Mae CNC yn agor cyfleoedd unedau arlwyo newydd mewn cyrchfannau awyr agored poblogaidd

Teulu yn beicio

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio cyfle newydd i fusnesau bwyd a diod symudol i gefnogi a gwella rhai o leoliadau awyr agored mwyaf poblogaidd y genedl.

Mae CNC yn gwahodd cynigion ar gyfer naw uned arlwyo symudol sy'n gallu darparu bwyd a diodydd poeth a/neu oer ar draws cyfres o goedwigoedd a choetiroedd a ddefnyddir yn helaeth ac sy'n denu miloedd bob blwyddyn o gerddwyr, beicwyr, teuluoedd a rhai sy’n caru natur. Bydd gwerthwyr llwyddiannus yn dangos ymrwymiad clir i leihau milltiroedd bwyd, dileu plastigau untro, a mabwysiadu arferion gweithredol mwy gwyrdd.

Bydd unedau ar gael yn y safleoedd canlynol:

  •        Fforest Fawr, Caerffili
  •        Coed Llantrisant
  •        Coedwig Hafren
  •        Tan y Coed, Machynlleth 
  •        Niwbwrch (2 gyfle)
  •        Coed y Brenin
  •       Heol y Fan, Rhydri
  •        Coed Cas-gwent

Bydd rhagor o safleoedd yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Mae CNC yn rheoli tua 40% o Adnoddau Coedwig Cymru, sy'n cwmpasu ardal o 123,000 hectar ac mae'n chwilio am bartneriaid o'r un anian a all helpu i gyfoethogi profiadau ymwelwyr a hynny wrth hyrwyddo masnachu cyfrifol o ran yr amgylchedd.

Bydd defnydd cynaliadwy o ynni, rheoli gwastraff yn gyfrifol a safonau amgylcheddol uchel yn elfennau allweddol o bob cynnig.

Meddai Neil Stoddart, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy CNC:

“Mae hwn yn gyfle ardderchog i fusnesau arlwyo weithredu mewn lleoliadau awyr agored bywiog sy’n denu llawer o ymwelwyr, gan gyfrannu’n uniongyrchol at ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru a’r mwynhad mae’n ei roi.
“Rydym yn chwilio am bartneriaid brwdfrydig a all ddarparu gwasanaeth rhagorol, cyflwyno eu hunedau i’r safonau uchaf, a chwarae rhan weithredol wrth ofalu am y lleoedd arbennig hyn.”

Mae'r broses dendro yn agor ar ddydd Llun, 2 Chwefror 2026. Bydd yr unedau'n cael eu dyfarnu drwy broses dendro gystadleuol, a cheir y manylion llawn yng Ngwahoddiad i roi Dyfynbris CNC. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth neu i gael mynediad at y dogfennau tendro, ewch y GwerthiGymru gwefan  View notice - Sell2Wales

Digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr

Mae CNC yn cynnal Digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr ar ddydd Mawrth, 10 Chwefror 2026. Bydd hwn yn ddigwyddiad ar-lein a fydd yn rhoi cyfle i fusnesau sydd â diddordeb ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am y broses dendro neu am y safleoedd penodol.

Er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn anfonwch eich manylion drwy e-bost, gan gynnwys enw, cyfeiriad e-bost, enw busnes, lleoliad yng Nghymru, i commercial@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk