Dyn o Gwmbrân yn cael dirwy am bysgota heb drwydded pysgota â gwialen neu ganiatâd i bysgota

Mae dyn o Gwmbrân wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £279 ar ôl cael ei ddal yn pysgota ar ddarn preifat o Afon Gwy heb ganiatâd na thrwydded ddilys i bysgota â gwialen.

Mewn ymgyrch ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Heddlu Gwent, cafodd Kyle Moses o Summerhill, Cwmbrân, ei weld gan swyddogion yn pysgota ar ddarn preifat o'r afon a elwir yn ‘The Dukes Water' ger Pont Dug Beaufort yn Wyesham, Trefynwy, ar 19 Mai.

Wrth gael ei holi fe ddywedodd Mr Moses wrth y swyddogion yn wreiddiol fod ganddo drwydded pysgota â gwialen ond ar ôl cael gwybod y byddai archwiliadau'n cael eu cynnal, fe gyfaddefodd nad oedd hynny’n wir.

Fe wnaeth y swyddogion hefyd ganfod fod Mr Moses yn defnyddio bachyn adfachog trebl anghyfreithlon, sy'n cael ei ddefnyddio'n aml wrth bysgota am eogiaid, sydd wedi'i wahardd ar bob afon yng Nghymru.

Dywedodd Mr Moses wrth swyddogion ei fod yn pysgota am frithyll ond fe wnaethon nhw nodi bod y dull yr oedd yn ei ddefnyddio yn fwy addas ar gyfer pysgota eogiaid.

Mae pysgodfa Dukes Water sy'n eiddo preifat yn bwll eogiaid adnabyddus ac fe gyfaddefodd Mr Moses nad oedd ganddo ganiatâd i bysgota yno.

Yn Llys Ynadon Cwmbrân, plediodd Mr Moses yn euog i ddefnyddio offeryn pysgota heb drwydded, pysgota am eogiaid neu frithyll môr gydag Abwyd Eog Hedegog C gyda Bachyn Adfachog Trebl a physgota ar eiddo preifat lle mae hawl preifat i bysgota.

Cafodd ddirwy o £120, fe'i gorchmynnwyd i dalu £125 o gostau a gordal dioddefwyr o £34 a chafodd y tacl pysgota a atafaelwyd gan swyddogion ei fforffedu.

Dywedodd Mark Scaife, swyddog gorfodi CNC:

"Rydym yn cymryd unrhyw weithgaredd sy'n bygwth stociau pysgod Cymru yn hynod ddifrifol ac mae hyn yn arbennig o wir am bysgota anghyfreithlon.
"Mae'n rhaid bod gennych drwydded pysgota â gwialen ar gyfer Cymru a Lloegr os ydych yn pysgota am eogiaid, brithyll, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lyswennod gyda gwialen a llinell. Gallech gael dirwy o hyd at £2,500 a gellid atafaelu eich offer pysgota os ydych yn pysgota ac ni allwch ddangos trwydded pysgota â gwialen ddilys.
"Roedd y ffordd effeithlon y deliwyd â'r drosedd hon ond yn bosib diolch i'r cydweithio agos rhwng CNC a Heddlu Gwent."

Dywedodd PC Mark Powell o Heddlu Gwent:

"Nid yw cydweithio rhwng asiantaethau partner erioed wedi bod yn well; bydd y pedwar heddlu yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Uned Genedlaethol Troseddau Bywyd Gwyllt yn ymchwilio ac yn erlyn y rhai sy'n gyfrifol am gyflawni'r rhain a throseddau bywyd gwyllt a gwledig eraill.
"Rwy'n annog pysgotwyr i wneud defnydd o'n cefn gwlad hardd yng Nghymru ond i wneud hynny'n gyfrifol ac i sicrhau bod ganddyn nhw drwyddedau i bysgod a chaniatâd y perchnogion pysgodfeydd neu fel arall maen nhw hefyd wrth risg o gael eu herlyn."

Gall unrhyw un sy'n gweld neu'n amau gweithgaredd pysgota anghyfreithlon roi gwybod i linell gymorth digwyddiad 24 awr CNC ar 0300 065 3000 neu ar wefan CNC: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad