Lansio Ymgynghoriad ar benderfyniad drafft i amrywio trwydded yng nghyfleuster gwastraff Cwmfelinfach

Mae ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos wedi’i lansio gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw (30 Awst) ar benderfyniad drafft i amrywio trwydded amgylcheddol ar gyfer cyfleuster gwastraff yn Ystâd Ddiwydiannol Nine Mile Point yng Nghaerffili.

Cyflwynwyd y cais i amrywio'r hawlen gan Drumcastle Limited ym mis Tachwedd y llynedd ac mae'n cynnig dileu'r hylosgiad o nwy naturiol sy'n cael ei ddefnyddio i sychu gwastraff.

Mae hefyd yn cynnig defnyddio hidlydd carbon wedi'i actifadu, a fyddai'n helpu i leihau'r arogleuon posibl a ryddheir o'r safle.

Er nad yw'r safle'n weithredol eto, mae Drumcastle Limited ar hyn o bryd yn dal trwydded amgylcheddol ar gyfer trin gwastraff cartref, masnachol a diwydiannol nad yw'n beryglus i gynhyrchu tanwydd solet wedi'i adfer a thanwydd sy'n deillio o sbwriel.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Ebrill eleni, mae CNC bellach wedi cwblhau asesiad technegol trylwyr a phenderfyniad ar y cais.

Cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud, mae ail ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda busnesau a chymunedau lleol i roi cyfle iddynt adolygu'r ddogfen penderfyniad drafft a chyflwyno unrhyw wybodaeth berthnasol nad yw o bosibl wedi'i hystyried.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 4 wythnos tan 26 Medi. 

Dywedodd Jon Goldsworthy, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru:

Rydym yn gwybod bod gan bobl amrywiaeth o safbwyntiau ar y cyfleuster gwastraff yn Ystâd Ddiwydiannol Nine Mile Point.
Mae rhoi llwyfan i fusnesau a chymunedau fynegi a rhannu’r safbwyntiau hyn yn rhan bwysig o’r broses hon ac rydym yn annog pawb sydd â diddordeb yn y newidiadau arfaethedig i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a dweud eu dweud.
Mae hwn yn amrywiad i drwydded bresennol, ac rydym yn hyderus y gall y cwmni wneud y newidiadau heb gael effaith andwyol ar bobl leol na’r amgylchedd.

Mae'n ofynnol i CNC gyhoeddi amrywiad trwydded os gall yr ymgeisydd ddangos y bydd y safle'n cael ei weithredu i safonau priodol ac y bydd yr holl ofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni.

Mae’r ymgynghoriad yn cael ei lansio ar 30 Awst a bydd yn cau ar 26 Medi. 

Mae'r cais, gwybodaeth ategol a'r ymgynghoriad ar gael ar-lein: Ymgynghoriad ar benderfyniad drafft i amrywio trwydded yng Nghyfleuster Trosglwyddo Gwastraff Nine Mile - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)