Annog meddygon teulu dan hyfforddiant i ragnodi dos mwy o natur
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn treialu sesiynau hyfforddi ar gyfer meddygon teulu dan hyfforddiant ynghylch pam mae cysylltu cleifion â byd natur yn dda i'w hiechyd a'u lles.
Mae tystiolaeth ac ymchwil o bob cwr o'r byd yn dangos bod treulio amser yn yr amgylchedd naturiol yn dod â llawer o fanteision o ran iechyd a lles.
Mae pobl yn aml yn fwy egnïol yn yr awyr agored, sy'n gallu eu hamddiffyn rhag gordewdra, diabetes math 2, a gwella cydbwysedd a chryfder y cyhyrau craidd. Mae golau dydd yn cynyddu Fitamin D yn y corff, sy'n rheoleiddio hwyliau ac yn atal problemau yn yr esgyrn. Mae'r system imiwnedd hefyd yn elwa o ddod i gysylltiad â microbau a geir mewn pridd, gydag astudiaethau'n dangos cyfradd is o asthma mewn plant sy'n agored i facteria sy’n debyg i’r bacteria a geir ar ffermydd.
Mae'r amgylchedd naturiol yn dda i'r meddwl hefyd. I bobl sy'n byw gyda dementia, mae bod y tu allan yn ysgogi’r synhwyrau, yn deffro atgofion, ac yn codi hwyliau a allai arafu eu symptomau.
Mae cysylltu â byd natur hefyd o fudd i'r amgylchedd drwy helpu i’n hatal rhag colli gwybodaeth amgylcheddol dros amser. Er mwyn i genedlaethau'r dyfodol werthfawrogi a diogelu byd natur a'i adnoddau, mae angen trosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth amgylcheddol i bob cenhedlaeth.
Er mwyn dangos manteision bod yn yr amgylchedd naturiol ar gyfer iechyd a lles, mae CNC wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag AaGIC i ddarparu sesiwn hyfforddi beilot ar werth natur i Gyfarwyddwyr Rhaglenni Hyfforddi Meddygon Teulu yng Nghymru.
Cafodd y sesiwn hon ei threialu gyda meddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghanolfan Ôl-raddedig Neuadd Nevill yn y Fenni, Sir Fynwy, fel rhan o'u cwricwlwm. Aethpwyd â meddygon teulu dan hyfforddiant allan i brofi gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur ar dir yr ysbyty yn ogystal â thrafod y dystiolaeth am sut mae natur yn cefnogi iechyd a lles a sut y gall hynny wella gofal cleifion.
Bydd y sefydliadau'n parhau i weithio gyda'i gilydd i archwilio ffyrdd o gynnwys effaith gadarnhaol yr amgylchedd naturiol ar iechyd a lles yn y cwricwlwm ar gyfer meddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru.
Meddai Sue Williams, Arweinydd Tîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol CNC:
"Mae’n gyffrous cael ymuno ag AaGIC i dreialu sesiynau hyfforddi ar gyfer meddygon teulu dan hyfforddiant a dangos sut y gallwn ddefnyddio'r awyr agored fel gwasanaeth iechyd naturiol. Gobeithiwn y bydd y cynllun peilot hwn yn arwain at well cydnabyddiaeth o rôl natur o ran cefnogi gwell iechyd a lles.
"Mae pobl yn aml yn edrych ar yr amgylchedd naturiol fel rhywbeth ar wahân i ni, ond rydyn ni’n rhan fawr o fyd natur ac yn elwa o gysylltiad agosach ag e. Mae'n sail i iechyd a lles, gan ddarparu aer glân i’w anadlu, dŵr glân i'w yfed, pridd ar gyfer bwyd, tir a deunyddiau ar gyfer cartrefi, a thanwydd ar gyfer cynhesrwydd.
"Mae cysylltiad â byd natur yn golygu’r graddau y mae pobl yn cynnwys natur fel rhan o'u hunaniaeth. Rydyn ni wedi datblygu model dilyniant naturiol i helpu i egluro bod gan bawb y potensial i symud, gam wrth gam, o fod yn yr amgylchedd naturiol a chysylltu ag e i sefydlu ymddygiadau cadarnhaol gydol oes a fydd yn annog pobl i ofalu amdanynt eu hunain a'r byd."
Dywedodd Dr Sarah Neville, Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant Arbenigol Meddygon Teulu Gwent, AaGIC:
"Cawson ni ein hysbrydoli i ymuno â CNC i ddangos y manteision cadarnhaol sy’n deillio o fod ym myd natur i'n meddygon teulu dan hyfforddiant yn dilyn sesiwn gyda grŵp y cyfarwyddwyr hyfforddi. Hyd yn oed mewn parc mewn lleoliad trefol, roedd effeithiau ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar yn amlwg, gan ein hadfywio ni i gyd.
"Roedd hyfforddeion o bob un o'r tair blwyddyn hyfforddiant ar gyfer meddygon teulu yn bresennol a chafodd pawb y profiad yn un cadarnhaol. Dywedodd yr hyfforddeion fod y sesiwn yn gwneud iddynt fyfyrio ar sut y gallent ddefnyddio rhagnodi cymdeithasol i fynd i'r afael â phethau fel anweithgarwch corfforol ac unigrwydd, a sut y gallent rymuso eu cleifion i elwa o fyd natur."
Ymunodd Coed Lleol (Small Woods Wales) â'r sesiwn hyfforddi i roi trosolwg o gyfleoedd rhagnodi cymdeithasol sy’n seiliedig ar natur.
Dywedodd Amie Andrews, Rheolwr Coedwigaeth Gymdeithasol a Lles Coed Lleol:
"Roedd Coed Lleol yn falch iawn o fod yn rhan o'r digwyddiad hwn ac roedd yn gyfle gwych i rannu gweithgareddau ymarferol ac arddangos manteision rhagnodi cymdeithasol gwyrdd i feddygon teulu dan hyfforddiant.
"Fe wnaeth cyfranogwr yn un o'n grwpiau ddweud yn ddiweddar ei fod yn dioddef o bryder ac iselder, ond ei fod wedi gallu rhoi'r gorau i gymryd ei feddyginiaeth a datblygu ffyrdd newydd o reoli ei iechyd meddwl, i gyd drwy weithio gyda ni yn y goedwig.
"Gall rhagnodi cymdeithasol gwyrdd helpu llawer o bobl sy'n profi'r mathau hyn o broblemau, a lleddfu’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.”
Mae llawer o sefydliadau cymwysedig sy'n cynnig gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur fel ysgolion arfordirol, ysgolion coedwig a sesiynau gwylltgrefft. Mae cymhwyster newydd Agored Cymru, Llesiant ym Myd Natur, yn rhoi hyder i feddygon teulu wrth gyfeirio cleifion at ymarferwyr awyr agored a bydd yn annog mwy o gynlluniau yn y dyfodol.
Mae CNC yn gofalu am goetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ledled Cymru lle gall pobl gysylltu â'r amgylchedd naturiol a gwella eu hiechyd a'u lles. Dewch o hyd i leoedd i ymweld â nhw ar wefan CNC.
Gall pobl ddarganfod pa fath o gysylltiad sydd ganddynt â byd natur ar fodel dilyniant naturiol CNC.