Timau'n parhau i fynd i'r afael â llygredd cerosin ar afon Taf
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio gyda sefydliadau partner a'r gweithredwr wrth ymateb i'r digwyddiad llygredd cerosin sy’n effeithio ar lednant afon Taf.
Mae’r camau gweithredu cyflym a gymerwyd ers yr adroddiadau cyntaf am y llygredd ddydd Gwener (16 Hydref) wedi lleihau lefel y tanwydd sy'n cyrraedd yr afon yn sylweddol.
Mae'r digwyddiad yn ymwneud â systemau draenio tanddaearol cymhleth ac mae gwaith yn parhau i olrhain yr union ffynhonnell. Mae hyn yn cynnwys technegau arbenigol, fel arolygon drôn a defnyddio llifynnau i gynorthwyo'r ymchwiliad ac asesu’r effeithiau amgylcheddol.
Meddai llefarydd ar ran CNC:
"Ein blaenoriaeth yw cynorthwyo'r gweithredwr i ddod o hyd i ffynhonnell y llygredd a'i atal cyn gynted ag sydd bosibl a gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn yr afon a lleihau niwed pellach i’r amgylchedd.
" Rydym yn ddiolchgar i gydweithwyr a phartneriaid am ymateb yn gyflym pan ddaeth adroddiadau i law, gan fod hyn wedi lleihau lefel y tanwydd sy'n cyrraedd yr afon yn sylweddol.
“Fel rhan o’r ymchwiliad, efallai y byddwn ar adegau yn defnyddio llifyn gwyrdd diogel yn ystod y dydd i helpu i olrhain llif y dŵr a darganfod llwybr y llygredd. Dylai aelodau’r cyhoedd sy’n gweld y llifyn fod yn ymwybodol mai techneg ymchwilio safonol ydyw ac nad yw’n achosi unrhyw risg i bobl nac i fywyd gwyllt.”
Mae asesiadau bywyd gwyllt yn parhau, ac mae samplau a gasglwyd o'r afon yn cael eu dadansoddi.
Er bod rhai pysgod wedi cael eu lladd, nid oedd y digwyddiad, hyd at nos Sul, wedi'i gategoreiddio fel digwyddiad oedd wedi lladd llawer o bysgod. Mae ymchwiliadau hefyd yn ystyried unrhyw effeithiau tymor hwy posibl ar fywyd gwyllt ac ecoleg yr afon.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi’r cyngor canlynol:
"Gall anwedd cerosin fod ychydig yn llidus i'r system resbiradol ac fel hylif gall achosi llid i'r croen." Ar hyn o bryd ein hasesiad yw y gallai pobl sy'n arogli cerosin brofi llid dros dro, yn enwedig os ydynt mewn cysylltiad ag ef am gyfnodau hir.
"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori trigolion i gadw eu drysau a’u ffenestri ar gau tra bo’r arogl yn bresennol a’u hagor unwaith y bydd yr arogl wedi mynd. Fel rhagofal, dylech osgoi cyffwrdd y dŵr dan sylw. Os gwnaethoch gyffwrdd y dŵr, tynnwch y dillad oeddech chi’n eu gwisgo ar y pryd a golchwch unrhyw rannau o’ch croen a ddaeth i gyffyrddiad ag ef gyda dŵr a sebon.
"Dylai unrhyw un sy’n teimlo’n sâl neu sy’n pryderu am eu symptomau ofyn am gyngor meddygol drwy gysylltu â GIG 111 Cymru.
"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill i asesu’r sefyllfa a monitro unrhyw effeithiau posibl ar iechyd y cyhoedd."