Adroddiad newydd yn taflu goleuni ar boblogaeth madfall y tywod Cymru

Dau lizard tywod ar log

Mae adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi gan brosiect cadwraethol pwysig dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi taflu goleuni ar boblogaethau madfallod y tywod ar ddau safle twyni tywod ar Ynys Môn.

Llwyddodd cyfres o arolygon a wnaed fel rhan o brosiect Twyni Byw i ganfod poblogaethau o fadfallod y tywod yn ystod 10 ymweliad arolygu gwahanol ar y ddau safle lle cynhaliwyd yr arolwg, sef Tywyn Aberffraw a Thywyn Niwbwrch.

Cynhaliwyd yr arolygon ar fadfallod y tywod mewn ardaloedd lle mae gwaith Twyni Byw wedi ei gynllunio. Gwnaed y gwaith chwilio yn ystod misoedd Ebrill, Mai a Medi 2019, ac roedd yn amlwg fod bridio wedi digwydd yn ystod y flwyddyn diwethaf.

Madfall y tywod yw ymlusgiad prinnaf Cymru. Arferai fod yn gyffredin ar hyd arfordir y Gogledd, ond diflannodd yn ystod y 1960au, o ganlyniad i waith datblygu a chreu amddiffynfeydd morol. Cafodd poblogaethau madfallod y tywod eu hailddarganfod yn Nhywyn Aberffraw a Thywyn Niwbwrch yn ystod y ddegawd ddiwethaf a thybir fod y rhain wedi eu hailgyflwyno yn answyddogol.

Gan fod hon yn Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop, mae angen gwaith arolygu a lliniaru priodol cyn cynnal unrhyw waith ymyrryd. Mae hyn yn sicrhau na fydd gwaith arfaethedig Twyni Byw i adfywio’r twyni tywod yn niweidio’r boblogaeth gyfredol o fadfallod y tywod sydd ar y safleoedd.

Meddai Kathryn Hewitt, Rheolwr Prosiect Twyni Byw:

Rydym yn falch ein bod yn gallu rhannu canfyddiadau’r adroddiadau Twyni Byw o fadfallod y tywod. Gan fod hwn yn un o ymlusgiaid prinnaf Cymru, bydd ein prosiect yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau fod y boblogaeth gyfredol ar y ddau safle nid yn unig yn ddiogel ac yn cael eu gwarchod ond hefyd yn cael yr amodau gorau posibl er mwyn ffynnu.
Yn y tymor hir, dylai’r cynnydd yn yr ardaloedd o dywod moel o ganlyniad i’n gwaith wella a chynyddu gwytnwch y rhywogaeth hon yn y ddau safle.

Mae Prosiect Twyni Byw CNC yn bwriadu adfer mwy na 2,400 hectar o dwyni tywod, ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle gwahanol yng Nghymru. Bydd y prosiect yn parhau tan fis Rhagfyr 2022.