Rhannu cynlluniau ar gyfer llwybr pysgod newydd o dan Bont Llan-ffwyst mewn sesiwn galw heibio gymunedol

Golygfa o Bont Llan-ffwyst

Gwahoddir pobl sy'n byw yn y Fenni, Llan-ffwyst a'r ardaloedd cyfagos i ddod i ddigwyddiad galw heibio cyhoeddus i ddysgu mwy am gynlluniau ar gyfer llwybr pysgod newydd o dan bont Llan-ffwyst.

Cynhelir y digwyddiad galw heibio yn The Tithe Barn, Stryd y Mynach, Y Fenni ar ddydd Iau ,19 Mawrth rhwng 3 a 7pm.

Bydd y cynllun a gyflwynir gan Brosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn addasu sylfeini'r bont er mwyn gwella’r llwybr i sawl rhywogaeth o bysgod mudol ar ACA (Ardal Cadwraeth Arbennig) Afon Wysg.

Ystyrir bod y gris a grëwyd gan ffedog y bont gyfredol ym mhont Llan-ffwyst (a elwir hefyd yn bont Wysg a phont y Fenni) yn rhwystr i symudiad pysgod, yn arbennig i rywogaethau sy’n nofwyr gwannach fel herlod a llysywod pendoll, sy’n nodweddion dynodedig o ACA Afon Wysg. Gall mân rwystrau fel Pont Llan-ffwyst hefyd lesteirio symudiadau eogiaid a brithyllod, ac arafu eu teithiau mudo.

Bydd y gwaith yn golygu creu bwlch, neu sianel llif isel trwy ffedog y bont o dan un o’i bwâu. Ni fydd unrhyw waith yn digwydd ar strwythur uchaf y bont ac ni effeithir o gwbl ar y ffordd.

Byddai'r bwlch yn cynnwys cyfres o glogfeini bychain i ddarparu llifau addas ar gyfer llwybr sawl rhywogaeth o bysgod wrth iddynt fudo.

Ers blynyddoedd lawer, mae poblogaethau pysgod ar afon Wysg wedi bod yn cael trafferthion oherwydd pwysau fel newid hinsawdd, dirywiad cynefinoedd, rhwystrau rhag mudo ac ansawdd dŵr.

Bydd y llwybr pysgod newydd yn gwella hygyrchedd i bysgod mudol a disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Gorffennaf 2026, yn ddibynnol ar y tywydd a lefelau dŵr yr afon.

Meddai Susie Kinghan, Rheolwr Prosiect Pedair Afon LIFE: “Bydd y gwaith hwn yn gwella cysylltedd afonydd ar gyfer rhywogaethau sy’n ei chael hi’n anodd ac yn meithrin cydnerthedd yr afon werthfawr a phwysig hon.”
“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos â’r Panel Cymeradwyo Llwybrau Pysgod Cenedlaethol, ac mae’r dyluniad arfaethedig wedi cael ei arwain ganddynt i sicrhau ei fod yn gweithredu’n effeithiol ar gyfer sawl rhywogaeth, gan gynnwys eogiaid, herlod, llyswennod pendoll a llyswennod.”

Gwahoddir aelodau'r gymuned i fynychu'r digwyddiad galw heibio yn The Tithe Barn, Stryd y Mynach, Y Fenni ar ddydd Iau, 19 Mawrth rhwng 3 a 7pm i glywed mwy am y gwaith.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gallwch anfon e-bost at y tîm yn uniongyrchol ar 4RiversforLIFE@naturalresourceswales.gov.uk