Cyfoeth Naturiol Cymru wedi erlyn tirfeddiannwr yn llwyddiannus am droseddau'n ymwneud â thorri coed mewn coetiroedd

Llun o goetir yn 2020 ar ôl cwympo coed

Mae tirfeddiannwr wedi'i gael yn euog o dorri coed yn anghyfreithlon dros fwy na wyth hectar o goetir yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr.

Yn Llys Ynadon  Abertawe yn gynharach y mis hwn (29 Mawrth), cafwyd Jeff Lane yn euog o dorri adran 17 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 drwy dorri coed mewn coetir brodorol gwlyb mwy nag 8 hectar o faint heb y drwydded briodol.

Fe'i cafwyd yn euog hefyd o beidio â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi i ailblannu neu aildyfu coed yr oedd wedi'u cwympo'n flaenorol, yn 2019.  pan or-gamodd gyfyngiadau ei drwydded deneuo a chlirio 2.9 hectar o goetir brodorol.

Dangosodd ymchwiliadau swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod coed mewn cyfanswm o 8.5 hectar o goetir (sy'n cyfateb i 12 cae pêl-droed) brodorol a gwlyb, i'r gogledd o Lanilltyd Gŵyr, wedi’u torri heb y drwydded briodol.

Mae coetir brodorol a gwlyb yn gynefin â blaenoriaeth a restrir o dan adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru).

Aeth swyddogion i'r safle am y tro cyntaf yn 2019, yn dilyn adroddiad o gwympo coed yn anghyfreithlon. Gwelwyd bod Mr Lane wedi mynd y tu hwnt i gyfyngiadau ei drwydded deneuo ac wedi cwympo gwerth 2.9 hectar o goed.

Rhoddwyd rhybudd i adfer y safle a chynghorwyd Mr Lane i beidio â gwneud unrhyw waith torri coed pellach.

Ym mis Medi 2020, cafodd swyddogion luniau o'r awyr a dynnwyd gan Gymdeithas Gŵyr ac ymchwilwyr a gwelwyd bod coed wedi’u torri ar 457m³ arall o goetir (mae hyn yn cyfateb i fwy nag 20 llwyth lori o bren).

Cafodd y coed eu cwympo gan ddefnyddio offer torri coed sydd wedi’i fwriadu ar gyfer cynhyrchu biomas. O’r herwydd, cafodd llawer eu dadwreiddio a'u difrodi i’r graddau lle nad ydynt yn debygol o allu aildyfu, gyda swyddogion yn nodi mai dyma'r drosedd waethaf o dorri coed yn anghyfreithlon yr oeddent wedi'i gweld ers 30 mlynedd.

Dywedodd Callum Stone, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Coedwigaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae coed yn hynod bwysig i'r amgylchedd ac i fywyd gwyllt, fel rhan o'r dirwedd ac o ran ein hiechyd a'n lles.
Mae colli'r coetir brodorol gwlyb hwn yn ofnadwy a bydd yn cymryd cenedlaethau lawer i goed newydd dyfu yn eu lle, os o gwbl.
Fel llawer o bethau yn ein hamgylchedd, mae coed yn aml yn cael eu cymryd yn ganiataol. Mae trwyddedau cwympo coed yn rhan o'r system sydd gennym ar waith fel y gallwn reoli ein coed a'n coetiroedd yn effeithiol, eu diogelu a sicrhau eu bod yn parhau i fod o fudd i ni i gyd nawr ac i'r dyfodol.

 

Mae CNC bellach yn ceisio cael gorchymyn atafaelu Deddf Enillion Troseddau (POCA) i geisio atafaelu’r elw ariannol y mae'r diffynnydd wedi'i gael o'i ymddygiad troseddol. Dyma fydd y tro cyntaf i POCA gael ei ddefnyddio ym maes coedwigaeth yn y Deyrnas Unedig.

Cafodd yr achos ei anfon i Lys y Goron Abertawe ddoe (19 Ebrill) i ystyried a yw Mr Lane wedi gwneud elw o droseddu drwy’r gwaith torri coed anghyfreithlon. Caiff ei ddedfrydu ar ddyddiad diweddarach.

I roi gwybod am gwympo coed anghyfreithlon, ffoniwch linell gymorth digwyddiadau 24 awr CNC ar 0300 065 3000 neu rhowch wybod ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad