Cyhoeddi canllawiau i gefnogi cynlluniau lleihau digwyddiadau llygredd cwmnïau dŵr
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar y cyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr i gefnogi cwmnïau dŵr i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n deillio o Dddeddf Dŵr (Mesurau Arbennig) 2025 i leihau digwyddiadau llygredd.
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cwmni dŵr sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr gyhoeddi Cynlluniau Lleihau Digwyddiadau Llygredd. Bydd y cynlluniau hyn yn nodi sut mae cwmnïau'n bwriadu lleihau digwyddiadau llygredd o’u hasedau a diogelu'r amgylchedd dŵr.
Rhaid i Gynlluniau Lleihau Digwyddiadau Llygredd ganolbwyntio ar nodi pob ffynhonnell bosibl o lygredd o fewn eu rhwydwaith, asesu'r risg i'r amgylchedd a gosod targedau clir ar gyfer lleihau digwyddiadau.
Rhaid i gwmnïau ddilyn y canllawiau newydd, sy'n amlinellu'r elfennau allweddol y mae'n rhaid eu cynnwys yn y cynlluniau.
O 2027, bydd rhaid hefyd iddynt gyhoeddi Adroddiadau Gweithredu sy’n asesu i ba raddau y maent wedi llwyddo neu wedi methu â gweithredu mesurau a gynlluniwyd i leihau nifer yr achosion o lygredd.
Bydd y cynlluniau a’r adroddiadau'n cael eu hadolygu'n flynyddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer cwmnïau yn Lloegr, i fonitro cynnydd.
Cyhoeddir y canllawiau ar y cyd ar wefan Llywodraeth Cymru.
Meddai Becky Favager, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu o Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Fel rheoleiddiwr Cymru, rydym yn croesawu cyflwyno’r gofynion cyfreithiol newydd hyn, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau dŵr ddatblygu cynlluniau cadarn i leihau digwyddiadau llygredd.
“Mae Cynlluniau Lleihau Digwyddiadau Llygredd ac Adroddiadau Gweithredu yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau nodi achosion sylfaenol llygredd, amlinellu camau gweithredu clir ac adrodd ar gynnydd o flwyddyn i flwyddyn.
“Mae’n rhoi offeryn arall inni i ddwyn y sector i gyfrif a chynyddu tryloywder, wrth gyflymu camau gweithredu cwmnïau dŵr i leihau gollyngiadau carthion a gwella iechyd ein dyfroedd yng Nghymru.”
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
"Mae'r Cynlluniau Lleihau Digwyddiadau Llygredd hyn yn ymwneud â thryloywder ac atebolrwydd. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen wrth ddwyn cwmnïau dŵr i gyfrif a sicrhau eu bod yn cymryd camau clir, cyson a seiliedig ar dystiolaeth i atal llygredd dŵr.
Mae iechyd ein hafonydd a'n dyfrffyrdd yn hanfodol i amgylchedd, cymunedau a bywyd gwyllt Cymru. Rydym yn disgwyl i gwmnïau dŵr nodi achosion llygredd, cymryd camau gweithredu, ac adrodd yn flynyddol ar eu cynnydd. Nid yw ein hafonydd a'n dyfrffyrdd yn haeddu dim llai."
Mae cyflwyno Cynlluniau Lleihau Digwyddiadau Llygredd ac Adroddiadau Gweithredu yn cefnogi ymdrechion ehangach CNC i reoleiddio a gwella perfformiad y sector dŵr yng Nghymru.
Bydd CNC yn parhau i reoleiddio cwmnïau dŵr a chymryd camau priodol lle bydd digwyddiadau llygredd yn digwydd neu lle mae cwmnïau'n methu â chyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol.