Ffensys yn gwella ansawdd yr afon yn Nyffryn Cothi
Bydd gwaith yn nalgylch Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Tywi yn helpu i atal glan yr afon rhag erydu, yn gwella ansawdd dŵr yr afon, ac yn hwyluso’r gwaith o reoli da byw a chynhyrchiant ffermydd.
Mae Jim Thomas wedi ffermio ar Fferm Dyffryn Isaf ger Llanfynydd gyda’i deulu ers 50 mlynedd. Mae ei fferm ddefaid 400 erw yn gorwedd ar hyd afon Cothi – un o is-afonydd ACA Afon Tywi.
Yn ddiweddar mae Jim wedi gosod 2.5 cilometr (1.5 milltir) o ffensys ar lan yr afon ar ei dir fel rhan o brosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae lleiniau glan afon wedi’u nodi fel datrysiad ar sail natur sy’n darparu amryfal fuddion. Gallant amsugno maetholion gormodol a darparu rhwystr ffisegol i ddŵr ffo pridd a maetholion rhag cyrraedd afonydd, gan helpu i wella ansawdd y dŵr i lawr yr afon.
Bydd y ffensys hefyd yn helpu Jim i fugeilio ei ddiadell o 500 o ddefaid yn fwy effeithiol.
Esboniodd Jim Thomas: “Yn y gorffennol byddai ein defaid yn mynd i mewn i’r eithin ar hyd ymylon rhai caeau gan wneud gwiriadau arferol yn anodd. Mae gennym hefyd rywfaint o dir gwlyb a all gyfrannu at lyngyr yr iau a phroblemau gyda thraed y defaid.”
“Roedd y prosiect eisoes wedi cysylltu â ni i godi ffensys gyda’r diben o greu lleiniau glan afon ar y fferm, ac felly fe ofynnon ni iddyn nhw ymestyn y ffensys i greu lleiniau clustogi ehangach i gau’r ardaloedd problemus hyn.”
“Rwy’n falch iawn o ddweud bod y prosiect wedi cytuno i hynny ac rydyn ni nawr yn gallu arbed amser a llafur ar dasgau dyddiol, gwella iechyd anifeiliaid a chynyddu bioamrywiaeth a chysgod ar y fferm ar yr un pryd.”
“Bonws arall o godi’r ffensys yw eu bod yn ein helpu ni i gynnal ffiniau ffermydd a chaeau. Ar y dechrau roeddwn ychydig yn amheus am y prosiect ond mae’r gwaith wedi gwneud ein bywydau’n haws ac wedi gwella busnes y fferm ar gyfer y dyfodol. Rwyf wrth fy modd â’r gwaith a’r canlyniadau.”
Caiff y gwaith ffensio ei gyflawni gan brosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru a chontractwyr ac mae’n cael ei ariannu’n llawn gan y prosiect.
Nod y prosiect yw gweithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir i leihau dŵr ffo sy’n cynnwys pridd, gwaddod a maetholion rhag cyrraedd afonydd. Mae hyn yn helpu i gadw ein hafonydd yn iachach ac yn gwella ansawdd y dŵr.
Hyd yn hyn, mae 27 o ffermydd wedi gweithio gyda’r prosiect, gyda thua 25 cilometr (15 milltir) o ffensys wedi’u cwblhau ar ffermydd ar hyd yr afonydd sy’n ACAau; sef afon Teifi, afon Tywi, afon Cleddau ac afon Wysg.
Mae ymchwil yn dangos y gall ffensio a chreu lleiniau glan afon sy’n fwy na 15 metr o led leihau effaith maetholion yn cyrraedd ein hafonydd 85%.
Yn yr un modd, gall lleiniau glan afon sy’n fwy na chwe metr o led leihau gwaddod sy’n cyrraedd ein hafonydd hyd at 95%, gan arwain at ansawdd dŵr gwell.
Dywedodd Chris Thomas, Uwch-swyddog Rheoli Tir Pedair Afon LIFE: “Mae lleihau erydiad pridd, hidlo maetholion o’r tir, a darparu cynefin i fywyd gwyllt, yn ddim ond rhai o fanteision lleiniau glan afon.
“Rydym yn ddiolchgar i Jim a’i deulu am weithio gyda ni ac am weld y manteision i’r busnes fferm ehangach.”
“Gan fod Jim wedi ein hargymell i ffermydd cyfagos, rydym bellach yn gweithio gyda sawl fferm ar hyd afon Cothi a Dyffryn Tywi. Mae hyn yn newyddion gwych i’n prosiect a bydd yn ein helpu i wella cyflwr afon Tywi ar gyfer pysgod pwysig fel eogiaid yr Iwerydd a llysywod pendoll yr afon.”
Gwyliwch ein fideo yn dangos rhywfaint o’r gwaith ffensio yr ydym wedi’i wneud ar hyd ACA Afon Teifi Pedair Afon LIFE - Sut mae ffensio yn helpu ein hafonydd?
Ariennir y prosiect Pedair Afon LIFE gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.
Os ydych yn rheoli tir ar hyd afonydd ACA (sef afon Teifi, afon Tywi, afon Cleddau ac afon Wysg) ac am ddysgu mwy, anfonwch neges e-bost i 4RiversforLIFE@naturalresourceswales.gov.uk