Datgan statws sychder ar gyfer gogledd Cymru

Er bod llawer o rannau o Gymru wedi cael rhywfaint o law yr wythnos hon, mae'r cyfnod hir o dywydd poeth a sych y gwanwyn/haf hwn yn parhau i effeithio ar afonydd, dyfroedd daear, tir a bywyd gwyllt Cymru.

Er gwaethaf y newid yn y tywydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi heddiw (29 Awst) fod lefelau penodol wedi cael eu cyrraedd i symud gogledd Cymru i statws sychder, yn fuan ar ôl datgan sychder yn ne-ddwyrain Cymru yn gynharach y mis hwn.

Mae de-orllewin Cymru wedi elwa o'r glawiad yr wythnos hon; bydd statws y cyfnod hir o dywydd sych yn parhau ac yn cael ei fonitro'n agos.

Rhannwyd y penderfyniad gyda chyfarfod Grŵp Cyswllt Sychder Llywodraeth Cymru y bore yma, lle ystyriwyd y data hydrolegol diweddaraf a goblygiadau ehangach llifoedd afonydd a lefelau dŵr daear isel.

Rhannwyd pryderon am yr effeithiau a welwyd gan ein timau ar lawr gwlad, yn ogystal ag aelodau o'r cyhoedd drwy linell gymorth digwyddiadau CNC.

Yng ngogledd Cymru, mae mwy o adroddiadau yn cael eu derbyn am nentydd sych a physgod yn cael eu canfod mewn trafferthion. Effeithiodd tân gwyllt difrifol ar Warchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch dros benwythnos gŵyl y banc, gan arwain at gau’r safle am gyfnod.

Yn ne-ddwyrain Cymru, mae cryn bryderon am boblogaethau eogiaid oherwydd llifoedd isel a thymheredd uchel cyson afonydd yn ystod y misoedd diwethaf. Mae eogiaid llawn dwf wedi eu canfod yn farw ac mae cyngor wedi'i ddosbarthu i'r gymuned bysgota am arferion diogel.

Effeithiodd tanau gwyllt sylweddol hefyd ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru dros benwythnos gŵyl y banc yng nghymoedd y de.

Mae penderfyniad CNC i symud gogledd Cymru i statws sychder yn ystyried yr effeithiau hyn ar yr amgylchedd, amaethyddiaeth a rheoli tir.

Mae cwmnïau dŵr yn cadarnhau bod cyflenwadau dŵr yfed yn parhau i fod yn ddiogel ac mae Dŵr Cymru’n cadarnhau nad oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno gwaharddiadau defnydd dros dro. Cynghorir pobl a busnesau i ddilyn cyngor Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy, a pharhau i ddefnyddio dŵr yn ddoeth i helpu i leddfu'r pwysau ar yr amgylchedd yn ogystal â chyflenwadau dŵr.

Dywedodd Ben Wilson, Prif Gynghorydd, o Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Bydd y glawiad yr wythnos hon yn rhoi rhywfaint o seibiant i'n hamgylchedd, ein tir a'n bywyd gwyllt, ond bydd yn cymryd misoedd lawer, a glaw mwy cyson i'n hamgylchedd adfer yn llawn.

"Y cyfnod o chwe mis rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf oedd y sychaf ers sychder 1976, ac mae wedi rhoi pwysau eithafol ar ein hafonydd, dyfroedd daear, amaethyddiaeth a bywyd gwyllt. Mewn rhai ardaloedd, mae hyn wedi achosi i lifoedd afonydd a lefelau dŵr daear ostwng o dan y lefelau isaf hanesyddol.

"Wrth i ni fynd i mewn i'r Hydref, rydym yn parhau i gadw llygad agos ar ragolygon tywydd, llif afonydd a lefelau dŵr daear, yn ogystal ag ymateb i adroddiadau o ddigwyddiadau amgylcheddol a achoswyd gan y sychder. Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Llywodraeth Cymru, cwmnïau dŵr a phartneriaid eraill i roi darlun llawn o amodau ledled y wlad."

Mae effeithiau eraill y sychder yn cynnwys cyflenwadau dŵr preifat yn sychu mewn rhai ardaloedd, effeithiau ar reoli tir, plannu coed, mordwyo a hamdden a ffermwyr yn gorfod chwilio am gyflenwadau dŵr eraill a bwyd ategol ar gyfer da byw oherwydd llai o dwf glaswellt a cholli coed a blannwyd yn ddiweddar.

Mae’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio gan y statws sychder yn cynnwys:

  • Dyfrdwy (Cymru)                                
  • Hafren Uchaf
  • Gogledd Gwynedd (Conwy, Ynys Môn, Arfon, Dwyfor)
  • De Gwynedd (Meirionydd)
  • Clwyd

O safbwynt Cymru gyfan, y cyfnod rhwng mis Chwefror a Gorffennaf yw’r 16eg cyfnod sychaf mewn 190 mlynedd (Chwefror-Gorffennaf) - a’r sychaf ers 1976.

Hyd yn hyn eleni mae Cymru wedi derbyn 555mm o law (Ionawr i Orffennaf 2025), sydd bron mor sych â'r amodau yn 2022, lle cyhoeddwyd statws sychder ar Gymru gyfan erbyn mis Medi.

O ddydd Mawrth, 26 Awst, roedd Cymru wedi cael dim ond 22.43% o’r glawiad misol cyfartalog.

Felly mae llif y rhan fwyaf o afonydd ledled Cymru’n isel neu’n isel iawn, fel y lefelau dŵr daear.

Ychwanegodd Ben:

"Wrth i newid yn yr hinsawdd gyflymu, mae disgwyl i hafau yn y DU ddod yn sychach, a bydd digwyddiadau tywydd eithafol yn dod yn fwy aml a dwys.
"Er bod cyflenwadau dŵr hanfodol yn parhau i fod yn ddiogel, rydym yn annog pobl i feddwl yn ofalus am eu defnydd o ddŵr eu hunain yn y cartref ac yn y gwaith, i ddiogelu cyflenwadau i'r amgylchedd yn ogystal â chyflenwadau dŵr cyhoeddus.
"Os yw pobl allan yn mwynhau diwedd gwyliau’r haf ac yn gweld arwyddion o ddigwyddiadau amgylcheddol – fel gwelyau afonydd sych, pysgod mewn trafferthion neu lygredd – dylent roi gwybod amdano trwy ein ffurflen digwyddiadau ar-lein neu ffonio ein llinell gymorth 24 awr ar 0300 065 3000."