Gwahodd y gymuned i drafod cynlluniau adfer coedwig Llidiad
Gwahoddir y gymuned leol i sesiwn galw heibio i ddysgu mwy am gynlluniau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i adfer ardaloedd o goedwig o amgylch Llidiad Nenog, Brechfa, yr effeithiodd Storm Darragh yn ddifrifol arnynt.
Cynhelir y sesiwn galw heibio yn neuadd bentref Llanfihangel-Rhos-y-Corn ar 19 Awst 2026 rhwng 3pm a 6pm. Mae croeso i drigolion fynychu unrhyw bryd yn ystod y sesiwn i ddysgu mwy am y cynlluniau a gofyn cwestiynau.
Ym mis Rhagfyr 2024, achosodd Storm Darragh ddifrod sylweddol i goedwigoedd ar hyd a lled de-orllewin Cymru, gan effeithio ar fwy na 600 hectar o goetir, sy'n cyfateb i tua 840 o gaeau pêl-droed.
Ers hynny, mae CNC wedi lansio rhaglen gynaeafu ac ailblannu fesul cam i adfer coedwigoedd sydd wedi'u difrodi, a disgwylir i'r gwaith adfer gymryd rhwng tair a phum mlynedd.
Roedd y goedwigaeth i'r gogledd-ddwyrain a'r de o Lidiad Nenog ymhlith yr ardaloedd yr effeithiwyd yn ddrwg arnynt yn ystod Storm Darragh a stormydd blaenorol. Oherwydd maint y difrod, bydd y gwaith i glirio’r coed yr effeithiwyd arnynt ac adfer y coetir yn digwydd mewn camau dros y blynyddoedd nesaf.
Mae'r rhaglen arfaethedig yn cynnwys:
- Cam 1: De Llidiad (2027)
- Cam 2: Gogledd Llidiad (2028)
- Cam 3: De Llidiad (2029)
Noder bod yr amserlenni a'r terfynau cwympo coed hyn yn ddangosol a gallant newid wrth i gynlluniau ddatblygu.
Meddai Ellen Humphrey, Uwch Swyddog Gweithrediadau Coedwigaeth, CNC:
“Achosodd Storm Darragh ddifrod sylweddol i goedwigoedd ledled de-orllewin Cymru, ac roedd y coedwigoedd o amgylch Llidiad Nenog ymhlith yr ardaloedd a gafodd eu taro galetaf.
“Bydd y gwaith o adfer y coetiroedd hyn yn cymryd amser, ond mae’r gwaith hwn yn gam pwysig wrth adfer y goedwig a sicrhau ei bod yn parhau i ddarparu manteision amgylcheddol, economaidd a hamdden i genedlaethau’r dyfodol.
"Rydym yn deall y bydd gan bobl leol gwestiynau ynglŷn â beth mae hyn yn ei olygu i'w cymuned, felly rydym yn annog trigolion i ddod draw i'r sesiwn galw heibio i gwrdd â'r tîm, dysgu mwy am y cynlluniau a rhannu unrhyw bryderon sydd ganddynt."
Er mwyn cefnogi'r rhaglen adfer a helpu i leihau'r effeithiau ar y gymuned leol, mae CNC yn gwella seilwaith coedwigoedd yn yr ardal. Mae gwaith i fod i ddechrau ym mis Awst i adfer llwybr cludo pren nad yw’n cael ei ddefnyddio bellach ac uwchraddio llwybr cynaeafu coedwig sy’n bodoli eisoes, gan greu cysylltiad newydd â bloc coedwig ehangach Dwyrain Brechfa.
Ar ôl eu cwblhau, bydd y llwybrau ychwanegol hyn yn helpu i leihau symudiadau lorïau cludo pren sy'n mynd drwy Lidiad Nenog trwy ganiatáu i bren gael ei gludo trwy fynedfa Sifigwm lle bo modd.
Bydd y gwaith cynaeafu yn cynnwys cael gwared ar goed sy'n cael eu chwythu i lawr gan y gwynt a choed ansefydlog er mwyn helpu i leihau'r risg o gael eu chwythu drosodd gan y gwynt yn y dyfodol. Lle bynnag y bo modd, bydd ardaloedd o goed sy'n sefyll na effeithiwyd arnynt yn cael eu cadw.
Mae CNC hefyd yn parhau i reoli ardaloedd o Glymog Japan o fewn y blociau coedwig yr effeithir arnynt. Mae mesurau ar waith i atal y planhigyn goresgynnol hwn rhag lledaenu yn ystod gweithrediadau, er bod ardal arbennig o drwchus o glymog Japan ar hyn o bryd yn cyfyngu mynediad i'r llwybrau cludo newydd o Dde Llidiad.
Bydd y gwaith adfer yn cael ei ddilyn gan ailblannu i sefydlu'r genhedlaeth nesaf o goetir a dod ag ardaloedd yr effeithir arnynt yn ôl i gylchred y goedwig.
Mae tua 100 hectar o goed a chwythwyd drosodd gan y gwynt eisoes wedi cael eu cynnwys mewn gweithrediadau cynaeafu presennol, gyda chynlluniau ar waith ar gyfer yr ardaloedd yr effeithir arnynt sy'n weddill. Mae timau CNC hefyd wedi clirio 35 cilomedr o ffyrdd a llwybrau coedwig wedi'u rhwystro a, lle bo'n bosibl, maent yn atgyweirio ffensys terfyn sydd wedi'u difrodi gyda thirfeddianwyr cyfagos.
Mae CNC yn cydnabod y gall gwaith adfer effeithio ar fynediad a hamdden a hoffai ddiolch i gymunedau am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Mae'r rhaglen yn cael ei rheoli'n ofalus er mwyn cydbwyso ymdrechion adfer â gwarchodaeth amgylcheddol, mynediad cyhoeddus a rheolaeth goedwigoedd barhaus.
Er mwyn darllen mwy am faint ac effaith Storm Darragh yn y De-orllewin cliciwch yma: Adfer ar ôl Storm Darragh: rhaglen gynaeafu ac ailblannu'r de-orllewin - Cyfoeth Naturiol Cymru Gofod Dinasyddion - Citizen Space
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am ymweld â'n coedwigoedd yn ystod gweithrediadau cynaeafu gwyliwch: Ymweld â'n coedwigoedd yn ddiogel
Er mwyn dysgu am gylchred bywyd y coedwigoedd ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, gwyliwch: Cylch bywyd ein coedwigoedd a'n coetiroedd - YouTube