Cyfoeth Naturiol Cymru yn atgoffa ffermwyr i osgoi llygru dyfrffyrdd y gwanwyn hwn

Wrth i arwyddion cyntaf y gwanwyn frwydro i ddod i’r amlwg drwy’r glaw cyson, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn atgoffa ffermwyr o’r rheolau ynghylch sut, pryd a ble y gallant daenu gwrtaith nitrogen, slyri, a thail organig arall.

Gwanwyn yw’r adeg o’r flwyddyn pan mae’r gymuned amaethyddol yn brysur yn paratoi’r tir ac yn plannu cnydau. Mae'r tywydd gwlyb yn ei gwneud hi'n anodd i ffermwyr fynd allan i daenu.

Ond mae CNC yn annog ffermwyr i gadw at y rheolau a amlinellir yn Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 a bod yn ofalus o ran pryd, ble a sut y maent yn taenu slyri a thail organig.

Gall taenu anghyfrifol gael effaith drychinebus ar ddyfrffyrdd. Gall dynnu ocsigen o ddŵr, gan ladd pysgod a bywyd arall yr afon. Gall gael effaith ar gyflenwadau dŵr yfed gan achosi i weithfeydd trin dŵr gau am gyfnodau i leihau effaith llygredd amaethyddol.

Os yw ffermwyr a chontractwyr yn cadw at y rheoliadau’n ofalus, mae ein cynghorydd arbenigol mewn rheoliadau amaethyddol, Nichola Salter, yn hyderus y gellir osgoi llygredd.

Dywedodd Nichola Salter:

“Mae adnoddau sylweddol yn cael eu defnyddio i ymchwilio i gwynion am lygredd a chymerir camau gorfodi lle mae digon o dystiolaeth. Fodd bynnag, mae modd atal yr angen i ni fynychu achosion o lygredd neu gymryd camau gorfodi yn erbyn ffermwyr.

“Rydym eisiau gweithio gyda ffermwyr i wneud yn siŵr eu bod yn cael y gorau o’r maetholion gwerthfawr sydd yn eu slyri a’u tail organig, gan hefyd sicrhau nad oes unrhyw ddifrod i’r amgylchedd ehangach.

“Mae canllawiau helaeth ar gael i bob ffermwr a chontractwr ar ble, pryd, a sut i daenu slyri yn ddiogel ac yn gyfrifol.

“Mae CNC yn annog ffermwyr a chontractwyr i feddwl am yr effaith ar yr amgylchedd ehangach a’u cymuned.

“Byddem hefyd yn annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod i ni ar unwaith os ydynt yn gweld unrhyw arwyddion o slyri’n cael ei daenu’n amhriodol neu arwyddion o lygredd.

“Mae gennym ni i gyd ran i’w chwarae wrth gadw ein dŵr yn lân ac yn iach.”

Mae gan y rhan fwyaf o ffermwyr gynllun rheoli tail a ddylai gynnwys map risg sy’n nodi ble mae’n ddiogel taenu tail da byw a golchion parlwr i osgoi achosi llygredd a lladd bywyd dyfrol.

Dylai ffermwyr sy'n defnyddio contractwyr sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r peryglon llygredd ar y fferm a defnyddio cyfraddau a dulliau defnyddio diogel.

Dim ond pan fo amodau'r ddaear a'r tywydd yn addas y dylid taenu ar y tir. Os yw ffermwr yn bwriadu taenu, dylai:

  • Sicrhau bod y defnydd yn cydymffurfio â'i gynllun nitrogen ysgrifenedig
  • Archwilio’r cae i ystyried y perygl y bydd unrhyw dail organig, slyri neu wrtaith gweithgynhyrchu yn mynd i mewn i ddŵr wyneb
  • Lle mae risg sylweddol y bydd unrhyw beth yn mynd i mewn i ddŵr wyneb, gan ystyried ffactorau fel tywydd a goleddf y tir, ni ddylai ffermwyr daenu.
  • Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le a gwrtaith nitrogen, slyri neu wrtaith organig wedi mynd i mewn i nant neu afon, anogir ffermwyr ac aelodau o'r gymuned i roi gwybod i CNC ar unwaith ar 0300 065 3000 neu drwy roi gwybod ar-lein.

Mae’r canllawiau diweddaraf i ffermwyr i’w gweld yma:  Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: canllawiau i ffermwyr a rheolwyr tir | LLYW.CYMRU.

Mae cymorth a chyngor helaeth ar gael i ffermwyr drwy Cyswllt Ffermio. Ffoniwch 0345 600 0813 neu ewch i Llygredd Amaethyddol | Cyswllt Ffermio (llyw.cymru).