Gweithrediad gwastraff teiars anghyfreithlon a’i gyfarwyddwr yn cael gorchymyn gan y llysoedd i dalu £69k

Gweithrediad teiars anghyfreithlon ym Mhowys - Benji and Co Ltd

Mae cwmni o Bowys a’i gyfarwyddwr wedi cael gorchymyn i dalu £69,000 mewn dirwyon a chostau am dorri rheoliadau amgylcheddol yn ddifrifol.

Roedd yr achos yn ymwneud â gweithredu safle gwastraff a gwaredu teiars gwastraff yn anghyfreithlon mewn nifer o safleoedd ym Mhowys.

Ymddangosodd Benji and Co Limited a’r cyfarwyddwr Peter Rees yn Llys Ynadon y Trallwng ddydd Mawrth 14 Hydref a chawsant eu dedfrydu ar ôl pledio’n euog i droseddau lluosog mewn gwrandawiadau llys blaenorol.

Cafodd y cwmni ddirwy o £10,000 am bob un o bedair trosedd, sef cyfanswm o £40,000. Gorchmynnwyd i’r cwmni hefyd dalu £15,000 o gostau’r erlyniad.

Rhwng mis Ionawr a Mehefin 2022, roedd y cwmni’n gweithredu safle gwastraff heb y drwydded amgylcheddol angenrheidiol yng Ngwern Tyddyn, Llanidloes, gan storio a thrin teiars yn anghyfreithlon.

Rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2022, cafodd teiars mewn byrnau eu dyddodi ar dir yn Fferm Newhouse yn Aberhafesb, Rhosllyn yn Nantmel, a Llys Fynydd yn Llanidloes, heb drwydded ddilys.

Mae’r troseddau hyn yn torri Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 a Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Cafodd Peter Rees, cyfarwyddwr y cwmni, ddirwy o £10,000 am ei rôl yn y troseddau. Plediodd yn euog i gydsynio i weithgareddau anghyfreithlon y cwmni, i fod yn rhan ohonynt, neu i esgeuluso ei ddyletswyddau mewn perthynas â nhw, rhwng mis Ionawr a Mehefin 2022.

Gorchmynnwyd i’r cwmni a Mr Rees dalu gordal dioddefwr o £2,000 yr un.

Dywedodd Jeremy Goddard, arweinydd Tîm Gwastraff a Gorfodi, Canolbarth Cymru, o CNC:

“Mae’r achos hwn yn tanlinellu pwysigrwydd dilyn rheolau amgylcheddol. Mae trwyddedau ac eithriadau yn bodoli i warchod pobl, byd natur a’r amgylchedd ehangach.

“Mae eu hanwybyddu yn rhoi cymunedau a’r amgylchedd mewn perygl ac yn tanseilio’r system rheoli gwastraff. Byddwn bob amser yn cymryd camau pan fyddwn yn canfod diffyg cydymffurfio difrifol.

“Mae’r erlyniad yn adlewyrchu ymrwymiad CNC i fynd i’r afael â gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon ac i ddwyn y rhai sy’n gyfrifol i gyfrif.”

Daeth swyddogion CNC o hyd i symiau aruthrol o deiars diwedd oes – a oedd yn cynnwys teiars mewn byrnau, carpion teiars a theiars rhydd – wedi’u storio mewn amgylchiadau anniogel ac ymhell y tu hwnt i’r terfynau cyfreithiol a ganiateir o dan eithriadau gwastraff.

Er gwaethaf nifer o ymweliadau a chyngor gan CNC yn dyddio’n ôl i 2018, methodd y cwmni â sicrhau bod y safle’n cydymffurfio.

Gwelodd swyddogion fwy na 200 o fyrnau o deiars, dros 1,000 o deiars rhydd, a thua 40 tunnell o wastraff carpion teiars.

Roedd y safle yn peri risg tân sylweddol ac yn torri amodau eithriadau gwastraff T8 ac U2, sydd wedi’u cynllunio i ganiatáu gweithgareddau gwastraff cyfyngedig, risg isel o dan reolaethau llym.

Ar ben hynny, ar ôl cynnal gweithrediad gwastraff anghyfreithlon ar ei safle ei hun, torrodd y cwmni gorneli a chludo gwastraff i safleoedd eraill gyda’r dyddodion hynny hefyd yn methu â chydymffurfio â’r rheoliadau trwyddedu amgylcheddol.

Roedd y cwmni ar ei ennill yn ariannol o osgoi costau rheoli gwastraff yn briodol, gan gynnwys ffioedd trwydded a chydymffurfio â safonau diogelwch.

Mae’r achos hefyd yn tanlinellu cyfrifoldeb swyddogion y cwmni i sicrhau cydymffurfiaeth â chyfreithiau amgylcheddol a chanlyniadau methu â gwneud hynny.