Tonnau gwres yn dechrau effeithio ar yr amgylchedd

Ar ôl cyfres o donnau gwres eithriadol a chyfnodau hir o dywydd poeth a sych y gwanwyn/haf hwn, mae'r amgylchedd yn dechrau dangos arwyddion o straen, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae CNC wedi cadarnhau heddiw (16 Gorffennaf 2026) y bydd yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt waethaf – yng ngogledd a de-ddwyrain Cymru – yn symud o statws 'normal' i statws 'cyfnod hir o dywydd sych'.

Mae'r penderfyniad yn seiliedig ar ffactorau hydrolegol ac amgylcheddol a phryderon ynghylch y pwysau y mae tymereddau uchel a diffyg glawiad sylweddol wedi'u rhoi ar afonydd, lefelau dŵr daear, pysgodfeydd, bywyd gwyllt, rheoli tir a'r amgylchedd naturiol ehangach.

Mae cyfnod hir o dywydd sych yn ddigwyddiad naturiol sydd wedi dod yn fwy tebygol wrth i newid hinsawdd gyflymu. Dyma'r cam cyntaf yng Nghynllun Sychder CNC ar gyfer statws sychder. Mae'n digwydd pan fo glawiad yn is na'r disgwyl am gyfnod estynedig gan arwain at lefelau isel mewn afonydd, cronfeydd dŵr a dŵr daear yn ogystal â thir a phriddoedd yn sychu.

Er bod Cymru gyfan wedi gweld symiau o law a oedd o fewn y cyfartaledd yn ystod mis Mehefin, cafodd rhai dalgylchoedd gan gynnwys Clwyd, Dyfrdwy a Hafren Uchaf symiau is na'r cyfartaledd.

Hyd yn hyn, dim ond 5% o'r glawiad disgwyliedig ar gyfer mis Gorffennaf y mae Cymru wedi'i gael, gyda disgwyl i'r tywydd poeth a sych presennol barhau i'r wythnos nesaf. Mae dwyster y tywydd presennol yn golygu y gallai dalgylchoedd ddirywio ymhellach yn gyflym os na fydd glawiad sylweddol a pharhaus yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Rhian Thomas, Rheolwr Dŵr a Natur Cynaliadwy yn CNC:

“Mae’r gyfres eithriadol o donnau gwres rydyn ni wedi’u profi’r gwanwyn a’r haf hwn bellach yn dechrau effeithio ar ein hafonydd, llynnoedd, cynefinoedd a bywyd gwyllt.
“Mewn ymateb, byddwn yn cynyddu ein camau gweithredu a’n gwaith monitro ledled Cymru i helpu i leddfu’r pwysau ar yr amgylchedd, defnyddwyr tir a dŵr, yn ogystal ag ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â thywydd sych.
“Mae’r symudiad i statws cyfnod hir o dywydd sych yn dilyn gwanwyn/haf arall a dorrodd recordiau y llynedd, pan ddatganwyd statws sychder ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru. Rydym yn disgwyl i'r patrymau tywydd eithafol hyn ddod yn amlach wrth i'n hinsawdd newid – gyda gaeafau gwlypach a hafau sychach yn dod yn norm.
“Rydym yn cefnogi negeseuon cwmnïau dŵr i gwsmeriaid i barhau i ddefnyddio dŵr yn ddoeth. Mae pob diferyn rydyn ni'n ei wastraffu gartref neu yn y gwaith yn golygu llai o ddŵr i helpu i gadw ein hamgylchedd yn iach yn y cyfnodau mwyaf tyngedfennol.”

Mae timau Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi gwybod am lifoedd eithriadol o isel mewn afonydd mewn rhai rhannau o ogledd a de-ddwyrain Cymru, yn ogystal â gostyngiad o ran lefelau dŵr daear.

Mae tymereddau yn y rhan fwyaf o afonydd wedi'u cofnodi ar neu uwchlaw'r trothwy 20°C a all fod yn beryglus i bysgod yn ystod llifoedd isel, gyda Gwy ac Wysg yn cyrraedd uchafbwynt o dros 26°C.

Mae timau ar lawr gwlad yn adrodd am bryderon ynghylch y cyfnod hir o dywydd sych ar yr amgylchedd, gan gynnwys adroddiadau am welyau afonydd sych yng ngogledd Cymru, lles eogiaid a physgod mewn trallod.

Mae effaith y gwres hefyd yn cael ei theimlo yng nghefn gwlad, gan arwain at gyhoeddi digwyddiad difrifol y penwythnos diwethaf yn dilyn nifer o danau gwyllt dinistriol yng ngogledd Cymru.

Cafodd penderfyniad CNC i gyhoeddi statws cyfnod hir o dywydd sych ei rannu â Grŵp Cyswllt Sychder Cymru yn gynharach heddiw. Mae’r grŵp yn cael ei gadeirio gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys uwch-wneuthurwyr penderfyniadau o CNC, y Swyddfa Dywydd, cwmnïau dŵr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, undebau ffermio a chynrychiolwyr awdurdodau lleol.

Mae CNC yn ymgysylltu’n agos ag Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch y dalgylchoedd trawsffiniol.

Wrth fwynhau eich amser yn yr awyr agored, cofiwch fod bywyd gwyllt ac ecosystemau o dan fwy o straen. Dylai aelodau’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol i’r llinell gymorth 24/7 ar 0300 065 3000.

Gallai rhai ardaloedd hefyd fod â risg uwch o danau. Os ydych chi’n gweld tân gwyllt, ewch i le diogel, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân.

Y mis diwethaf, lansiwyd 'Dewch i Arbed Dŵr' ledled Cymru a Lloegr – gyda chefnogaeth rheoleiddwyr a chwmnïau dŵr. Ewch i www.letssavewater.cymru am wybodaeth a chyngor ynghylch arbed dŵr.

Er mwyn cael gyngor ynghylch tywydd sych ac arferion amaethyddol ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyngor i ffermwyr mewn cyfnodau o dywydd sych.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru