Dyn o Rydaman yn euog o droseddau pysgota yn dilyn ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae pysgota yn anghyfreithlon y tu allan i’r tymor gyda’r drwydded wialen anghywir wedi costio cyfanswm o £1,448 i ddyn o Rydaman.

Yn dilyn ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), cyfaddefodd Terrance Purvey, o'r Stryd Fawr, Rhydaman, iddo gyflawni'r troseddau wrth bysgota ar Afon Tywi yn Llandeilo ar 3 Hydref 2022.                               

Fe'i cafwyd yn euog yn Llysoedd Ynadon Llanelli ar 21 Ebrill 2023.

Cafodd Purvey ddirwy o £80 am drosedd pysgota y tu allan i'r tymor, £240 am bysgota heb drwydded, £128 o ordal dioddefwyr a chafodd orchymyn i dalu £1,000 tuag at gost ymchwiliad CNC, gan ddod â'r cyfanswm i £1,448.

Erlynwyd Purvey am yr un drosedd o bysgota y tu allan i’r tymor bedwar mis ynghynt ar yr afon Teifi.

Dywedodd Mark Thomas, Swyddog Gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Unwaith eto, rydym ni’n gweld pysgotwr arall yn derbyn dirwy sylweddol gan y llys yn dilyn ymchwiliad CNC yn ne orllewin Cymru.
"Bydd CNC yn parhau i erlyn troseddwyr drwy’r llys, a bydd swyddogion gorfodi CNC yn gweithredu ar unwaith i gymryd camau gorfodi yn erbyn y lleiafrif bach o bysgotwyr sy’n cyflawni’r mathau hyn o droseddau.
"Hoffwn ddiolch eto i gefnogaeth Heddlu Dyfed-Powys am eu cymorth parhaus i CNC yn yr achosion hyn.                                                             
"Mae pysgota anghyfreithlon, fel yr achos hwn ar afon Tywi, yn tanseilio ymdrechion CNC i sicrhau bod pysgota'n weithgaredd cynaliadwy a phleserus i'r rhan helaeth o bysgotwyr yng Nghymru sy'n pysgota'n gyfreithlon ac yn gyfrifol.
"Rydym yn cynnal archwiliadau arferol ac archwiliadau trwyddedau gwialen ar hap o ddydd i ddydd, ac rydym yn annog aelodau o'r cyhoedd sy'n credu bod rhywun yn pysgota'n anghyfreithlon, fel yn yr achos hwn, i roi gwybod i CNC drwy ffonio ein rhif ffôn 24/7 0300 065 3000 neu ar-lein ar ein gwefan."                  

Rhoddodd aelodau'r cyhoedd wybodaeth i CNC ynglŷn â gweithgaredd pysgota anghyfreithlon Purvey.

Fe wnaeth Swyddog Gorfodi CNC a swyddog Heddlu ar secondiad gyda CNC o Heddlu Dyfed-Powys ymchwilio ymhellach i'r honiadau. Fe wnaethant ymweld â Purvey yn ei gartref a’i gyfweld dan rybudd, ac fe gyfaddefodd y troseddau o bysgota heb drwydded gwialen fudol ddilys ac am bysgota y tu allan i’r tymor. Yna cafodd wybod y byddai ei weithgareddau’n cael eu riportio.

Yn ystod yr ymweliad, rhoddodd Purvey fanylion i Swyddog CNC am ei dechneg wael iawn i ddal a rhyddhau pysgod, yn ogystal â sut y bu iddo ddal eog gyda mwydyn, sy’n abwyd na chaniateir ar gyfer pysgota am eogiaid. Prin iawn fyddai’r siawns i’r eog dan sylw gyrraedd ei botensial silio, er i Purvey ddweud wrth swyddogion ei fod wedi’i ryddhau. Nododd Purvey fod y pysgodyn wedi cael ei dynnu o’r dŵr a’i fod wedi’i osod yn uniongyrchol ar raean sych. Ar yr un pryd, tynnodd Purvey ei esgidiau i’w gosod ger yr eog er mwyn cymharu’r maint, cyn tynnu llun o’r pysgodyn wrth ymyl ei esgidiau, gan adael yr eog allan o’r afon am gyfnod hir.

Ychwanegodd Mr Thomas:

"Mae angen trwydded bysgota ddilys ar unrhyw bysgotwr 13 oed neu hŷn sy'n pysgota mewn afon, nant, draen, camlas neu unrhyw bysgodfeydd dŵr llonydd fel llynnoedd/pyllau sy'n cael eu gweithredu'n fasnachol. (Mae trwydded gwialen am ddim i bobl ifanc rhwng 13 a 16 mlwydd oed)
"Mae refeniw sy'n cael ei greu drwy werthiant trwyddedau gwialen yn hanfodol er mwyn ariannu gwaith CNC i amddiffyn a gwella pysgodfeydd. Mae'r rhain yn cynnwys gwella cynefinoedd pysgod, mwynderau ar gyfer genweirwyr ac ymdrin â digwyddiadau pysgota anghyfreithlon."