Coed llarwydd heintiedig i'w cwympo yng nghoedwig ger Llanbedr Pont Steffan

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dweud y bydd coed llarwydd heintiedig yn cael eu cwympo mewn coedwig ar gyrion Llanbedr Pont Steffan tua diwedd 2021.

Mae'r goedwig - sy'n cynnwys blociau coedwig Coedwig Uchaf, Coedwig Isaf a Lodge Wood – yn amgylchynu bobo ochr Heol y Wig wrth iddi adael y tref.

Mae coed yn y goedwig wedi'u heintio â Phytophthora Ramorum, a elwir yn gyffredin yn glefyd y llarwydd. Yn 2013, nododd arolygon fod clefyd y llarwydd yn lledaenu'n gyflym ar draws coedwigoedd yng Nghymru, gan ysgogi strategaeth genedlaethol i gael gwared ar goed heintiedig i'w atal rhag lledaenu ymhellach.

Ble bod crynodiad uchel o goed llarwydd, bydd pob coeden yn cael eu cwympo, ac eithrio coed llydanddail mawr ac iach. Ble bod crynodiad is o goed llarwydd, bydd y coed llarwydd hynny’n cael eu cwympo a bydd rhywogaethau llydanddail brodorol yn cael tyfu. Bydd adrannau sydd heb goed llarwydd yn mynd drwy'r broses deneuo arferol fel rhan o'r gwaith safonol o reoli coedwigaeth.

Ar ôl y gwaith cwympo coed, bydd yr adrannau sydd wedi'u cwympo'n llwyr yn cael eu hailblannu â rhywogaethau llydanddail brodorol. Bydd hyn yn y pen draw yn adfer nodweddion coetir hynafol i'r ardal a bydd yn helpu bioamrywiaeth leol i ffynnu.

Mae’r gwaith cwympo yn angenrheidiol am ddau brif reswm. Yn gyntaf, bydd y coed yn marw yn y pen draw os cânt eu gadael i sefyll a byddant yn peri risg diogelwch i bobl sy'n defnyddio'r goedwig.

Yn ail, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i CNC gydymffurfio â Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol sydd wedi'i roi ar y goedwig sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r coed yr effeithir arnynt gael eu dinistrio.

Mae cwympo'r coed tra bônt yn dal i fod mewn cyflwr gwerthadwy yn galluogi CNC – fel rheolwr Ystad Goetir Llywodraeth Cymru – i werthu'r hawliau cwympo ar gyfer y pren. Mae'r arian a geir yn sgil gwerthu'r hawliau cwympo yn cael ei ailfuddsoddi ar unwaith yn yr ystad, gan ganiatáu i CNC reoli eu coedwigoedd yn gynaliadwy.

Bydd y cyfle i brynu’r hawl i gwympo ar gyfer y bloc hwn o goedwigaeth yn codi ym mis Gorffennaf 2021, a bydd disgwyl i'r contractwyr ddechrau gwaith cwympo coed cyn diwedd y flwyddyn. Yn unol ag arfer safonol, bydd gan y contractwr chwe mis i gwblhau'r gwaith, gan gynnwys cludo’r pren.

Dywedodd Marius Urwin, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwigoedd yn Ne Canolbarth Cymru ar gyfer CNC,
"Mae'n anffodus mai'r unig ddewis sydd gennym i gyfyngu ar ledaeniad y clefyd yw cwympo'r coed llarwydd. Rydym yn llwyr sylweddoli y bydd llwyrdorri rhannau o’r goedwig yn cael effaith weledol sylweddol ar yr ardal.
"Ni allwn gadarnhau pryd yn union y bydd y cwympo coed yn digwydd eto, ond byddwn yn diweddaru preswylwyr wrth i'r wybodaeth honno ddod yn glir. Gall y gwaith hwn achosi rhywfaint o aflonyddwch, ond gallaf sicrhau preswylwyr y byddwn yn rhoi amodau ar waith i leihau effaith y gwaith ar y gymuned."