mae hyn yn cael ei wneud heb fawr o effaith.
Mae Fenn’s, Whixall, Bettisfield, Wem a Cadney Mosses - a elwir gyda'i gilydd yn y Marches Mosses - yn ffurfio'r drydedd gyforgors fwyaf yn y DU. Mae'r Marches Mosses yn pontio Cymru a Lloegr, gyda 75% o'r GNG yng Nghymru.
Amddiffyn cynefin prin
Dechreuodd y Marches Mosses fywyd ar ddiwedd yr Oes Iâ diwethaf oddeutu 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Dros yr amser hwn mae’r mawn wedi cronni dros filenia o ganlyniad i lystyfiant y gors yn cael ei ‘biclo’ yn flynyddol, gan arwain at y cynefin arbennig a welwn heddiw.
Nodweddir corsydd yn dirweddau agored wedi'u gorchuddio â llystyfiant wedi'i addasu'n arbennig fel mwsoglau migwyn, hesgen gotwm a gwlithlysiau.
Mae'r planhigion hyn yn ffynnu yn yr amodau gwlyb a ddi-maeth a geir ar gors.
Mae migwyn yn gweithredu fel ‘rhywogaeth allweddol’ gan storio dŵr, annog asidedd uchel a ffurfio mawn. Mae hyn yn arwain at amodau sy'n anffafriol i goed dyfu.
Felly, ni ddylsai corsydd iach cael eu gorchuddio gan goetir, mae nhw i fod yn ardaloedd agored gyda gwasgariad o brysgwydd a choed ar yr ymylon.
Fodd bynnag, ar y safle yma mae'r nifer fawr o ffosydd a draeniau a geir ar draws y gors wedi sychu'r wyneb gan ganiatáu i goed hunan-hadu, sefydlu a ffynnu.
Ar rannau eraill o blanhigfeydd conwydd y gors, plannwyd y rhain yn gymharol ddiweddar yn y 1960au. O'r herwydd, mae bron pob un o'r ardaloedd coediog o darddiad cymharol ddiweddar ac nid oes yr un ohonynt yn hynafol nac wedi'u gwarchod.
Er bod coed a choedwigoedd yn bwysig yng nghefn gwlad ac i'w hannog, ar gorsydd maent yn niweidiol i ecosystem y cynefin. Mae gwreiddiau dwfn a chanopi dail mawr o goed yn gweithredu fel ‘simneiau’ dŵr ac yn sugno llawer iawn o ddŵr allan o’r ddaear (hyd at 30% o’r lefel trwythiad) sydd yn ei dro yn sychu’r ddaear.
Yn raddol, unwaith y bydd y coed yn dod yn drech, mae llystyfiant y gors a'r rhywogaethau arbenigol prin oddi tanynt sydd wedi bod yn bresennol ers miloedd o flynyddoedd yn dirywio ac yn diflannu.
Tynnu coed
Yn genedlaethol, rydym wedi colli 94% o gorsydd yr iseldir. Er ei fod wedi difrodi, mae Fenn’s a Whixall Mosses yn cynrychioli un o’r enghreifftiau gorau sydd ar ôl o’r cynefin prin hwn yn y DU.
Fodd bynnag, y newyddion da yw bod corsydd yn wydn a dros y 30 mlynedd diwethaf bu cynnydd sylweddol o ran adfer difrod y gorffennol ac adfer ardaloedd llewyrchus o gynefin cors naturiol sydd bellach yn ffynnu.
Er mwyn adfer rhai rhannau o'r safle bu'n rhaid i ni dynnu coed ac ardaloedd coediog sydd wedi'u rheoli dros y 30-60 mlynedd diwethaf.
Roedd y gwaith hwn hefyd yn cynnwys creu ‘byndiau’ ar y mawndir. Cloddiau mawn isel yw'r rhain sy'n gweithredu fel argaeau i ddal dŵr ar wyneb y gors.
Bydd y gwaith hwn yn adfer amodau corsiog gwlyb sy'n hanfodol ar gyfer adfer planhigion y gors a migwyn pwysig.
Sut mae tynnu coed efo’r lleiaf o effaith?
Mae penderfyniadau ar dynnu coed yn cael eu hystyried a'u cynllunio'n ofalus.
Asesir pob ardal gan ecolegwyr yn y tîm sy'n edrych ar y cofnodion rhywogaethau presennol ar gyfer ardal a photensial ardal i gael ei hadfer fel cynefin cors.
Mae’r olaf yn cael ei lywio gan wybodaeth arolwg dyfnder mawn i asesu a yw’r dechneg cadw dŵr o ‘fyndio’ yn addas.
Mae byndio yn defnyddio mawn dyfnach a gwlyb i wneud clawdd mawn tua 30cm o daldra a fydd yn dal dŵr glaw yn ôl mewn “cell” (gweler isod ddelwedd o'r awyr yn dangos y celloedd).
Mae hyn yn caniatáu i’r mawn diraddiedig o fewn y gell ail-wlychu ac ‘ail-biclo’. Mae’r broses o gloddio i lawr i’r dŵr gan gadw mawn ‘da’ hefyd yn chwalu unrhyw sianeli draenio dŵr tanddaearol gan olygu bod dŵr yn cael ei atal rhag draenio i ffwrdd uwchben ac o dan y ddaear.
Delwedd uchod - golygfa o'r awyr o'r celloedd byndio ar y Marches Mosses (credyd Natural England).
Mewn lleoliadau ar ymylon y safle gyda mawn bas, bydd y byndio yn annog datblygiad coetir gwlyb. Byddai'r cynefin prin hwn wedi digwydd yn naturiol ar ymyl y gors yn y gorffennol.
Lle bo hynny'n briodol, cedwir ymyl o goed o amgylch yr ardaloedd lle mae coed wedi eu tynnu i ddarparu byffer tywydd a thirwedd ac i wasanaethu fel cyswllt bywyd gwyllt rhwng ardaloedd coediog wrth gefn (gweler y delweddau isod).
Mae llawer o'r ardaloedd tywodlyd sychach ar gyrion y warchodfa natur hefyd wedi'u gadael i adfywio i brysgwydd a choetir dros amser.
Delwedd uchod - Bettisfield Moss - mae'r ddelwedd o'r awyr chwith yn dangos y safle cyn ei adfer ac mae'r ddelwedd o'r awyr ar y dde yn dangos yr un safle ar ôl ei adfer gydag ymyl o goed (credyd Natural England).
Mae Bettisfield Moss yn enghraifft o ardal goediog gynt a adferwyd yn llwyddiannus (gweler y delweddau isod). Roedd yr ardal agored a welwch heddiw yn blanhigfa gonwydd gynt.
Cynaeafwyd y coed tua 20 mlynedd yn ôl ac mae'r gwaith byndio wedi digwydd dros y tair blynedd diwethaf. Heddiw mae llystyfiant cors o ansawdd uchel yn ffynnu ac mae'n gartref i rai o'r rhywogaethau prinnaf yn y warchodfa natur.
Delwedd uchod - Roedd Bettisfield Moss gynt yn blanhigfa gonwydd (chwith) a heddiw (ar y dde) mae'n gynefin cors iach a ffyniannus (credyd Natural England).
Gan mai GNG Fenn’s, Whixall a Bettisfield yw’r drydedd gors iseldir fwyaf yn y DU, mae’n gadarnle i fywyd gwyllt fel y gweirloyn mawr y waun, picellwr wynebwyn, a’r gylfinir, y mae llawer o’r rhain yn dirywio yn niferoedd yn genedlaethol.
Yn ogystal â bod o fudd i'r planhigion cors bwysig, bydd tynnu coed hefyd o fudd i'r rhywogaethau hyn trwy ddychwelyd ardaloedd dirywiedig o gors yn ôl i gyflwr iach y gall y rhywogaethau hyn eu galw'n gartref unwaith eto.
Felly, lle mae coed yn cael eu tynnu a bod y mawn yn cael ei ail-wlychu, bydd hyn dros amser yn ailosod y broses weithredol o gronni mawn a storio carbon yn y cynefin.
Mae pob erw o gors yn Fenn’s a Whixall Mosses yn cynnwys 15 gwaith cymaint o garbon nag arwynebedd cyfatebol coetir aeddfed. Amcangyfrifir bod 3 miliwn tunnell enfawr o garbon wedi’i gloi yn y mawn yn Fenn’s a Whixall Mosses.
Gellir dadlau bod swyddogaeth bwysig y mwsoglau fel un o storfeydd carbon naturiol mwyaf y rhanbarth yn cael ei gynyddu i'r eithaf, gan ei galluogi i chwarae rhan bwysig wrth liniaru effaith newid yn yr hinsawdd.
I ddarganfod mwy am brosiect LIFE Marches Mosses ewch i'r wefan neu dilynwch nhw ar Facebook @MarchesMossesBogLIFE neu ar Twitter @MeresandMosses.