CNC yn galw ar fusnesau i helpu i atal pobl rhag dympio teiars gwastraff

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n galw ar fusnesau sy’n cynhyrchu teiars gwastraff i helpu i atal pobl rhag dympio a llosgi teiars yn anghyfreithlon yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.

Meddai Pippa Sabine, sy’n swyddog Taclo Troseddau Gwastraff ar gyfer CNC:

“Mae cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o ddympio a llosgi teiars yn anghyfreithlon, sydd nid yn unig yn niweidio’r amgylchedd, ond hefyd yn gallu cael effaith fawr ar iechyd pobl a’r economi leol.
“Mae CNC wedi cysylltu â busnesau lleol sy’n cynhyrchu teiars gwastraff i gael eu cymorth er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon drwy wirio i ble mae eu teiars yn mynd.”

Mae gan bob busnes gyfrifoldeb gyfreithiol i sicrhau nad yw eu gwastraff yn mynd i ddwylo troseddwyr.

Ychwanegodd Pippa:

“Cyn cyflogi contractwr i symud gwastraff, dylai busnesau ddilyn y canllawiau hyn:
  • Gofynnwch a yw eich contractwr wedi’i gofrestru i gario gwastraff. Gallwch weld Cofrestr Gyhoeddus Cludwyr, Broceriaid a Delwyr Gwastraff ar wefan CNC.
  • Gofynnwch i ble maen nhw’n mynd â’ch teiars. Dylai hyn fod i safle sy’n meddu ar drwydded wastraff; gallwch wirio safleoedd trwyddedig ar wefan CNC.
  • Gofynnwch am nodyn trosglwyddo, bydd hwn yn dweud i ble aeth eich gwastraff. Dylech gadw copi o’r nodyn hwn am ddwy flynedd.
“A chofiwch, os cewch gynnig pris am waredu’ch teiars sy’n swnio’n rhy dda i fod yn gyfreithlon, meddyliwch ddwywaith gan fod eich greddf yn siŵr o fod yn gywir.”

Mae troseddau gwastraff yn broblem ddifrifol sy’n costio miliynau o bunnoedd i fusnesau, perchnogion tir a threthdalwyr bob blwyddyn ac yn achosi cryn niwed i’r amgylchedd, iechyd pobl a bywyd gwyllt.

Dylai unrhyw un sy’n amau gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn ei ardal roi gwybod amdano drwy linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.