Ymgynghoriad yn agor ar Barc Cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig

Mae pobl yn cael eu hannog i rannu eu barn ar Barc Cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig, wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) lansio ymgynghoriad statudol 12 wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 15 Medi 2025.
Mae'r ymgynghoriad yn dilyn dwy flynedd o werthuso manwl a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys casglu data, asesiadau technegol, ac ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid ledled y rhanbarth.
Helpodd ymgysylltu cyhoeddus blaenorol yn 2023 ac ymgynghoriad cyhoeddus yn 2024 i lunio'r cynnig presennol. Mae adborth o'r camau hyn wedi llywio'r map ymgynghori terfynol a'r dystiolaeth ategol.
Gellir lawrlwytho map arfaethedig Parc Cenedlaethol Glyndŵr yma:
Map Sylfaenol Parc Cenedlaethol Arfaethedig Glyndŵr
Map Manwl Parc Cenedlaethol Arfaethedig Glyndŵr
Ar ôl i chi lawrlwytho'r map manwl, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ei agor gydag Adobe Acrobat.
Dywedodd Ash Pearce, Rheolwr y Rhaglen:
“Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i amddiffyn natur, cefnogi cymunedau, a llunio dyfodol gwell i’r rhan hyfryd hon o Gymru. Rydyn ni’n gwybod y gall newid fod yn anodd, ond gyda’r dull cywir, gallai Parc Cenedlaethol newydd ddod â manteision go iawn i bobl, bywyd gwyllt a’r economi leol.”
Anogir aelodau’r cyhoedd, sefydliadau a rhanddeiliaid i fynychu digwyddiad, archwilio’r cynnig a dweud eu dweud drwy ymateb i’r ymgynghoriad."
Am wybodaeth am y digwyddiadau ymgynghori, ewch i: Digwyddiadau Ymgynghoriad Statudol 2025
I ymateb i'r ymgynghoriad, ewch i'r dudalen ymgynghoriad.
Rhaid derbyn ymatebion erbyn y dyddiad cau, sef dydd Llun 8 Rhagfyr 2025 fan bellaf.
Am ragor o wybodaeth am gefndir y cynnig, ewch i'r dudalen wybodaeth.