Gwelliannau wedi’u gwneud ar safle rheoledig yn Llanelli
Mae gwelliannau sydd wedi’u gwneud ar safle AMG Resources Limited yn Llanelli wedi galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i dynnu hysbysiad atal rhannol yn ôl, wrth i gamau rheoleiddio a monitro agos barhau ar y safle.
Cafodd AMG ei atal dros dro rhag dod â rhai mathau o wastraff ar y safle ar ôl i'r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar 23 Gorffennaf 2026. Roedd hyn yn dilyn ymchwiliad gan Gyngor Sir Caerfyrddin i gynnydd mewn clêr a oedd yn effeithio ar rannau o Lanelli. Nododd yr ymchwiliad mai’r cyfleuster trwyddedig oedd ffynhonnell y broblem.
Ers cymryd camau gorfodi, mae Swyddogion Rheoleiddio Gwastraff CNC wedi cynnal ymweliadau wythnosol i asesu cydymffurfiaeth â gofynion yr hysbysiad atal, ac i fonitro risgiau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r safle.
Mae arolygiadau diweddar wedi cadarnhau gwelliannau sylweddol i weithrediadau ar y safle, gan gynnwys mesurau i wella arferion rheoli gwastraff ac amodau'r safle. Mae hyn wedi mynd i'r afael â'r materion a arweiniodd at gyflwyno'r hysbysiad atal rhannol, a bellach, ni ystyrir bod y safle’n cyfrannu at y problemau’n ymwneud â chlêr yn yr ardal.
Dywedodd Ed Davies, Arweinydd Tîm De Orllewin Cymru ar gyfer Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff yn CNC:
“Mae diogelu pobl a'r amgylchedd yn flaenoriaeth i ni, ac rydyn ni’n cymryd camau rheoleiddio pan fo angen.
“Ers i'r hysbysiad atal gael ei gyhoeddi, mae'r gweithredwr wedi gwneud gwaith helaeth i wella arferion rheoli gwastraff a chynnal a chadw’r safle.
“Er bod hyn yn gam cadarnhaol, mae ein gweithgarwch rheoleiddio yn parhau. Mae hysbysiad gorfodi yn parhau i fod ar waith, sy’n ei gwneud yn ofynnol i wastraff gael ei storio o fewn ffiniau trwyddedig y safle, a byddwn yn parhau i fonitro cydymffurfiaeth yn agos a chymryd camau pellach pe bai angen.
“Mae hefyd yn ofynnol i’r gweithredwr gryfhau ei drefniadau rheoli plâu, adolygu gweithrediadau’r safle a rhoi unrhyw fesurau pellach sydd eu hangen ar waith er mwyn lleihau’r risg y bydd problemau tebyg yn codi yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i asesu effeithiolrwydd y mesurau hyn drwy gyfrwng gweithgarwch arolygu a rheoleiddio parhaus.
“Rydyn ni’n cydnabod yr effaith y mae’r cynnydd mewn clêr wedi'i chael ar drigolion a busnesau lleol, a hoffem ddiolch i'r gymuned am ei hamynedd wrth i ni gynnal ein hymchwiliad a rhoi camau rheoleiddio ar waith.”
Mae CNC yn parhau i fonitro'r safle yn agos er mwyn sicrhau bod gweithrediadau gwastraff yn cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol ac amodau’r drwydded. Mae camau pellach ar waith sy'n ei gwneud yn ofynnol i AMG adolygu'r trefniadau rheoli plâu presennol, a nodi mesurau ychwanegol i leihau'r risg y bydd problemau tebyg yn codi yn y dyfodol.
Mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd wedi cymryd camau i fydn i’r afael â’r pryderon am glêr yn yr ardal, gan gynnwys archwilio lleoliadau ffynhonnell posibl, monitro gweithgarwch, ymgysylltu â chymunedau lleol, a rhoi mesurau lliniaru ar waith, gan gynnwys gosod trapiau clêr wedi'u lleoli'n strategol yn yr ardal y mae’r clêr yn effeithio arni.
Caiff trigolion eu hannog i ddal ati i roi gwybod i'r Cyngor am broblemau’n ymwneud â chlêr drwy e-bostio publicprotection@carmarthernshire.gov.uk neu ffonio 01267 234567.
Mae'r adroddiadau hyn yn helpu swyddogion i fonitro tueddiadau, asesu a yw'r amodau'n gwella a thargedu unrhyw ymyrraeth angenrheidiol.