Cynnig Grant Adfer Mawndir eto i fodloni’r galw

Mack Hughes, Goruchwyliwr ym Mhenhesgyn, Ynys Môn, yn amlinellu'r mawndir a fwriedir ei adfer ar ôl llunio cynllun datblygu drwy gyllid grant.

Yn dilyn lansiad llwyddiannus y Grant Adfer Mawndir cyntaf, gall tirfeddianwyr wneud cais unwaith eto am £10,000-£250,000 i adfer mawndiroedd unigryw Cymru.

Mae ail rownd y Grant Adfer Mawndir cystadleuol, a lansiwyd ar 15 Hydref 2025, yn cynnig cyfanswm o £700,000 i ariannu gwaith datblygu a/neu weithredu adfer mawndir erbyn mis Mawrth 2027.

Mae'r cynllun grant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i adfer mawndiroedd yn cael ei ddyrannu drwy'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, sy'n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mawndir yw’r tir mwyaf gwerthfawr yng Nghymru o safbwynt storio carbon, ond o’r 4% o dir Cymru sydd wedi’i orchuddio mewn mawndir, ystyrir bod tua 90% ohono wedi’i ddifrodi, ac yn y cyflwr hwn, mae’n rhyddhau nwyon tŷ gwydr niweidiol.

Mae'r grantiau cystadleuol ar gyfer datblygu a/neu adfer mawndiroedd ar gael i dirfeddianwyr preifat a sefydliadau cyhoeddus/gwirfoddol fel ei gilydd.

Enghraifft o awdurdod lleol sydd wedi manteisio ar y cyfle yw Cyngor Sir Ynys Môn.

Dywedodd Huw Percy, Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn:
“Fe wnaethom ni nodi safle posibl ym Mhenhesgyn lle byddai gwaith adfer mawndir yn gallu cynnig llawer o fuddion yn lleol ac yn ehangach, gan gynnwys dargadw dŵr a mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Roedd yn gwneud synnwyr i ni ymgeisio am y cam datblygu yn y lle cyntaf, i weithio gydag arbenigwyr i ddatblygu cynllun gweithredu. Yna gwnaethom gais llwyddiannus am gyllid dilynol i gyflawni'r cynllun adfer mawndir. Mae wedi bod yn gyfleus cael y gronfa ariannu 100% hon i gynnig ateb sy'n seiliedig ar natur er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol ar Ynys Môn.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am grantiau yw 14 Ionawr 2026, gydag arweiniad ar ffurf gweminar di-dâl ar gael ar 7 Tachwedd ar gyfer ymgeiswyr posibl.

Eglurodd Mannon Lewis, arweinydd strategol CNC ar y Rhaglen Mawndiroedd:
“Roedd yn braf gweld cymaint o ddiddordeb yn y Grant Adfer Mawndir cystadleuol pan gafodd ei lansio’r llynedd, felly wrth gwrs rydym yn falch o gynnig y grant hwn eto. Beth bynnag fo’r tirfeddiannwr neu’r sefydliad yn ei wybod am adfer mawndiroedd, hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gofrestru ar gyfer y weminar am ddim lle bydd y broses yn cael ei hegluro a lle gellir gofyn cwestiynau pellach. Mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd hefyd yn darparu mecanweithiau ariannu eraill, felly rydym bob amser yn croesawu ymholiadau i drafod opsiynau ynghylch adfer mawndiroedd. Ynghyd â'n partneriaid gweithredu, rydym yn cyflymu cyfradd adfer mawndiroedd ledled Cymru.”

Mae gwybodaeth am y gwaith a ariennir drwy’r Rhaglen ar gael i’r cyhoedd drwy Fap Mawndiroedd Cymru, ac mae enghreifftiau o’r 100 a mwy o gamau gweithredu posibl i’w gweld yn nhermiadur gwaith mawndiroedd y Rhaglen. Mae'r fideos cyflwyniadol byr, 'Mawndiroedd Cymru' a 'Mawndiroedd: y da, y drwg a doctoriaid ein mawndir', hefyd ar gael i'w gwylio ar-lein.

Mae rhagor o fanylion am adfer mawndiroedd yng Nghymru ar gael ar wefan RhWGF neu drwy e-bostio npap@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

 

Capsiwn y llun:

Mack Hughes, Goruchwyliwr ym Mhenhesgyn, Ynys Môn, yn amlinellu'r mawndir a fwriedir ei adfer ar ôl llunio cynllun datblygu drwy gyllid grant.