Gwaith i ddiogelu Coedwig Niwbwrch i ddechrau yn ystod hydref 2026
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau ar waith i wella Coedwig Niwbwrch o dymor yr hydref 2026 ymlaen, yn rhan o gynllun hirdymor i ddiogelu’r goedwig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Bydd y gwaith hwn yn cyflawni Cynllun Adnoddau Coedwig 30 mlynedd cymeradwy. Y nod yw adfer mwy o goetir naturiol ar hyd y twyni a chaniatáu i gynefinoedd twyni tywod pwysig ehangu. Bydd hefyd yn helpu i gryfhau a gwarchod y goedwig gonwydd ymhellach i mewn i'r tir.
Yn rhan o'r rhaglen, bydd rhai coed yn cael eu teneuo a'u torri i lawr. Mae angen gwneud hyn i gadw'r goedwig yn iach, i gynyddu amrywiaeth y rhywogaethau, ac i gael gwared ar goed sy'n heintus, wedi'u difrodi neu sy'n cyrraedd diwedd eu hoes. Dros amser, bydd hyn yn helpu i greu tirweddau twyni mwy naturiol a choetir llydanddail frodorol.
Y bwriad yw dechrau ar y gwaith ym mis Hydref 2026. Dros y cyfnod hwn, bydd ffyrdd ar gau dros dro, bydd traffig yn cael ei reoli a bydd newidiadau i drefniannau parcio er mwyn cadw pobl yn ddiogel. Bydd ymwelwyr yn cael gwybod ymlaen llaw, er mwyn gallu cynllunio eu taith.
Ochr yn ochr â'r gwaith coedwigaeth, mae CNC hefyd yn edrych ar ffyrdd o wella mynediad a chyfleusterau. Mae CNC yn gweithio gydag isgontractwyr i asesu opsiynau posibl ar gyfer llwybr mynediad newydd ym mhen gogleddol y maes parcio presennol. Mae'r syniadau hyn yn dal i fod yn y camau dylunio cynnar, a bydd angen arolygon amgylcheddol llawn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.
Dywedodd Dylan Williams, Rheolwr Gweithrediadau Tir ac Asedau Gogledd-orllewin Cymru CNC:
“Mae tirwedd Niwbwrch yn un sy’n newid, ac mae gwaith i deneuo’r goedwig, a hynny’n waith sydd wedi’i gynllunio’n ofalus, yn ganolog er mwyn helpu’r safle i addasu ar gyfer y dyfodol. Bydd y gwaith hwn hefyd yn helpu i greu cyfleoedd i bwyso a mesur opsiynau mwy cynaliadwy, gan gynnwys llwybr mynediad newydd posibl.
“Mae pwysau fel erydu arfordirol, twyni sy’n symud a newid hinsawdd yn golygu bod y dirwedd a’r trefniadau mynediad presennol yn prysur fynd yn llai cynaliadwy. Gyda chostau’n codi a phryderon cynyddol am ddiogelwch, mae'n bwysig ein bod ni’n gweithredu nawr. Rydyn ni’n mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i reoli'r goedwig a'r amgylchedd cyfagos, gan gefnogi prosesau naturiol wrth gadw ymwelwyr yn ddiogel a gwarchod y dirwedd unigryw hon.”
Bydd aelodau o’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i sesiynau galw heibio, am gyfle i gael rhagor o wybodaeth, gofyn cwestiynau a chlywed am y cynlluniau hirdymor ar gyfer Coedwig Niwbwrch. Cynhelir y sesiwn galw heibio nesaf ar 11 Mehefin, 1pm–7pm yn Sefydliad Prichard Jones, Niwbwrch.
Os ydych yn credu eich bod wedi cael cosb parcio yn anghywir ar y safle, cysylltwch â’r cwmni parcio’n uniongyrchol yn y lle cyntaf. Ar gyfer pob ymholiad sy’n ymwneud â pharcio preswylwyr lleol, cysylltwch â CNC drwy e-bost ar niwbwrch@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu dros y ffôn ar 0300 065 3000. Er mwyn sicrhau bod ymholiadau’n cael eu rheoli’n effeithlon, gofynnwn yn garedig i aelodau’r cyhoedd beidio â chysylltu’n uniongyrchol â swyddogion dros ffôn neu e-bost.