Gyrwyr oddi ar y ffordd yn euog ar ôl difrod sylweddol i safle mawnog gwarchodedig yn Sir Ddinbych

Mae ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi arwain at euogfarnu tri pherson ar ôl i ddigwyddiad gyrru oddi ar y ffordd achosi difrod difrifol i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) gwarchodedig yn Sir Ddinbych

Yn Llys Ynadon Wrecsam ar 20 Awst 2026, cafodd Mr John Robinson a Mr Michael Williams, o Lerpwl, eu dedfrydu am droseddau a gafodd eu cyflawni ar 1 Mehefin 2025. Teithiodd saith cerbyd 4x4 gyda'i gilydd i SoDdGA y Berwyn, ac yn dilyn ymchwiliad llwyddodd swyddogion CNC i ddarganfod ceidwaid cofrestredig y cerbydau.

Plediodd Mr Robinson yn euog i’r drosedd o ddifrod troseddol, ac mewn gwrandawiad cynharach, derbyniodd Mr Williams ei fod wedi difrodi'r safle hynafol y fawnog a’r gorgors. Nid oedd y trydydd diffynnydd, Mr Joseph Hodgson, sydd hefyd o Lerpwl, yn bresennol yn y llys, ond cafwyd ef yn euog yn ei absenoldeb o achosi difrod troseddol i'r clo a'r arwydd ar y giât a oedd yn atal mynediad i'r safle. Roedd eisoes wedi derbyn ei fod wedi achosi difrod i safle hynafol y fawnog. Mae gwarant wedi'i chyhoeddi ar gyfer ei arestio er mwyn dod ag e gerbron y llys i'w ddedfrydu.

Cafodd John Robinson ei orchymyn i dalu cyfanswm o £2,121.52, gan gynnwys £1,000 o iawndal am ddifrod i’r SoDdGA a £1,000 mewn costau, a chafodd ei wahardd rhag gyrru am gyfnod o ddeufis, yn dod i rym ar unwaith.

Gorchmynnwyd Michael Williams i dalu cyfanswm o £2,000, gan gynnwys £1,000 o iawndal am ddifrod i’r SoDdGA a £1,000 mewn costau, a chafodd ei wahardd rhag gyrru am gyfnod o ddeufis, yn dod i rym ar unwaith.

Clywodd y llys bod y cerbydau wedi teithio o Lerpwl i Sir Ddinbych mewn confoi, i yrru oddi ar y ffordd, gan yrru i gefn gwlad lle na chaniateir mynediad i gerbydau ac i SoDdGA y Berwyn, safle gwarchodedig o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.

Dangosodd tystiolaeth CNC fod y saith cerbyd wedi teithio ychydig dros 3km ar dir sy’n eiddo preifat i gopa Moel Fferna, gan adael marciau teiars anferth a difrod mewn cynefinoedd mawnog a gorgors - y ddau ohonynt yn brin ac wedi'u gwarchod. Dywedodd CNC fod y difrod yn amlwg ac yn bosibl ei osgoi oherwydd maint y cerbydau a bregusrwydd y cynefin.

Torrwyd clo giât gyda thorrwr bolltiau a chafodd arwyddion eu tynnu i lawr er mwyn galluogi saith cerbyd i gael mynediad, er gwaethaf arwyddion clir a oedd wedi’u gosod gan y tirfeddianwyr yn nodi na chaniateir cerbydau preifat.

Roedd cyfrif TikTok sy'n gysylltiedig â'r grŵp yn dangos delweddau a fideos yn lleoli’r diffynyddion a'u cerbydau ar y safle. Roedd y ffilm yn eu dangos yn achosi difrod difrifol i’r cynefin mawn a chors ac yn gadael traciau dwfn wrth fynd i mewn i'r orgors.

Dangosodd y cynnwys TikTok ddau gerbyd yn sownd ac yn cael eu tynnu allan, gan achosi difrod pellach i'r amgylchedd gwarchodedig. Tynnodd aelodau eraill y grŵp y ddau gerbyd hyn yn rhydd, ac ychwanegodd y gweithredoedd hyn at y difrod i’r cynefin.

Mewn cyfweliad dan rybuddiad, cyfaddefodd Mr John Robinson iddo achosi difrod i'r clo a'r arwyddion i adael i'r grŵp fynd i mewn gyda'i gilydd, a derbyn eu bod wedi gyrru i mewn i'r SoDdGA. Hefyd derbyniodd Mr Michael Williams ei fod yn rhan o'r grŵp a aeth i mewn i'r safle.

Dewisodd Joseph Hodgson beidio â chydweithredu â CNC na mynychu cyfweliad. Dywedodd ei fod wedi gwerthu ei gerbyd, fodd bynnag, dangosodd gwiriadau yn ddiweddarach ei fod yn un o'r bobl a oedd wedi postio fideos TikTok, a gellid ei weld yn gyrru ar y cynefin gwarchodedig.

Dosbarthodd CNC effaith y difrod mwyaf difrifol fel Categori 2: difrod sylweddol i gynefin SoDdGA, gyda rhigolau dwfn yn achosi difrod hydrolegol hirdymor, anadferadwy sy'n cyfyngu ar adferiad naturiol.

Dywedodd Kirsty Williams, ar ran CNC:

“Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn cael eu gwarchod oherwydd eu bod yn cefnogi cynefinoedd prin a bregus pwysicaf y DU.  Mae gorgorsydd yn arbennig o sensitif. Unwaith y cânt eu torri i fyny gan rigolau dwfn, gall hyn newid cydbwysedd y dŵr am flynyddoedd gan beri i’r cynefin ddirywio a lleihau’r lle storio ar gyfer carbon.
“Mae gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd hefyd yn effeithio ar ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n rheoli’r tirweddau gwaith hyn sy’n eiddo preifat, gan amharu ar weithrediadau ffermio, cynyddu costau, a thanseilio ymdrechion cadwraeth hirdymor.
“Rydym yn cymryd camau lle mae safleoedd gwarchodedig yn cael eu difrodi, ac anogwn bawb sy'n defnyddio cefn gwlad i ddilyn arwyddion, cadw at lwybrau cyfreithlon, a helpu i ddiogelu'r mannau hyn sy'n bwysig yn genedlaethol.
“Hoffem ddiolch hefyd i'r tirfeddianwyr, y cerddwyr a'r gwirfoddolwyr sy'n diogelu'r amgylchedd yn gyfreithlon, er gwaethaf ofn a chamdriniaeth gan y rheini oedd yn gyrru ac yn difrodi'r safle Cymreig hwn o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn anghyfreithlon.”

Bydd tîm arbenigol Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd CNC yn ymgymryd â gwaith adfer mawndir, i adfer ardal a gafodd ei difrodi gan weithgarwch cerbydau oddi ar y ffordd, gan helpu’r safle i ddychwelyd at gyflwr iach.

Dywedodd PC Eryl Lloyd o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru:

“Mae ymchwilio i achosion o ddifrod i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a chynefinoedd naturiol yn un o’n blaenoriaethau.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i gynorthwyo â’u hymchwiliadau ac i amddiffyn ein bywyd gwyllt.”

Mae unrhyw weithgarwch, gan gynnwys defnydd heb awdurdod o gerbydau, sy’n achosi difrod i unrhyw Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), yn drosedd o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (fel y’i diwygiwyd).

Mae gan CNC bwerau i ymchwilio a chymryd camau gorfodi.Rhowch wybod i’r heddlu am bobl sy'n gyrru'n anghyfreithlon yng nghefn gwlad, ac ar safleoedd gwarchodedig, drwy ffonio 101, neu rhowch wybod i CNC drwy ffonio 0300 065 3000.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru