Ffermwyr yn rhagori ar dargedau ailgylchu plastig fferm!
Dros gyfnod o chwe mis, mae cynllun newydd yn ne Cymru sydd â'r nod o ailgylchu 200 tunnell ychwanegol o blastig o ffermydd wedi rhagori ar ei darged.
Rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2025, fe wnaeth dros 200 o ffermwyr ailgylchu 311 tunnell o blastigion amaethyddol. Mae hyn yn cynrychioli 63% yn fwy o blastig fferm a ollyngwyd mewn canolfannau casglu i’w ailgylchu o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2023 a 2024.
Oherwydd ei lwyddiant, mae'r cynllun yn cael ei ymestyn tan fis Rhagfyr 2026. Ar hyn o bryd mae'r cynllun yn cynnig gostyngiad o £30 y dunnell i ffermwyr am blastig, sydd naill ai'n cael ei ddwyn i ganolfan gasglu neu ei gasglu o’r fferm. Mae ffermwyr yn talu £40 y dunnell yn llai am fynd â phlastig i ganolfan gasglu.
Nod y cynllun yw lleihau llygredd plastigion ffermydd yn ein hafonydd a helpu i amddiffyn natur, ac mae’n gydweithrediad rhwng y gymuned ffermio, prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Agriculture Plastics Environment (APE), Birch Farm Plastics, ac Afonydd Cymru.
Dywedodd Chris Thomas, Uwch-swyddog Rheoli Tir Pedair Afon LIFE: “Rydym wrth ein bodd gyda’r ymateb a’r gefnogaeth gan y gymuned ffermio i’r cynllun, ac yn diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan ohono hyd yn hyn. Mae newidiadau bach fel hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n hafonydd a’r bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnyn nhw.”
Birch Farm Plastics sy'n trefnu'r canolfannau gollwng a'r mannau casglu. I ddod o hyd i'ch 'ganolfan ollwng' agosaf a chadarnhau eich bod yn gymwys, ffoniwch Birch Farm Plastics ar 01792 869776.
Mae'r cynllun yn cynnig cyfle i ffermwyr a thirfeddianwyr ailgylchu plastig eu fferm am gost is mewn sawl canolfan ar draws dalgylchoedd y pedair afon Ardal Cadwraeth Arbennig: afon Teifi, afon Tywi, afon Cleddau, ac afon Wysg.
Mae llygredd plastig fel deunydd lapio silwair o ffermydd yn achosi problem eang i afonydd ledled y DU. Gall bywyd gwyllt gan gynnwys pysgod, adar, amffibiaid, a rhywogaethau dyfrol eraill gael eu hanafu neu eu lladd wrth fynd yn sownd mewn gwastraff plastig. Gall hefyd gronni i greu rhwystrau sy'n niweidiol i'r amgylchedd a all fod yn rhwystr i bysgod fudo a chynyddu’r risg o lifogydd.
Mae afon Teifi, afon Tywi, afon Cleddau, ac afon Wysg wedi’u dosbarthu’n ardaloedd cadwraeth arbennig, sy’n golygu eu bod o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd eu bywyd gwyllt a’u planhigion, megis eogiaid, llysywod pendoll yr afon, gwangod, dyfrgwn, a chrafanc y dŵr.
Ariennir prosiect Pedair Afon LIFE gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.
|
Beth y gellir ei ailgylchu |
Beth na ellir ei ailgylchu |
|
Deunydd lapio beliau silwair (pob lliw) |
Gellir ailgylchu cortyn beliau os caiff ei wahanu’n iawn |
|
Cynfas sy’n gorchuddio pyllau |
Rhwydi lapio beliau |
|
Bagiau gwrtaith a bwyd anifeiliaid |
Gellir ailgylchu llinyn os caiff ei wahanu’n iawn |
|
Bwcedi porthi |
|