Helpwch i lunio cynllun coetir newydd yn Ffordd Penmynydd

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

O heddiw, (Dydd Mawrth 24 Mai) mae ymgynghoriad yn cael ei lansio i ganiatáu i CNC geisio adborth gan gymunedau a phartneriaid lleol ar y cynlluniau ar gyfer y coetir i helpu i lywio'r dyluniad a'r gwaith rheoli parhaus ar gyfer y dyfodol.

Bydd y coetir newydd yn rhan o fenter blannu Canopi Gwyrdd y Frenhines a disgwylir i'r gwaith plannu ddechrau yn nhymor yr Hydref eleni.

Prynwyd y tir gan CNC ym mis Chwefror 2022 fel rhan o brosiect ehangach i gynyddu gorchudd coetir ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a chyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Bydd y coetir newydd yn gyrchfan gwbl hygyrch i drigolion lleol a'r cyhoedd ei mwynhau am flynyddoedd i ddod.

Bydd y safle wedi'i gynllunio i fod o fudd i fywyd gwyllt a chynefinoedd, a bydd yn cael ei blannu gyda chymysgedd o goed llydanddail i sicrhau bod y coetir newydd yn amrywiol ac yn gallu gwrthsefyll effeithiau plâu, clefydau a newid yn yr hinsawdd.

Bydd yr ymgynghoriad yn sicrhau bod unrhyw effeithiau posib ar yr ardal gyfagos yn cael eu hystyried ac yn cynnig cyfle i bobl gyflwyno syniadau ar sut y gallant fod yn rhan o'r gwaith o gynllunio’r coetir newydd a’i reoli’n parhaus.

Fel rhan o'r ymgynghoriad, bydd CNC hefyd yn cynnal digwyddiad galw heibio cymunedol i drigolion ddod i siarad â staff. Manylion yn dilyn maes o law.


Meddai Miriam Jones-Walters, sy’n Gynghorydd Arbenigol Stiwardiaeth Tir yn Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae ein coedwigoedd a'n coetiroedd yn darparu mannau diogel ac agored i bobl ar gyfer hamdden, gan alluogi pobl i gysylltu â natur a gwella eu lles, yn ogystal â gwella ein hamgylchedd a bioamrywiaeth.
Fel rhan o'n cynlluniau, rydym am weithio'n agos gyda chymdogion, teuluoedd, cymunedau a phartneriaid i geisio eu barn wrth gynllunio a llunio'r coetiroedd yn fannau diogel a hygyrch ar gyfer hamdden.
Byddem yn annog pobl sy'n byw yn yr ardal i ddod draw ar xx neu gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar-lein a rhannu eu barn.Mae'r ymgynghoriad yn agor ar 24 Mai ac yn dod i ben ar 21 Mehefin.

I gael gwybod mwy am y cynlluniau ar gyfer y coetir a dweud eich dweud, ewch i: Creu Coetir yn Nhyn y Mynydd - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)

Neu, gall trigolion ffonio 0300 065 3000 i ofyn am gopi caled o’r ymgynghoriad.