Diogelu ansawdd dŵr a chysylltu cynefinoedd yng Nghonwy

Mae ffermydd ar hyd afon Eidda yng Nghonwy ar fin elwa o well ansawdd dŵr a chynefinoedd gwell, diolch i brosiect Uwch Conwy.

Mae'r prosiect, sy’n bartneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, wedi bod yn gweithio'n agos gyda thenantiaid sy'n ffermio ar hyd glannau afon Eidda, un o lednentydd afon Conwy.

Mae cyllid o gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd (NaCE) wedi galluogi'r bartneriaeth i weithio gyda phump o denantiaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i greu coridor 3km ar hyd glan yr afon a gosod systemau dyfrio amgen ar gyfer da byw.

Mae glan yr afon wedi'i ffensio i gadw da byw allan o'r dŵr, gan atal llygredd. Pan fydd anifeiliaid yn yfed yn uniongyrchol o'r afon, maent yn tarfu ar wely'r afon ac mae eu tail yn ychwanegu maetholion gormodol a all niweidio ansawdd y dŵr. O fewn y coridor sydd wedi'i ffensio, bydd llwyni a choed yn tyfu, gan amddiffyn y lan rhag erydiad a dŵr ffo o’r tir a allai fel arall lygru'r afon. 

Mae creu coridorau afonydd sydd wedi'u leinio â choed hefyd yn helpu i gysylltu ardaloedd tameidiog o goetir. Yn ogystal, mae rhai ardaloedd sydd wedi'u ffensio wedi'u plannu â choed llydanddail gan blant o'r ysgol leol yn Ysbyty Ifan.

Fel rhan o'r prosiect, mae CNC hefyd wedi amgáu a gwarchod Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Porfeydd Eidda yn Nhŷ Uchaf Eidda – dôl brin, llawn blodau sydd wedi cael ei rheoli'n ofalus dros nifer o flynyddoedd gan y ffermwr tenant a'i dad o'i flaen er mwyn caniatáu i fywyd gwyllt ffynnu.

Dyma'r unig leoliad yn Eryri lle mae’r ysgallen fwyth yn tyfu, ochr yn ochr â rhywogaethau prin eraill gan gynnwys y gronnell a’r ffacysben chwerw, ac amrywiaeth o degeirianau sy'n helpu i ddenu peillwyr.

Mae ffensio’r afon allan yn Nhŷ Uchaf Eidda yn golygu bod merlod yn gallu pori a rheoli brwyn a glaswellt caled, gan ganiatáu i'r blodau prin hyn ffynnu.

Mae sgyrsiau bellach ar y gweill gyda thirfeddianwyr a thenantiaid i lawr yr afon i ymestyn cynefin coridor yr afon i gymer afon Conwy.

Meddai Sarah Aubrey, Uwch Swyddog Amgylchedd Conwy:

“Mae’r gwaith hwn yn enghraifft ardderchog o sut y gall cydweithio arwain at fanteision go iawn i natur a ffermio. Drwy wella ansawdd dŵr a chreu cynefinoedd cysylltiedig, rydym yn helpu bywyd gwyllt i ffynnu ac ar yr un pryd yn cefnogi’r gwaith o reoli tir yn gynaliadwy. Mae pawb ar ei ennill - yr amgylchedd a'r gymuned leol.”

Meddai Dewi Davies, Rheolwr Prosiect Uwch Conwy gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:

“Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn greiddiol i’r prosiect hwn, gan ganiatáu i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a ffermwyr tenant ddiogelu ansawdd dŵr a chreu cynefinoedd iachach a mwy cysylltiedig ar draws dalgylch Conwy.”

Mae’r gwaith o adfer afonydd yn y dalgylch hwn yn cael ei gynorthwyo ymhellach gan Ffermio Bro, sydd, drwy'r cynllun peilot Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn gweithio gyda ffermwyr. Mae'r cynllun cydweithredol yn cefnogi ffermwyr i fabwysiadu arferion sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd ar eu ffermydd, gan gynnwys gwaith i amddiffyn cyrsiau dŵr trwy ffensio nentydd ac afonydd a rhoi mesurau Rheoli Llifogydd Naturiol (NFM) ar waith ochr yn ochr â gwaith arall fel cefnogi pori ucheldir gyda gwartheg, cynnal a chadw coetir a ffiniau traddodiadol ac annog mesurau ffermio adfywiol.

Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan Raglen Gyfalaf Dŵr Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi nifer o flaenoriaethau amgylcheddol gan gynnwys adfer afonydd, adfer mwyngloddiau metel, pysgodfeydd ac ansawdd dŵr.