Datganiad CNC mewn ymateb i adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd

Dywedodd Ceri Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym ni’n cymryd ein cyfrifoldebau o ran gwarchod yr amgylchedd o ddifrif.
“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod o newid a her sylweddol i’n sefydliad, wrth i ni fyw o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni. Er gwaethaf hyn, mae ein cydweithwyr wedi aros yn gadarn — gan gamu i’r adwy dro ar ôl tro i gyflawni dros bobl, lleoedd a bywyd gwyllt Cymru. Rydym yn hynod ddiolchgar am yr ymroddiad a'r gwytnwch y mae ein staff wedi'i ddangos drwy gydol y cyfnod hwn. Maen nhw bob amser yn mynd gam ymhellach dros y bobl a’r lleoedd rydym ni’n eu gwasanaethu, ac mae sicrhau eu lles yn wyneb craffu cyson yn bwysig iawn i ni.
“Dydyn ni ddim yn sefyll yn llonydd. Wrth i ni barhau i fynd drwy’r newidiadau, rydym yn canolbwyntio ar adeiladu sefydliad mwy ystwyth a phendant sy’n barod ar gyfer y dyfodol - sefydliad sy’n gwbl barod i arwain ar yr heriau amgylcheddol mawr. Rydym ni’n glir iawn ynglŷn â’n cyfeiriad ac yn feiddgar yn ein huchelgais.
"Ein nod yw sicrhau bod pob punt o gyllid cyhoeddus a dderbyniwn yn darparu'r gwerth mwyaf - gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, mynd i'r afael â risgiau amgylcheddol, a gwneud penderfyniadau sy'n sbarduno'r effaith gadarnhaol fwyaf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a chynyddu ein heffaith lle mae ei hangen fwyaf."
Ymateb i ddigwyddiadau:
"Mae ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol yn rhan greiddiol o'n gwaith, yn enwedig wrth i bwysau hinsawdd, natur a llygredd gyflymu, a nifer y digwyddiadau a adroddir i ni gynyddu. Fel pob corff cyhoeddus sydd ag adnoddau cyfyngedig, rhaid inni ganolbwyntio ein hymdrechion lle gallwn wneud yr effaith fwyaf.
“Byddwn bob amser yn blaenoriaethu digwyddiadau sy’n peri’r risg uchaf i bobl a natur, gan roi pobl ar lawr gwlad os oes angen, a sicrhau ymateb sy’n seiliedig ar risg, wedi’i arwain gan wybodaeth, ac wedi’i yrru gan ddata.
“Mae ein cynllun corfforaethol hyd at 2030 hefyd yn ein hymrwymo i leihau llygredd trwy atal ac ymateb yn fwy effeithiol. Mae rhan allweddol o'r gwaith hwn yn cynnwys gwella'r ffordd rydym yn asesu ac yn ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol.
“Mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau a adroddir i ni yn rhai lefel isel, yn aml gydag ychydig iawn o effaith amgylcheddol neu ddim effaith o gwbl. O'r digwyddiadau a fynychwyd gennym y llynedd, dim ond 5% y cadarnhawyd eu bod wedi cael effaith amgylcheddol sylweddol neu fawr. Aseswyd y 95% sy'n weddill yn fach neu'n achosi dim effaith. Mae hyn yn golygu bod cyfran sylweddol o'n hadnodd rheng flaen ar hyn o bryd wedi'i gyfeirio at adroddiadau effaith isel, gan ddargyfeirio capasiti o waith atal a gorfodi effaith uwch.
“Rydym am i’r cyhoedd fod yn dawel eu meddwl y bydd ymateb i ddigwyddiadau sy’n peri’r risg uchaf i bobl a natur bob amser yn flaenoriaeth i ni. Wrth geisio rheoleiddio’n raddol ac yn gynt, rydym wedi bod yn ceisio pwerau ychwanegol i ystyried sancsiynau sifil ar gyfer ystod ehangach o droseddau amgylcheddol, fel offeryn ychwanegol yn ein pecyn cymorth gorfodi.
“Rydym am i'n cydweithwyr ganolbwyntio ar raglenni arolygu cydymffurfiad rhagweithiol. Rydym hefyd yn gweithio'n rhagweithiol i atal llygredd drwy hyrwyddo busnes cyfrifol, rheoli tir a dŵr yn gynaliadwy, gwella gwydnwch ein hecosystemau a lleihau risgiau i bobl a chymunedau. Drwy ganolbwyntio mwy o’n hymdrechion ar atal a chydymffurfio, ein nod yw lleihau risgiau yn eu man cychwyn - gan sicrhau canlyniadau gwell i bobl a’r amgylchedd.”
IR35
“Nid yw ymholiadau ynghylch IR35 yn unigryw i CNC, fel y gwelwyd ar draws y sector cyhoeddus a phreifat dros y blynyddoedd diwethaf.
“Rydym wedi rhoi nifer o reolaethau ar waith i roi sicrwydd mewn perthynas â’n dull o gydymffurfio â rheoliadau IR35, ac mae gweithdrefn fewnol newydd, sef “Ffyrdd o ddarparu adnoddau gyda phobl a sgiliau” wedi’i chreu i bob rheolwr cyflogi ei dilyn. Er mwyn rhoi sicrwydd ychwanegol, mae ein gweithdrefnau a'n rheolaethau newydd wedi cael eu hadolygu'n annibynnol gan gynghorwyr allanol. Mae eu canfyddiadau wedi cefnogi ein hymdrechion i adeiladu dull adnoddau cadarn sy’n cydymffurfio , yn lleihau risg ac yn atal y problemau hanesyddol hyn rhag digwydd eto.
Ein canolfannau ymwelwyr:
“Rydym yn deall pa mor bwysig yw ein safleoedd i gymunedau lleol ac ymwelwyr. Rydym am ailadrodd a sicrhau'r cyhoedd bod ein holl safleoedd yn parhau ar agor. Mae hyn yn cynnwys y llwybrau, y meysydd parcio, y mannau chwarae a'r cyfleusterau toiled, ac mae'r gwaith pwysig a wneir i amddiffyn bywyd gwyllt a chynnal y safleoedd hyn yn parhau i gael ei oruchwylio gan ein staff rheoli tir.
“Mae ein strategaeth ar gyfer sut rydym yn rheoli mynediad at natur ar y tir yn ein gofal yn golygu bod angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion lle rydym yn y sefyllfa orau i wneud gwahaniaeth. Mae hyn yn cynnwys sicrhau'r budd mwyaf posibl o bob punt a wariwn, ein bod yn darparu gwerth am arian, a sicrhau bod hamdden awyr agored yn cael ei reoli o fewn terfyn yr adnoddau sydd ar gael.
“Dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, rydym wedi canolbwyntio’n gadarn ar y broses o ddod o hyd i bartneriaid, grwpiau cymunedol a busnesau fel ei gilydd, i gofrestru diddordeb mewn darparu gwasanaethau yn y canolfannau ymwelwyr. Rydym wedi sicrhau consesiwn diodydd a bwyd oer sydd bellach yn gweithredu ym Mwlch Nant yr Arian, rheolaeth safle llawn amser ar gyfer maes parcio'r traeth yn Ynyslas ac wedi hysbysebu cyfleoedd ar gyfer consesiwn uned ddiodydd a hufen iâ symudol yn Ynyslas, a chonsesiwn diodydd a bwyd oer yng Nghoed y Brenin.
“Fel y nodwyd yn ein cyfarfodydd cyhoeddus ddiwedd y llynedd, rydym am wneud yn siŵr ein bod yn gwneud pethau'n iawn er mwyn osgoi dryswch ac unrhyw broblemau posibl yn y dyfodol a chredwn ei bod yn bwysig cymryd yr amser angenrheidiol nawr er mwyn sicrhau proses esmwyth yn nes ymlaen. Mae'r holl ddiweddariadau sy'n ymwneud â darpariaethau canolfannau ymwelwyr i'w gweld ar ein tudalen wybodaeth.”