Ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ar gynllun rheoli perygl llifogydd llanwol ar gyfer Aberteifi

Llun 2 - Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanw Aberteifi

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio ymgynghoriad ar ddyluniadau ar gyfer cynllun i leihau'r perygl llifogydd llanwol i oddeutu 90 eiddo yn Aberteifi. 

Agorodd ymgynghoriad ar gyfer Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi ddydd Mawrth 7 Ebrill ac mae'n rhoi cyfle i bobl leol edrych ar gynlluniau a rhannu eu barn cyn i CNC wneud cais am ganiatâd cynllunio. Bydd y cyfnod ymgynghori yn cau ddydd Llun 18 Mai 2026. 

Mae llifogydd llanwol wedi achosi effeithiau sylweddol mewn rhannau o'r dref yn y gorffennol, gyda llanw uchel yn gwthio dŵr ar ffyrdd, i mewn i gartrefi a busnesau lleol. 

Gyda lefelau'r môr yn codi a newid yn yr hinsawdd yn cynyddu'r tebygolrwydd o ddigwyddiadau llanwol mwy, mae glan ogleddol Afon Teifi yn wynebu risg gynyddol. 

Mae tua 90 o gartrefi a busnesau yn yr ardal hon yn arbennig o agored i ddifrod, a heb weithredu, disgwylir i lifogydd ddigwydd yn fwy aml a dod yn fwy difrifol yn y blynyddoedd i ddod. 

Er mwyn helpu i leihau'r risg hon, mae CNC yn bwriadu adeiladu wal llifogydd newydd ar hyd yr afon i amddiffyn y dref yn y tymor hir. Byddai'r dyluniad yn cryfhau glan yr afon ac yn ychwanegu mannau cyhoeddus newydd ar hyd y Strand, yn ogystal â chreu ardaloedd newydd o gynefin rhynglanwol lle mae'r wal wedi'i gosod yn ôl o’r lan. 

Byddai rhan o'r wal llifogydd llanwol newydd yn cael ei adeiladu ym maes parcio Rhes Gloster, sy'n golygu y byddai'r fynedfa llithrfa i'r afon ar gau yn barhaol. 

Dywedodd Rheolwr y Prosiect, Bethan Hill, o CNC: 

"Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw lleihau'r risg o lifogydd llanwol i bobl Aberteifi. Gall llifogydd llanwol achosi pryder gwirioneddol, difrod ac aflonyddwch, ac rydym am leihau'r risg o hyn ar gyfer y dyfodol.
"Rydym yn gobeithio y bydd trigolion, busnesau, defnyddwyr yr afon a grwpiau cymunedol yn defnyddio'r cyfle hwn i rannu eu barn a helpu i lywio dyluniad y cynllun rheoli perygl llifogydd pwysig hwn ar gyfer y dref yn y dyfodol.
"Mae'r ymgynghoriad cyn cynllunio hwn yn rhoi cyfle i'r cyhoedd edrych ar y dyluniadau arfaethedig, gofyn cwestiynau a dweud wrth CNC beth sy'n bwysicaf iddyn nhw." 

Gall pobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad mewn sawl ffordd: 

  • Mae'r holl gynlluniau, lluniadau a dogfennau ar gael yn ddigidol ar dudalen we ymgynghori bwrpasol. Gall pobl ddarllen y wybodaeth, edrych ar luniau dylunio, a chwblhau arolwg ar-lein.

  • Mae copïau printiedig o'r dogfennau ar gael yn Llyfrgell Aberteifi i unrhyw un y byddai'n well ganddynt edrych ar y cynlluniau yn bersonol. 

  • Cynhelir sesiwn galw heibio gyhoeddus ddydd Mercher 13 Mai 2026, 1-7pm yn Ystafell y Tŵr, Castell Aberteifi, lle gall pobl siarad yn uniongyrchol â thîm y prosiect, gofyn cwestiynau a rhoi adborth gan ddefnyddio cardiau sylwadau. 

Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Llun, 18 Mai 2026. Ar ôl hynny, bydd CNC yn ysgrifennu adroddiad yn crynhoi sut mae adborth y cyhoedd wedi'i ystyried wrth ddylunio'r cynllun cyn cyflwyno cais cynllunio llawn i'r awdurdod cynllunio lleol. 

LLUNIAU: Montage ffotograffig i ddangos sut y bydd y strwythur amddiffyn rhag llifogydd arfaethedig yn ymddangos o fewn y dirwedd bresennol.