Dirwy i bysgotwr a roddodd enw ffug i swyddog gorfodi CNC

Mae dyn a roddodd enw ffug i Swyddog Gorfodi pysgodfeydd mewn ymgais i osgoi erlyniad wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £1,455 fel dirwy yn Llys Ynadon Casnewydd.

Ym mis Mai 2022, roedd Swyddog Gorfodi o Cyfoeth Naturiol Cymru ar batrôl yn Llyn Clywedog ger Llanidloes, pan welodd Robert Simpson, o Aberbargoed, Caerffili, yn pysgota o gwch.

Pan ddychwelodd Mr Simpson i'r lan, gofynnwyd iddo ddangos ei drwydded gwialen; atebodd ei fod wedi gadael ei drwydded gartref a dywedodd wrth y swyddog mai Stephen Fisher oedd ei enw.

Edrychodd y swyddog ar y gofrestr o drwyddedau gwialen a gweld nad oedd trwydded ddilys yn enw Stephen Fisher yn y cyfeiriad a roddwyd gan Mr Simpson.

Ar ôl i’r swyddog egluro y gallai gymryd yr offer pysgota a’i arestio pe na bai’n darparu ei fanylion cywir, fe roddodd Mr Simpson ei enw a’i gyfeiriad cywir. 

O dan rybudd, fe gyfaddefodd Mr Simpson ei fod yn defnyddio manylion ffrind ar gyfer gwiriadau ar drwyddedau.

Ar ôl methu â bod yn bresennol yn y llys ar dri achlysur blaenorol, cafodd Mr Simpson ei arestio ar 11  Ionawr 2023, gan y Cwnstabl Mark Powell, heddwas ar secondiad i CNC, a’i gludo i Lys Ynadon Casnewydd.

Yn y llys, plediodd Mr Simpson yn euog i bysgota heb drwydded gwialen ddilys a darparu gwybodaeth ffug i Swyddog Gorfodi.

Cafodd ddirwy o £425 am ddarparu gwybodaeth anwir, £100 am beidio â meddu ar drwydded a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £877.50 a Gordal Dioddefwr o £52.50.

Dywedodd Jeremy Goddard, Arweinydd Tîm Gwastraff a Gorfodi CNC yn y Canolbarth:

“Rhaid i chi feddu ar drwydded pysgota â gwialen ar gyfer Cymru a Lloegr os ydych yn pysgota am eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod gyda gwialen a lein. Gallech gael dirwy o hyd at £2,500 a gellid cymryd eich offer pysgota os ydych yn pysgota ac yn methu â dangos trwydded ddilys ar gyfer pysgota â gwialen.
“Nid oes angen trwydded ar blant dan 13 oed ac mae trwyddedau ar gyfer plant rhwng 13 ac 16 am ddim. Fodd bynnag, mae dal angen i chi gael trwydded iau.”

Gellir prynu trwyddedau gwialen ar-lein yn

https://naturalresources.wales/permits-and-permissions/buy-a-fishing-rod-licence/?lang=cy

Gall unrhyw un sy’n gweld neu’n amau gweithgaredd pysgota anghyfreithlon ei riportio i linell gymorth digwyddiadau 24 awr CNC ar 03000 65 3000 neu ar wefan CNC: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol