Lansio arddangosfa a gwaith celf mawndir newydd yn Nhregaron

Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE Celf mawndir Cors Caron ar wal Ganolfan y Barcud Coch Tregaron

Dyddiad ac Amser: Dydd Mercher, 13 Ebrill 2022 am 11am

Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth/Barcud Coch, Tregaron, Ceredigion

Bydd arddangosfa newydd a murlun celf mosaig a ysbrydolwyd gan y gwaith i adfer y dirwedd yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron (GNG) yn cael eu dadorchuddio i'r cyhoedd ddydd Mercher 13 Ebrill.

Bydd yr arddangosfa drawiadol newydd yn rhoi tro modern ar waith tîm Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru yn y Warchodfa Natur a bydd yn disodli’r hen fosaig barcud coch y tu allan i’r ganolfan.

Roedd y gwaith celf allanol yn cynnwys wyth teil mosaig a ddyluniwyd gan yr artist cymunedol Pod Clare, gyda myfyrwyr Ysgol Gynradd ac Uwchradd Ysgol Henry Richard, trigolion Cartref Gofal Bryntirion yn Nhregaron, Canolfan Deulu Tregaron, gwirfoddolwyr lleol ac aelodau o’r gymuned leol.

Mae Mary Lewis yn gwirfoddoli yng Nghanolfan Dreftadaeth y Barcud Coch. Wrth edrych ymlaen at y dadorchuddiad, dywedodd:
“Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Dregaron fis Awst eleni roeddem yn awyddus i ddiweddaru gwybodaeth yr arddangosfa a chreu rhywbeth deniadol i ymwelwyr. Gobeithiwn y bydd y gwaith hwn yn helpu i wneud y Ganolfan yn ganolbwynt i’r dref.”
Dywedodd: “Mae’r paneli arddangos newydd yn rhoi cipolwg hynod ddiddorol ar hanes torri mawn Tregaron, tra bod y gwaith celf yn darlunio’r gwaith cadwraeth pwysig cyfredol sy’n digwydd ar Gors Caron.”
Dywedodd Jake White, Rheolwr Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE: “Mae’r ganolfan yn cynnwys llawer o wybodaeth am Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron a’i chynefin cyforgors sy’n bwysig yn rhyngwladol.
“Pa ffordd well o ddathlu ein prosiect a’r warchodfa na cheisio creu darluniad gweledol ohono trwy gelf, a chael y dref gyfan i gymryd rhan ar yr un pryd.”

Mae'r mosaigau yn ddelwedd o'r gwaith adfer a wnaed gan Brosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE ar Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cors Caron.

Mae’r mosaigau’n dangos glaswellt Gwellt y Gweunydd yn cael ei dorri gan y peiriant cynaeafu gwlyptir unigryw a chreu byndiau, cloddiau gwastad bach o fawn, sydd wedi’u creu i ddal dŵr ar gromenni’r gyforgors.

Mae’r mosaigau hefyd yn arddangos y planhigion a’r bywyd gwyllt pwysig sy’n galw’r warchodfa’n gartref.

Bu'r artist, Pod Clare, yn gweithio gyda grwpiau cymunedol dros gyfnod o fis i drafod y prosiect a'i gynlluniau adfer gyda nhw. Yn dilyn y sgwrs, gofynnwyd i’r grwpiau helpu i greu’r teils mosaig, sydd bellach wedi’u gosod ar y Ganolfan i ymwelwyr eu mwynhau.

Bydd yr arddangosfa newydd a murlun celf mosaig yn cael eu lansio yn y Ganolfan yn Nhregaron ddydd Mercher 13 Ebrill o 11am. Mae croeso i bawb a darperir lluniaeth o de, coffi a phice ar y maen.

Bydd Canolfan Dreftadaeth y Barcud Coch ar agor i ymwelwyr o ddydd Llun y Pasg tan fis Medi, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae mynediad am ddim.

Am fwy o wybodaeth ewch i'n tudalen Facebook @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBog neu dudalen Twitter @Welshraisedbog