Mae ymgynghoriad newydd yn gwahodd pobl i helpu i lunio'r dyluniad ar gyfer y coetir coffa yn Brownhill

Brownhill

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwahodd pobl i rannu eu barn i helpu i lunio'r dyluniad ar gyfer y coetir coffa newydd yn Brownhill yn nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin.

Mae'r safle yn Brownhill wedi'i gadarnhau fel un o dri lleoliad arfaethedig ar gyfer coetiroedd coffa yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn gan y Prif Weinidog Mark Drakeford. Y nod yw i'r coetiroedd gael eu hystyried yn symbol o gadernid Cymru yn ystod pandemig Covid-19 ac o adfywio ac adnewyddu wrth iddynt dyfu.

Diben yr ymgynghoriad yw galluogi CNC i ofyn am adborth gan gymunedau a phartneriaid lleol ar y cynlluniau ar gyfer y coetir i helpu i lunio'r dyluniad a chynllunio’r gwaith rheoli parhaus ar gyfer y dyfodol.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn sicrhau bod unrhyw effeithiau posibl ar yr ardal gyfagos yn cael eu hystyried a bydd yn cynnig cyfle i bobl gyflwyno syniadau ar sut y gallant hwythau fod yn rhan o'r broses gynllunio. 

Fel rhan o'r ymgynghoriad, bydd CNC hefyd yn cynnal digwyddiad galw heibio cymunedol i drigolion ddod i siarad â staff, ar 9 Mawrth yn neuadd bentref Llangadog rhwng 12:00am a 7:00pm.   

Bydd y coetir newydd yn rhan o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru sy'n cael ei rheoli gan CNC ar ran Llywodraeth Cymru, a’r Goedwig Genedlaethol i Gymru.

Bydd y safle'n cael ei blannu i sicrhau bod y coetir newydd yn amrywiol ac yn gallu gwrthsefyll effeithiau plâu, clefydau a newid yn yr hinsawdd. Bydd hefyd yn creu cysylltedd rhwng cynefinoedd gwahanol yn y dirwedd oherwydd y coetiroedd, y gwrychoedd aeddfed a’r coed hynod sydd o amgylch y safle.

Mae’r safle hefyd yn wastad, ac felly'n rhoi cyfle i greu llwybrau cwbl hygyrch.

Meddai Miriam Jones-Walters, Cynghorydd Arbenigol Stiwardiaeth Tir ar gyfer CNC:

Mae ein coedwigoedd a'n coetiroedd yn darparu mannau diogel ac agored i bobl er mwyn hamddena a myfyrio, gan alluogi pobl i gysylltu â natur a gwella eu lles, yn ogystal â rhoi hwb i’n hamgylchedd a’n bioamrywiaeth.
Rydym yn gobeithio y bydd y coetir yn Brownhill yn tyfu’n ardal fyw i'r gymuned ei mwynhau, ac yn fan lle gall pobl ddod i gofio am eu hanwyliaid.
Fel rhan o'n cynlluniau, rydym am weithio'n agos gyda theuluoedd, cymunedau a phartneriaid i ofyn am eu barn wrth gynllunio a llunio’r coetiroedd yn fannau diogel a hygyrch ar gyfer myfyrio a hamddena.
Byddem yn annog pobl sy'n byw yn yr ardal i ddod draw ar 9 Mawrth neu gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar-lein a dweud eu dweud.
Dim ond dechrau ein hymgynghoriad yw hyn, a bydd cyfleoedd eraill dros y gwanwyn a'r haf i helpu i gynllunio a siapio'r safle hwn. Mae opsiwn ar yr ymgynghoriad ar-lein i chi ddarparu manylion cyswllt fel y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Mae’r ymgynghoriad yn agor ar1 Mawrth ac yn cau ar 26 Ebrill 2022. 

Cynhelir y digwyddiad galw heibio cymunedol yn Neuadd Bentref Llangadog ar 9 Mawrth rhwng 12:00am a 7:00pm

I gael gwybod mwy am y cynlluniau ar gyfer y coetir a dweud eich dweud, ewch i: 

Creu Coetir yn Brownhill - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)

Neu, gall preswylwyr ffonio 0300 065 3000 i ofyn am gopi caled o'r ymgynghoriad.