Gwaith coedwigaeth gyda cheffylau i barhau yng Nghoedwig Tyn y Coed yn 2023

Bydd Tîm Gweithrediadau Coedwig a Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn troi’r cloc yn ôl i ddefnyddio sgiliau coedwigaeth traddodiadol i deneuo ardal o goetir sensitif yn Nhyn y Coed ger Llantrisant.

Gan adeiladu ar y prosiect llwyddiannus a gyflawnwyd yn 2019, bydd ceffylau unwaith eto’n cael eu defnyddio i reoli’r coetir hwn gan defnyddio coedwigaeth gorchudd di-dor. Nod yr ymyriad hwn yw cynyddu gorchudd canopi coed llydanddail brodorol aeddfed a lleihau canopi’r coed conwydd yn raddol yr un pryd.

Fel Safle Coetir Hynafol a Blannwyd, bydd y gwaith hwn yn helpu i adfer a gwella ei botensial ecolegol.

Mae'r goedwig wedi'i lleoli yng nghanol hen ardal lofaol ac mae'r dirwedd o'i chwmpas yn anaddas ar gyfer peiriannau trwm a gwaith coedwigaeth modern. Mae angen gwaith torri a symud coed manwl gywir er mwyn osgoi difrodi'r coed llydanddail a nodweddion archaeolegol pwysig eraill o’u hamgylch.

Bydd ceffylau, cerbydau ceffylau, darpariaethau lles ac offer cysylltiedig yn cael eu cadw ar y safle trwy gydol y gwaith. Er y bydd y maes parcio yn dal i fod ar agor, gofynnir i ymwelwyr â’r coetir lynu at unrhyw arwyddion gwahardd o fewn ac o gwmpas y safle byw.

Dywedodd Chris Rees, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwig Canol De Cymru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae'r hen grefft hon o ddefnyddio ceffylau i wneud gwaith coedwigaeth yn opsiwn ymarferol a chynaliadwy ar gyfer gwaith coedwigaeth modern. Mae ceffylau gwaith yn ddelfrydol ar gyfer ardaloedd amgylcheddol sensitif lle nad yw’n bosib symud pren drwy ddulliau mecanyddol. Mae eu defnyddio’n galluogi dull sensitif ac isel ei effaith, yn enwedig o ran rheoli coetiroedd hynafol a safleoedd o bwysigrwydd archaeolegol.'' 

“Fel tîm rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gyflawni’r prosiect cyffrous hwn ac i fod yn rhan o’r cyfle gwych hwn i brofi rôl draddodiadol ceffylau ar y tir.”