Ffrydiau byw o nyth gweilch Llyn Clywedog yn lansio ar gyfer tymor 2023

Gwalch y Pysgod benywaidd ar ei nyth ger Llyn Clywedog

Mae'r camerâu ffrydio byw a sefydlwyd i fonitro nyth gweilch y pysgod Llyn Clywedog wedi mynd yn fyw ar gyfer tymor 2023.

Mae'r lluniau ffrwd byw - a hwylusir gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC)  - wedi caniatáu i ddilynwyr y nyth ddilyn helynt pâr o weilch y pysgod a'u hymdrechion i fagu cywion ers iddo gael ei lansio yn 2020 wrth i’r cyfnod clo Covid-19 cyntaf cael ei gyhoeddi.

Mae un camera yn canolbwyntio ar y nyth tra bod un arall yn dangos ongl ehangach, sy’n ffocysu ar gangen gerllaw.

Bydd paneli solar yn caniatáu ffrydio 24 awr o'r nyth.  Bydd galluedd is-goch y camerâu yn caniatáu i bobl weld y gweilch ar ôl iddi nosi.

Mae lluniau byw o'r ddau gamera ar gael ar YouTube drwy chwilio "Llyn Clywedog Ospreys", neu trwy ddefnyddio'r dolenni isod:

Dywedodd John Williams, Cynorthwy-ydd Technegol Rheoli Tir CNC:

“Mae'r gwanwyn yn sicr wedi cyrraedd pan fod gwalch y pysgod yn dychwelyd i Lyn Clywedog

"Er ein bod yn gobeithio am dymor llwyddiannus arall, rydym yn gwybod bod natur yn anrhagweladwy ac y gallai unrhyw beth ddigwydd. Yr unig ffordd i ddarganfod yw cadw eich llygad ar y ffrydiau byw."

Adeiladwyd y nyth gan staff CNC ar blatfform uchel mewn coeden sbriws sitka yn 2014 ac mae wedi profi'n deorydd cynhyrchiol dros y blynyddoedd, gyda 21 o gywion yn ffoi o'r nyth ac yn mudo ers ei hadeiladu yn 2014.

Adar mudol sy'n gaeafu yn Affrica yw gweilch y pysgod. Mae’n hysbys bod 5F – gwalch breswyl Llyn Clywedog yn treulio'r gaeaf yng Nghors Tanji yn y Gambia, Gorllewin Affrica.

Gall gweilch fagu hyd at dri chyw mewn tymor.

Mae Llyn Clywedog yng Nghoedwig Hafren sy'n cael ei gynnal gan CNC.