Y llys yn dyfarnu bod Trwyddedau Cyffredinol CNC yn gyfreithlon

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Heddiw (18 Ionawr), mae'r Uchel Lys wedi dyfarnu bod Trwyddedau Cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer rheoli adar gwyllt yn gyfreithlon yn dilyn her gyfreithiol gan y corff ymgyrchu Wild Justice.

Caiff pob aderyn gwyllt ei diogelu gan y gyfraith. Er hynny, o dan rai amgylchiadau lle mae CNC yn fodlon nad oes datrysiad anangheuol boddhaol, yna gellir awdurdodi mesurau angheuol o dan drwydded.

Mae'r penderfyniad heddiw yn golygu y gellir parhau i ddefnyddio'r tair Trwydded Gyffredinol a oedd yn destun yr her gyfreithiol i reoli rhai rhywogaethau adar gwyllt. Maent ar gael er mwyn atal niwed difrifol neu glefyd i gnydau neu dda byw, gwarchod iechyd cyhoeddus a gwarchod rhywogaethau penodol o adar gwyllt.

Dywedodd Ceri Davies, Cyfarwyddwr Tystiolaeth, Polisi a Rhrwyddedu CNC:

Rydym yn falch bod yr Uchel Lys wedi barnu bod ein Trwyddedau Cyffredinol yn gyfreithlon ac mae'r dyfarniad yn cadarnhau ymagwedd gymesur sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gymerwyd gan CNC.
"Byddwn yn parhau i adolygu, diweddaru ac asesu ein holl ddulliau trwyddedu ac rydym am wneud hyn yn y ffordd fwyaf cydweithredol posibl gyda'r holl randdeiliaid.

Mae Trwyddedau Cyffredinol 2021 ar wefan CNC a gellir eu lawrlwytho i'w defnyddio. Bydd angen i unrhyw un sy'n bwriadu defnyddio dulliau angheuol i reoli adar nad ydynt yn dod o dan drwydded gyffredinol wneud cais am drwydded benodol.