Cydweithio ar ddyfodol ucheldir Cymru yw’r allwedd i'w barhad

Dylai meddwl yn wahanol a chydweithio fod yn sbardunau allweddol ar gyfer sicrhau tirwedd ucheldir gref a gwydn i genedlaethau Cymru yn y dyfodol

Dyna fydd neges Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), pan fydd yn camu i’r llwyfan rhithwir i annerch y cynrychiolwyr ar ddiwrnod agoriadol cynhadledd Tystiolaeth yr Amgylchedd 2020 ar ddydd Llun (14 Medi).

Bydd y digwyddiad, a gynhelir gan Blatfform yr Amgylchedd Cymru, yn ystyried thema cydnerthedd yn ucheldir Cymru gan ganolbwyntio'n benodol ar yr hyn y gallwn ei ddisgwyl ar gyfer y dirwedd yn y degawd nesaf o amrywiaeth o safbwyntiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Bydd yn dwyn ynghyd randdeiliaid o bob rhan o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i drafod yr heriau a'r cyfleoedd ac ystyried sut y gall y gwaith ymchwil diweddaraf helpu i lunio polisïau'r dyfodol.


Wrth gyflwyno'r prif anerchiad ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd, bydd Clare Pillman yn dweud:


Mae amgylchedd ucheldir Cymru yn golygu cymaint o bethau gwahanol i gynifer o bobl, ar ôl esblygu dros ganrifoedd o ryngweithio rhwng pobl a natur.
O ffynonellau bwyd i gyflenwadau dŵr glân, mae miloedd o bobl yn dibynnu ar y tirweddau hyn i gynnal ein ffordd o fyw. Gall rheoli'r ucheldiroedd a'u cynefinoedd yn gynaliadwy helpu i liniaru perygl llifogydd a darparu systemau cymorth hanfodol ar gyfer amrywiaeth o fywyd gwyllt. Dyma'r mannau y mae pobl yn heidio iddynt i fyw ac i weithio ac, fel y gwelsom dros yr wythnosau diwethaf, nhw hefyd yw'r lleoedd y mae pobl wedi dod iddynt i ddianc ac i'w mwynhau wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio.
Fodd bynnag, mae'r amgylchedd, a'r manteision a'r gwasanaethau hanfodol y mae'n eu darparu, o dan bwysau – yn sgil newid yn yr hinsawdd, Brexit, newid mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd, ac effeithiau defnydd anghynaliadwy.
Mae'r heriau, ond hefyd y cyfleoedd y bydd ucheldiroedd yn eu hwynebu dros y degawd nesaf yn debygol o fod yn fwy nag unrhyw beth rydym wedi'i brofi dros y ganrif ddiwethaf. Dyna pam rwy'n gobeithio y bydd y trafodaethau y byddwn yn eu cael yr wythnos hon yn ein galluogi i feddwl a gweithredu'n wahanol a'n hannog i fod yn ddewrach yn ein dyheadau o ran sut rydym yn rheoli ein hucheldiroedd yn y dyfodol.


Amcangyfrifir bod 80% o amgylchedd Cymru yn cael ei ystyried yn ucheldir, gan gwmpasu Parciau Cenedlaethol, glaswelltiroedd uchel, gorsgorsydd a rhostir, a chan ymestyn i gopaon creigiog ein mynyddoedd.

Mae'r tirweddau hyn wedi wynebu sawl her dros y blynyddoedd, ond mae cyfradd y newid a ddisgwylir yn sgil effeithiau ymadawiad y DU o'r UE ac effeithiau anochel newid yn yr hinsawdd yn debygol o gyflymu. Mae effaith pandemig Covid-19 hefyd wedi amharu'n ddifrifol ar waith sefydliadau sy'n hanfodol wrth ddiogelu natur a thirweddau Cymru.


Ac eto, mae llawer o'r blociau adeiladu polisi allweddol i helpu i fynd i'r afael â'r heriau hyn eisoes ar waith.

Bwriad y ddeddfwriaeth bresennol yng Nghymru ar ffurf Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddfau'r Amgylchedd yw sicrhau llesiant dinasyddion Cymru nawr ac yn y dyfodol. Byddant yn helpu Cymru i gyflawni ei hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy, a fydd hefyd yn cynnwys sut y gellir rheoli tir yng Nghymru.

Fel rhan o ofynion Deddf yr Amgylchedd, bydd CNC yn cyhoeddi ei ail adroddiad ar gyflwr yr Adnoddau Naturiol sydd gennym yng Nghymru yn ddiweddarach eleni. Bydd hwn yn adroddiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n canolbwyntio ar ansawdd ein hafonydd a'n moroedd, yr aer a anadlwn, gwerth ein pridd a'n coedwigoedd a chyfoeth planhigion, anifeiliaid a phryfed.

Cymru yw'r unig wlad yn Ewrop sy'n gwneud y math hwn o werthusiad amgylcheddol, ac mae'n darparu tystiolaeth rymus i lywio ein llwybr yn y dyfodol.

Mae CNC hefyd wedi bod wrth wraidd datblygu cyfres o Ddatganiadau Ardal arloesol sy'n cwmpasu saith rhan wahanol ond amrywiol iawn o'r wlad. Mae pob Datganiad Ardal yn amlinellu'r heriau allweddol sy'n wynebu'r ardal benodol honno, yr hyn y gallwn i gyd ei wneud i ateb yr heriau hynny, a sut y gallwn reoli ein hadnoddau naturiol yn well er budd cenedlaethau'r dyfodol.

Mae Lesley Griffith AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, hefyd wedi gofyn i Gadeirydd CNC, Syr David Henshaw, gadeirio grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer Adferiad Gwyrdd, a fydd yn ceisio sbarduno camau ymarferol i sicrhau bod Cymru'n dod allan o'r pandemig Covid-19 yn gryfach, yn wyrddach ac yn decach.

Ychwanegodd Clare Pillman:

O Brexit i newid yn yr hinsawdd, mae dyfodol ucheldir Cymru’n dibynnu ar lawer o faterion gwahanol ond cysylltiedig ac mae angen i ni fynd ati mewn ffordd gyfannol i fynd i'r afael â'r heriau a manteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau.
Yn anad dim, fodd bynnag, mae angen i reolwyr tir, cadwraethwyr, llunwyr polisi ac ymchwilwyr gydweithio i ddod o hyd i'r atebion ac i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd. Bydd angen cryn ganolbwyntio ar ymchwil wyddonol briodol, gwaith llunio polisïau effeithiol a dulliau rheoli tir creadigol.
Oherwydd, er bod yr heriau'n rhai sylweddol, nid ydynt yn anorchfygol. Cydweithio fydd yr allwedd i fynd i'r afael â'r heriau a darparu'r cyfleoedd i ucheldiroedd Cymru er mwyn sicrhau y gallant fod yn gynaliadwy, yn iach ac yn wydn am genedlaethau i ddod.
Felly fy her i'r rhai sy'n mynychu'r gynhadledd yr wythnos hon yw meddwl am yr hyn y gallwn ni yng Nghymru ei wneud i addasu ac, yn wir, groesawu'r newidiadau a bod yn ddewrach o ran y penderfyniadau a wnawn am ffyrdd o ddefnyddio a rheoli tir heddiw fel y gallwn helpu i sicrhau dyfodol i'n hamgylchedd, a phawb sy'n dibynnu arno.