Diweddaru system parcio ceir ar safleoedd CNC
Mae system barcio ceir wedi’i diweddaru a gwell yn cael ei chyflwyno mewn tri o'n safleoedd poblogaidd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gosod systemau adnabod platiau rhif awtomatig (ANPR) heb rwystr yng Nghoed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian a Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch.
Bydd y gwaith o’u gosod yn digwydd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 16 Mawrth 2026 a bydd y system newydd yn mynd yn fyw ar 30 Mawrth ac yn cael ei rheoli mewn partneriaeth â First Parking a RingGo yn dilyn ymarfer caffael.
Gellir gwneud taliadau ar-lein, drwy ap neu gyda cherdyn mewn peiriannau parcio ar y safleoedd a gall ymwelwyr ymestyn eu hamser parcio ar-lein neu drwy ddefnyddio'r ap.
Mae gan ymwelwyr hyd at hanner nos ar y diwrnod y maen nhw’n cyrraedd i dalu am barcio ac mae ffenestr o 30 munud ar ôl cyrraedd lle na chodir tâl arnynt.
Ni chaniateir parcio dros nos ar unrhyw safle CNC a gallai’r rhai sy'n cael eu dal wynebu dirwy.
Meddai Neil Stoddart, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy CNC:
“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda First Parking a RingGo i gyflwyno’r system barcio newydd yn y tair cyrchfan boblogaidd hyn.
“Yn ogystal â darparu gwasanaeth gwell i ymwelwyr, bydd y system newydd yn darparu teledu cylch cyfyng a fydd yn cynorthwyo gydag adrodd ac ymchwilio i ymddygiad gwrthgymdeithasol a bydd yn caniatáu inni fonitro a chyhoeddi Hysbysiadau Taliadau Cosb i’r rhai sy’n parcio dros nos yn ein meysydd parcio.
“Bydd yr incwm a gynhyrchir yn cael ei ailfuddsoddi yn ein hasedau hamdden ac amgylcheddol yn yr ardal i’n helpu i gefnogi cymunedau ac ymwelwyr i gysylltu â’r awyr agored a natur.”
Mae First Parking yn gwmni gorfodi parcio profiadol sy'n cael ei reoleiddio gan Gymdeithas Parcio Prydain, a RingGo yw'r darparwr apiau parcio mwyaf yn y DU ac fe'i defnyddir gan lawer o feysydd parcio cynghorau lleol yng Nghymru.
Bydd deiliaid Bathodyn Glas yn parhau i allu parcio am ddim ac ni fydd unrhyw newid i drigolion sy'n gymwys i gael parcio am ddim.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a sut i wneud cais am docyn tymor yn:
cyfoethnaturiol.cymru/coed-y-brenin
cyfoethnaturiol.cymru/bwlch-nant-yr-arian
cyfoethnaturiol.cymru/niwbwrch